Hafgan

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad yn y Gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi sy'n herio Arawn brenin Annwn am reolaeth y deyrnas honno unwaith bob blwyddyn yw Hafgan. Cyfeirir ato fel "Hafgan brenin Annwn".[1]

I wneud iawn am ei ansyberwydd (anghwrteisi) yn llithro ei helgwn ar y carw a ddaliwyd gan helgwn Arawn, cytuna Pwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn gan gymryd arno bryd a gwedd y brenin. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â Hafgan ar ryd ar ffin y deyrnas ac yn ei drechu gan achub y deyrnas i Arawn. Credai W. J. Gruffydd fod Hafgan yn ymrithiad arall o Arawn ei hun.[2] Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.

Cafodd Pwyll gyngor gan Arawn pan gytunodd newid lle ag ef. Dywed Arawn wrtho i beidio â gwrando ar Hafgan, ar ôl ei glwyfo'n angeuol, pan ymbilia iddo dorri ei ben. Pe dorrai ei ben byddai Hafgan yn fyw eto ac yn ei drechu.[3] Ceir motif cyffelyb mewn sawl chwedl, yn cynnwys y gerdd Saesneg Canol hir Sir Gawain and the Green Knight (sy'n deillio o ffynonellau Cymreig/Brythonig).

Credir fod Hafgan, fel mae ei enw yn awgrymu, yn ymgnawdoliad o'r Haf sy'n cael ei drechu gan y Gaeaf bob blwyddyn. Os felly, mae rhan o'r chwedl yn eisiau, gan y byddai Hafgan ei hun yn trechu Arawn (y Gaeaf) mewn brwydr arall, ar ddechrau'r haf, ac yn rheoli'r deyrnas am hanner y flwyddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd 1989), tud. 3.
  2. W. J. Gruffydd, Rhiannon.
  3. Ifor Williams (gol.), op. cit., tt. 3, 5-6.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]