Gaeaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Tymhorau

Schneelandschaft Vorarlberg Furx.jpg Gaeaf
Frühlingslandschft Aaretal Schweiz.jpg Gwanwyn
Sea beach cliff 2004 ubt.jpeg Haf
Czechia, Jicin, Wallenstein's alley.jpg Hydref

Golygfa aeaf

Un o dymhorau'r flwyddyn yw'r Gaeaf. Yn seryddol mae'r tymor yn dechrau ar yr 21 Rhagfyr i'r gogledd o'r gyhydedd ac ar 21 Mehefin yn y de. Mae'n gorffen ar 21 Mawrth yn y gogledd ac ar Fedi 21 yn y de. Ond yn aml ystyrir y misoedd cyfan sef Rhagfyr, Ionawr a Chwefror yn y gogledd a Mehefin, Gorffennaf ac Awst yn y de fel misoedd y gaeaf. Yn ôl y calendr Celtaidd ar y llaw arall, Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr ydyw, a dyna pam y gelwir 31 Hydref yn Galan Gaeaf yn Gymraeg.

Yng Nghymru y mae yn oer yn y gaeaf gyda'r planhigion ddim yn tyfu fawr ddim os o gwbwl, a bydd nifer o adar yn fwy dof ac yn chwilio am fwyd o gwmpas y tai. Mae yn tywyllu yn gynnar yn y prynhawn, ac yn dywll yn hwyr yn y bore. Mae'n bwrw eira ac yn gallu rhewi'n galed yn ystod y gaeaf.

Ysgrifennodd R. Williams Parry awdl enwog o'r enw Y Gaeaf.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am gaeaf
yn Wiciadur.