Darllen
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Proses wybyddol o ddehongli symbolau er mwyn eu deall yw darllen. Mae darllen yn fodd o gaffaeliad iaith, o gyfathrebu, ac o rannu gwybodaeth a syniadau. Mae llythrennedd yn golygu'r gallu i ddarllen testun iaith yn awtomatig fel bod sylw ar gael yn hollol er mwyn dadansoddi'r hyn sy'n cael ei ddarllen. Mae deunyddiau darllen yn cynnwys llyfrau, papurau newydd, cylchgronau, pamffledi, a llythyron.
Nid yw rhai mathau o ddarllen yn seiliedig ar systemau ysgrifennu, megis nodiant cerddorol neu bictogramau.