Pwyll Pendefig Dyfed

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pwyll yn hela yng Nglyn Cuch - yn y cefndir mae Arawn, sydd wedi gosod ei gwn ar y carw (engrafiad yng nghyfieithiad Charlotte Guest o'r Mabinogion (ail argraffiad, 1877)

Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed yw'r gainc gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi. Mae hefyd yn enw ar un o brif gymeriadau'r chwedl, cymeriad sydd wedi'i seilio ar dduw Celtaidd, cynharach.

Mae Pwyll, brenin Dyfed allan yn hela un diwrnod yng Nglyn Cuch, heb fod ymhell o'i lys yn Arberth, pan mae'n llithio ei gŵn hela ar garw a laddwyd gan gŵn heliwr arall. Arawn brenin Annwn yw'r heliwr arall, ac mae'n cyhuddo Pwyll o ymddwyn yn anghwrtais tuag ato. Dywed y gall Pwyll wneud iawn am y sarhad trwy newid lle ag ef am flwyddyn. Cymer Pwyll bryd a gwedd Arawn a mynd yn frenin Annwn, tra mae Arawn yn teyrnasu ar Ddyfed ar ffurf Pwyll. Tra yn Annwn mae Pwyll yn ymladd â Hafgan, gelyn Arawn, ac yn ei drechu. Caiff Pwyll y teitl "Pen Annwfn".

Prioda Pwyll a Rhiannon, a genir mab iddynt. Y noson ar ôl ei eni mae'r baban yn diflannu, a chyhuddir Rhiannon o'i ladd. Er iddi wadu hyn mae'r llys yn pwyso ar Pwyll i'w hysgaru. Gwrthyd Pwyll wneud hyn, ond mae Rhiannon yn gorfod gwneud penyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach mae Teyrnon Twrf Liant, brenin Gwent Is Coed, yn dod â'r mab i lys Pwyll. Yr oedd y bachgen wedi ei gymeryd trwy hud i lys Teyrnon, lle magwyd ef dan yr enw "Gwri Wallt Eurin". Caiff yr enw Pryderi o eiriau Rhiannon pan glyw fod ei mab yn fyw: "Oedd esgor fy mhryder im, pe gwir hynny."

Wedi marwolaeth Pwyll mae Pryderi yn ei ddilyn ar orsedd Dyfed. Mae'n ychwanegu tri chantref Ystrad Tywi a phedwar cantref Ceredigion at ei deyrnas, ac mae'n priodi â Chigfa ferch Gwyn Gohoyw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Y testun[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)