Ethnomethodoleg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Is-faes i gymdeithaseg yw ethnomethodoleg sydd yn astudio yr adnoddau, dulliau gweithredu, ac arferion y mae pobl o ddiwylliant neu gymdeithas benodol yn defnyddio.

Arloeswyd ethnomethodoleg yn niwedd y 1960au ac yn y 1970au gan Harold Garfinkel ac Harvey Sacks. Testunau sylfaenol y maes yw Studies in Ethnomethodology gan Garfinkel, a gyhoeddwyd yn 1967, a darlithoedd Sacks o 1965 i 1975, a gesglir yn y gyfrol Lectures in Conversation (1992). Bathodd Garfinkel yr enw ethnomethodology trwy gydweddiad ag arbenigaethau anthropolegol eraill, megis ethnowyddoniaeth ac ethnobotaneg, sydd yn astudio ffurfiau ar ddealltwriaeth gynhenid.

Prif broses ethnomethodoleg ydy ymresymu ymarferol, sef defnyddio cynllun rhesymol – hynny yw, dulliau a thechnegau cymdeithasegol –i ddeall gweithgareddau ymarferol, yn benodol y moddion a ddefnyddir gan unigolion i ymateb i'w gilydd yn nhermau synnwyr cyffredin. Gan ei bod yn canolbwyntio ar brofiad yr unigolyn mewn rhyngweithiadau cymdeithasol, mae ethnomethodoleg yn groes i ddamcaniaethau cymdeithaseg glasurol, megis syniadaeth Karl Marx, Max Weber, a Émile Durkheim, sydd yn ymdrin â strwythur gymdeithasol a'i goblygiadau. Yn hytrach, mae'n tynnu ar ddamcaniaeth rhyngweithredaeth symbolaidd George Herbert Mead a ffenomenoleg fel y'i deellir gan Alfred Schutz, ac yn debycach i seicoleg gymdeithasol na chymdeithaseg glasurol.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Michèle Barrett, "Ethnomethodology" yn The Fontana Dictionary of Modern Thought golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t.216.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Martyn Hammersley, The Radicalism of Ethnomethodology (Manceinion: Manchester University Press, 2018).
  • Dirk vom Lehn, Harold Garfinkel: The Creation and Development of Ethnomethodology (Walnut Creek, Califfornia: Left Coast Press, 2014).