Efelffre
Gwedd
| Math | cwmwd |
|---|---|
| Cysylltir gyda | Pwyll Pendefig Dyfed |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Cantref Gwarthaf |
| Gwlad | |
| Yn ffinio gyda | Penfro (cantref), Daugleddau |
| Cyfesurynnau | 51.7989°N 4.7423°W |
![]() | |
Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Efelffre. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn nwyrain Sir Benfro.

Gorweddai Efelffre yng ngorllewin Cantref Gwarthaf. Roedd yn ffinio â chantref Penfro i'r de, cantref Daugleddau i'r gogledd-orllewin, a chymydau Amgoed a Peuliniog i'r gogledd a Phenrhyn i'r dwyrain, yng Nghantref Gwarthaf ei hun.
Prif ganolfan y cwmwd yn yr Oesoedd Canol oedd Arberth, lleoliad llys Pwyll yn y chwedl Pwyll Pendefig Dyfed, y gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi.
Daeth Efelffre i feddiant Normaniaid de Penfro. Un o ganolfannau eglwysig y cwmwd yn y cyfnod hwnnw oedd Llanbedr Efelffre.
