Hangeul

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Hangul)
"Han-geul" yn Hangeul

Hangeul (hefyd Hangul neu, yng Ngogledd Corea, Chosongul) yw'r wyddor ffonetig a defnyddir ar gyfer ysgrifennu Coreeg. Yn wahanol i'r system Hanja yn yr iaith Tsieineeg sy'n defnyddio arwyddluniau, mae Hangeul yn ffonetig gyda 24 llythyren. Datblygwyd y system yn nheyrnasiad y brenin Sejong Fawr (1397-1450) wedi iddo gomisiynu ysgolheigion i ddyfeisio trefn newydd a fyddai yn caniatáu i bawb medru dysgu i ddarllen ac ysgrifennu Coreeg yn hawdd. Cyhoeddwyd y system am y tro cyntaf yn yr Hunmin Jeongeum yn 1446.[1]

Mewn ysgrifen, mae'r llythrennau yn cael eu gosod mewn blociau fesul sillaf a'u darllen o'r top chwith i'r dde gwaelod. Yn draddodiadol gosodwyd a darllenwyd y blociau ar i lawr mewn colofnau ond erbyn hyn mae'n arferol i'w darllen o'r dde i'r chwith fel ieithoedd y wyddor Lladin, hefyd gyda bylchau rhwng geiriau ac atalnodau.

Dyma'r system a ddefnyddir yn Ne Corea a Gogledd Corea, er bod trefn y wyddor ac enwau'r llythrennau yn wahanol yn y ddwy wlad. Yn Ne Corea, mae 9 Hydref yn cael ei ddathlu fel "Dydd Hangeul".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The background of the invention of Hangeul" (yn Saesneg). Sefydliad Cenedlaethol yr Iaith Coreeg. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2014.