System ysgrifennu

Oddi ar Wicipedia

System o symbolau i gynrychioli iaith er mwyn cyfathrebu negeseuon a syniadau yw system ysgrifennu. Dull trefnus, rheolaidd ac, fel arfer, safonedig yw hi a defnyddir ei symbolau neu arwyddion er mwyn amgodio (ysgrifennu) a dadgodio (darllen) gwybodaeth yn weledol neu'n gyffyrddol (er enghraifft, Braille). Gelwir y symbolau hyn yn nodau a'r set ohonynt yn ysgrifen.[1] Fel arfer, rhoddir y nodau hyn, gan gynnwys llythrennau a rhifau, ar rywbeth parhaol fel papur neu storfa electronig, er y gellir defnyddio dulliau dros dro fel ysgrifennu mewn tywod neu yn yr awyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Definitions of writing systems". Omniglot: The Online Encyclopedia of Writing Systems and Languages. www.omniglot.com. Cyrchwyd 2013-06-29.