Hydref (tymor)

Oddi ar Wicipedia
Tymhorau

Gaeaf
Gwanwyn
Haf
Hydref

Dail hydrefol y ffawydden

Y tymor sy'n dilyn yr haf ac yn rhagflaenu'r gaeaf yw'r hydref. Cyfatebai, yn yr hen Galendr Gwyddelig, i fisoedd Awst, Medi a Hydref — ond heddiw mae'r tymor yn cael ei ystyried gan meteorolegwyr fel y cyfnod rhwng 1 Medi a 30 Tachwedd yn hemisffer y gogledd.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r gair hydref o'r Proto-Celtaidd *sido-bremo a olygai "brefu'r hyddod",[1] yn debyg gan mai'r adeg hon o'r flwyddyn yw tymor paru ceirw. Yn Gernyweg defnyddir yr enw kynyav (cynhaeaf) ar gyfer y tymor hwn, ac yn Llydaweg defnyddir diskar-amzer (amser dirywio) neu dibenn-hañv (diwedd yr haf).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]