Gramadeg cynhyrchiol

Oddi ar Wicipedia

Dull ieithyddol o astudio cystrawen yw gramadeg cynhyrchiol. Amcan gramadeg cynhyrchiol yw creu casgliad o reolau a all ragweld pa gyfuniadau o eiriau fydd yn ffurfio brawddegau gramadegol gywir mewn iaith benodol. Dylai weithredu fel algorithm sy'n dweud a yw brawddeg wedi ffurfio'n gywir ai peidio. Fel arfer, fydd y rheolau hefyd yn rhagfynegi morffoleg geiriau o fewn brawddeg.

Noam Chomsky a sylfaenodd gramadeg cynhyrchiol cyfoes yn y 1950au. Mae mwy nag un fersiwn o ramadeg cynhyrchiol yn cystadlu am sylw ieithyddion erbyn hyn. Ceir damcaniaeth wreiddiol Chomsky, gramadeg trawsffurfiannol, a'i fersiwn ddiweddaraf, y cynllun minimalaidd, ynghŷd â damcaniaethau eraill megis Gramadeg strwythur cymal blaenair, Gramadeg geiriol swyddogaethol, Gramadeg categorïaidd, Gramadeg perthynol, a Gramadeg coeden-gydiol.

Honna Chomsky fod llawer o briodweddau gramadeg cynhyrchiol yn deillio o ramadeg cynhenid. Daliad llawer o gefnogwyr gramadeg cynhyrchiol nad yw'r rhan fwyaf o ramadeg yn ganlyniad i swyddogaeth gyfathrebol, ac nad yw'n cael ei ddysgu o amgylchfyd plentyn. Yn hynny o beth, mae eu safbwynt yn cyferbynnu â chefnogwyr gramadeg gwybyddol a damcaniaethau swyddogaethol ac ymddygiadol.

Dim ond ateb ie-neu-na gall algorithm cynhyrchiol rhoi, rhywbeth sy'n cyferbynnu â gramadeg stocastig; fodd bynnag mae gwaith Joan Bresnan ac eraill yn cyfuno agweddau o'r ddau.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae natur gynhyrchiol i'r cynllun a geir yn Ashtadhyayi Pāṇini, a ysgrifennwyd yn y 4 CC.

Dechreuodd y damcaniaethau cyfoes ddatblygu yng ngwaith Chomsky yn y 1950au. Crynhöwyd y ddamcaniaeth safonol yn ei lyfr Aspects of the theory of syntax a gyhoeddwyd ym 1965. Craidd y ddamcaniaeth yw bod gramadeg trawsffurfiannol yn cysylltu dwy wedd brawddeg - y strwythur dwfn a strwythur yr arwyneb. Rhwng 1965 a 1973, estynnwyd y damcaniaeth i gynnwys cyfyngiadau cystrawennol a damcaniaeth X-bar.

Rhwng 1975 a 1990, daeth gramadeg perthynol i'r amlwg, sy'n rhoi lle mwy amlwg i oddrychau, gwrthrychau uniongyrchol a gwrthrychau anuniongyrchol. O 1990 ymlaen, datblygodd Chomsky y cynllun minimalaidd.

Gramadeg di-gyd-destun[golygu | golygu cod]

Mae hierarchaeth Chomsky yn fodd o gymharu gramadegau cynhyrchiol, ac mae ynddo gyfres o fathau gwahanol o ramadeg, pob un gyda grym mynegiannol fwy na'r rhai cynt. Ymysg y symlaf yw gramadeg rheolaidd (gradd 3); honna Chomsky nad yw'n fodel ddigonol o iaith ddynol, gan nad yw'n galluogi mewnosod cymal ar ganol cymal (rhywbeth sy'n digwydd ymhob iaith naturiol).

Ar lefel uwch ceir gramadeg di-gyd-destun (gradd 2). Gellir mynegi deilliant brawddeg ar ffurf coeden. Yn nhyb llawer o ieithyddion, nid llinyn o eiriau yn unig mo brawddeg, ond coeden gydag uwch- ac is-ganghennau.

Mae'r canlynol yn enghraifft o goeden strwythur ar gyfer y frawddeg Saesneg The dog ate the bone.. Mae S yn dynodi brawddeg; D, pennydd; N, enw; V, berf; NP, cymal enwol; a VP, cymal berfol.

Gellir hefyd ysgrifennu'r un strwythur ar un llinell gan ddefnyddio nodiant cromfachau:
[S [NP [D The ] [N dog ] ] [VP [V ate ] [NP [D the ] [N bone ] ] ] ]

Honna Chomsky nad yw gramadeg strwythur cymal fel yr uchod chwaith yn fodel ddigonol o ieithoedd naturiol, a dyma a'i hysgogodd i ddatblygu gramadeg trawsffurfiannol.

Gramadegolrwydd[golygu | golygu cod]

Pan ddatblygwyd gramadeg cynhyrchiol am y tro cyntaf, gobeithiai rywrai y byddai'n ffurfioli'r casgliad o reolau mae dyn yn eu gwybod wrth wybod ei famiaith ac wrth gynhyrchu brawddegau cywir yn ei famiaith (greddf ramadegol). Ond mae Chomsky wedi gwadu hyn dro ar ôl tro: yn ei dyb ef, mae gramadeg yn ddamcaniaeth sy'n nodi'r hyn sy'n rhaid i ddyn wybod er mwyn adnabod brawddegau gramadegol gywir, ond nid o reidrwydd yn egluro'r ffyrdd mae dyn yn deall neu'n cynhyrchu iaith.

Mewn gwirionedd, mae siaradwyr iaith gyntaf fel arfer yn gwrthod brawddegau a gynhyrchir gan ramadeg strwythur cymal. Er enghraifft, er bod mewnosodiad dwfn iawn yn gywir yn ôl rheolau'r gramadeg, nid ydyn yn cael eu derbyn gan wrandawyr. O ganlyniad, nid oes gan ramadeg cynhyrchiol lawer o ddylanwad ym maes seicoieithyddiaeth.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Defnyddir gramadeg cynhyrchiol mewn theori cerddoriaeth yn ogystal, yn benodol wrth ddadansoddi dilyniant cordiau, ere enghraifft yng ngwaith Fred Lerdahl a Heinrich Schenker.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: gramadeg cynhyrchiol, gramadeg trawsffurfiannol, y cynllun minimalaidd, Gramadeg strwythur cymal blaenair, Gramadeg geiriol swyddogaethol, Gramadeg categorïaidd, Gramadeg perthynol, Gramadeg coeden-gydiol, gramadeg gwybyddol, Gramadeg di-gyd-destun, pennydd o'r Saesneg "generative grammar, transformational grammar, the minimal proghram, head-driven phrase structure grammar, Lexical functional grammar, Categorial grammar, Relational grammar, Tree-adjoining grammar, cognitive grammar, context-free grammar, determiner". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.