Émile Durkheim
| Émile Durkheim | |
|---|---|
| Ganwyd | David Émile Durkheim 15 Ebrill 1858 Épinal |
| Bu farw | 15 Tachwedd 1917 Paris |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Alma mater |
|
| Ymgynghorydd y doethor | |
| Galwedigaeth | anthropolegydd, athronydd, cymdeithasegydd, athro cadeiriol, hanesydd crefydd, addysgwr, ethnolegydd |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | The Elementary Forms of the Religious Life, The Division of Labour in Society, Education and Sociology (book) |
| Prif ddylanwad | Louis de Bonald, Auguste Comte, Herbert Spencer, Montesquieu |
| Priod | Louise Dreyfus |
| Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
Cymdeithasegydd Ffrengig oedd Émile Durkheim (15 Ebrill 1858 – 15 Tachwedd 1917). Ystyrir ei waith yn allweddol o ran gosod sylfeini cymdeithaseg ac anthropoleg. Bu'n olygydd y cylchgrawn cymdeithasegol cyntaf, L'Année Sociologique, a bu'n darlithio ac ysgrifennu ar bynciau megis addysg, trosedd, crefydd, hunanladdiad a nifer o agweddau eraill ar gymdeithaseg.
Ganed ef yn ninas Épinal, département Vosges, dwyrain Ffrainc, i deulu Iddewig; bu ei dad, ei daid a'i hen daid yn dal swydd rabbi. Ystyriai ef ei hun mai ffenomenen gymdeithasol oedd crefydd.
Aeth i'r École Normale Supérieure yn 1879, yr un flwyddyn a Jean Jaurès a Henri Bergson. Treuliodd flwyddyn yn astudio yn yr Almaen cyn cael swydd darlithydd yng ngholeg hyfforddi athrawon cyntaf Ffrainc yn Bordeaux yn 1887. Dechreuodd gyhoeddi traethodau yn y 1890au. Yn 1902 daeth yn Athro addysg yn y Sorbonne.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- R. Elwyn Hughes, Durkheim, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)