Undeb Gwyddbwyll Cymru
Undeb Gwyddbwyll Cymru yw ffederasiwn gwyddbwyll cenedlaethol Cymru.
Fe'i sefydlwyd ar 19 Mehefin 1954 drwy uno cymdeithasau yn ne Cymru a Mynwy, ac i ddechrau roedd yn rhan o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (BCF). Sefydlodd yr Undeb Pencampwriaeth Gwyddbwyll Cymru yn 1955.
Ar 15 Tachwedd 1969 datgysylltodd wrth y BCF a gwneud cais i fod yn aelod llawn ac annibynnol o Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd. Un o arweinwyr yr ymgyrch dros undeb annibynnol i Gymru oedd y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones. Derbyniwyd y cais gan FIDE yng Nghyngres Siegen yn 1970 a chafodd Cymru'r cyfle i gystadlu yn ei Olympiad Gwyddbwyll cyntaf yn Skopje 1972, gan ddod yn y 43ain safle o 62.
Mae'r Undeb yn cynnwys 6 cymdeithas sirol, neu ranbarth: Dyfed [1], Dwyrain Morgannwg [2], Gwent [3], Gorllewin Cymru, a Swydd Gaer a Gogledd Cymru.
Nod yr Undeb yw hyrwyddo, trefnu a rheoli gwyddbwyll gystadleuol led led Cymru. Ei slogan yw Ymosodiad Dewr, Amddiffyniad Sicr.
Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Welsh Chess Union