Semanteg

Oddi ar Wicipedia

Gwyddor ystyr iaith yw semanteg[1][2][3] neu ystyreg.[2] Gellir ei ystyried yn gyd-ddisgyblaeth neu'n is-faes i semioteg, sef astudiaeth symbolau ac arwyddion o bob math a'u hystyr. Mae astudiaethau semantig yn pontio ieithyddiaeth a rhesymeg ac athroniaeth.

Ieithyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol
Seineg
Ffonoleg
Morffoleg
Cystrawen
Semanteg
Semanteg eiriadurol
Arddulleg
Pragmateg
Ieithyddiaeth hanesyddol
Ieithyddiaeth gymdeithasegol
Ieithyddiaeth gymharol
Caffael iaith
Ieithyddiaeth gymhwysol
Ieithyddiaeth wybyddol

Yn ieithyddiaeth hanesyddol, agwedd empiraidd yw semanteg sy'n dadansoddi datblygiad geiriau a'u diffiniadau. Gall astudiaethau semantig gan ieithyddion modern gymryd ffurf debyg iawn i'r maes athronyddol: asesir sut mae ystyron geiriau unigol yn cyfrannu at ystyr yr ymadrodd a'r frawddeg, a deall y berthynas rhwng geiriau a'r pethau maent yn cyfeirio atynt. Dechreuodd semanteg dynnu sylw ieithyddion yn Ffrainc a'r Almaen yn y 1820au. Ymhlith semantyddion yr 20g mae Gustaf Stern, Jost Trier, B. L. Whorf, Uriel Weinreich, Stephen Ullmann, Thomas Sebeok, Noam Chomsky, Jerrold Katz, a Charles Osgood.

Un o'r prif ddulliau yw semanteg adeileddol sy'n defnyddio egwyddorion ieithyddiaeth adeileddol i astudio ystyr drwy ystyried y berthynas rhwng gwahanol fathau o eiriau.[4] Datblygwyd semanteg gynhyrchiol gan George Lakoff a James McCawley, cangen o ddamcaniaeth gramadeg drawsffurfiol sy'n pwysleisio swyddogaeth ystyr mewn dadansoddiad ieithyddol.

Athroniaeth a rhesymeg[golygu | golygu cod]

I'r athronydd, astudiaeth ystyron haniaethol mewn iaith a rhesymeg symbolaidd yw semanteg. Yn y cyd-destun hwn mae semanteg yn ymwneud ag ystyr a gwirionedd, ystyr a'r meddwl, a'r berthynas rhwng arwyddion a'u hystyron. Gan fabwysiadu geirfa'r ieithydd, gelwir y berthynas ffurfiol rhwng arwyddion neu ymadroddion yn gystrawen gan resymegwyr.

Y rhesymegydd Pwylaidd Alfred Tarski a arloesoedd semanteg resymegol yn y 1930au. Archwiliodd Tarski i gysyniad y gwirionedd, gan wadu bod yn rhaid amgyffred pob problem ym meysydd rhesymeg ac athroniaeth drwy gystrawen resymegol.[4] Ymhlith y prif feddylwyr eraill yn y maes hwn mae Gottlob Frege, Victoria'r Fonesig Welby, Bertrand Russell, Otto Neurath, Rudolf Carnap, Alonzo Church, Alfred Tarski, C. I. Lewis, Ludwig Wittgenstein, J. L. Austin, W. V. Quine, P. F. Strawson, Steven Schiffer, John Searle, H. P. Grice, Saul Kripke, Donald Davidson, a Gilbert Harman.

Gwyddorau cymdeithas a'r dyniaethau[golygu | golygu cod]

Nod semanteg gyffredinol yw astudio'r effaith sydd gan ystyron geiriau ar ymddygiad dynol. Datblygwyd y ddisgyblaeth hon gan Alfred Korzybski a'i ddilynwyr Stuart Chase, S. I. Hayakawa, a H. L. Weinberg. Dylanwadodd semanteg ieithyddol ar ddamcaniaethau'r anthropolegwyr W. H. Goodenough, F. G. Lounsbury, a Claude Lévi-Strauss. Cafwyd dylanwad gan semanteg ar sawl pwnc arall, gan gynnwys seicoleg, cymdeithaseg, ethnomethodoleg ac ôl-adeileddaeth.

Cafwyd dylanwad ar feirniadaeth lenyddol ac arddulleg gan The Meaning of Meaning (1925), llyfr gan C. K. Ogden ac I. A. Richards. Mae'r maes hwn yn ymwneud ag effaith y trosiad a'r gwahaniaethau rhwng iaith arferol ac iaith lenyddol.

Cyfrifiaduro[golygu | golygu cod]

Mewn ieithoedd cyfrifiaduro, y rhan o'r iaith sy'n nodi ystyr neu effaith testun yn ôl y rheolau cystrawen yw'r semanteg.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  semanteg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Ionawr 2017.
  2. 2.0 2.1 Geiriadur yr Academi, [semantics].
  3. "semanteg Archifwyd 2017-07-29 yn y Peiriant Wayback.", Termau ar wefan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd ar 11 Ionawr 2017.
  4. 4.0 4.1 Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (gol.) The Fontana Dictionary of Modern Thought (Fontana/Collins, 1977), t. 566.
  5. (Saesneg) "Semantics" yn A Dictionary of Computing (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 11 Ionawr 2017.