Jean Jaurès

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jean Jaurès
Jean-Jaurès01.jpg
Ganwyd Auguste Marie Joseph Jean Léon Jaurès Edit this on Wikidata
3 Medi 1859 Edit this on Wikidata
Castres Edit this on Wikidata
Bu farw 31 Gorffennaf 1914 Edit this on Wikidata (54 oed)
Achos: llofruddiaeth Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Ffrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ecole Normale Supérieure
  • Lycée Louis-le-Grand Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd, athro prifysgol, newyddiadurwr, ysgrifennwr, hanesydd, gohebydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Arlywydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • L'Humanité
  • La Dépêche du Midi
  • Prifysgol Toulouse Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cystadleuthau Cyffredinol, agrégation de philosophie Edit this on Wikidata

Gwleidydd sosialaidd o Ffrancwr oedd Jean Jaurès (3 Medi 185931 Gorffennaf 1914).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Jean Jaurès ar 3 Medi 1859 yn Castres, Tarn, yn ne Ffrainc, i deulu dosbarth-canol a oedd yn dlawd o ganlyniad i fethiannau busnes. Enillodd Jean ysgoloriaeth i'r École Normale Supérieure ym Mharis. Gweithiodd yn athro yn lycée Albi o 1881 i 1883, ac yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Toulouse o 1883 i 1885.[1]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Jaurès yn aelod annibynnol yn Siambr y Dirprwyon dros Tarn yn 1885. Collodd ei sedd yn etholiadau 1889, a dychwelodd i Brifysgol Toulouse. Derbyniodd ei ddoethuriaeth athroniaeth yno yn 1891. Ysgrifennodd un o'i theses, ar bwnc sosialaeth yn ysgrifeniadau Luther, Kant, Fichte, a Hegel, yn Lladin.

Siaradodd Jaurès yn gyhoeddus o blaid achos y glowyr yn ystod streic Carmaux yn 1892, a'r flwyddyn olynol fe'i etholwyd yn ddirprwy dros yr etholaeth honno. Ymaelododd â'r Sosialwyr Annibynnol, un o'r pum carfan o sosialwyr yn Siambr y Dirprwyon a'r un a oedd lleiaf o blaid syniadaeth chwyldroadol Karl Marx, dan arweiniad Alexandre Millerand. Ysgrifennodd Jaurès y llyfr Les Preuves i ddadlau dros achos y Capten Alfred Dreyfus, er yr oedd y sosialwyr Marcsaidd yn gwrthod amddiffyn swyddog milwrol a dyn y dosbarth canol. Collodd Jaurès ei sedd yn etholiadau 1898.[1]

Bu rhywfaint o gymodi rhwng y carfanau sosialaidd yn Ffrainc, a chynhaliwyd y gyd-gyngres gyntaf ganddynt yn 1899. Chwalodd y berthynas unwaith eto yn sgil penderfyniad Millerand i ymuno â'r llywodraeth adain-chwith dan René Waldeck-Rousseau, a daeth Jaurès i arwain y Blaid Sosialaidd Ffrengig (Parti Socialiste Français), grŵp ar wahân i Blaid Sosialaidd Ffrainc (Parti Socialiste de France). Ailetholwyd Jaurès yn 1902, a pharhaodd i gefnogi'r bloc adain-chwith yn Siambr y Dirprwyon ac ysgrifennu o blaid polisïau Waldeck-Rousseau.[1]

Yn y 1910au, cyflawnodd Jaurès ei gampwaith hanesyddol, Histoire socialiste de la Révolution française (1901–07), gwaith a ysbrydolwyd gan hanesyddiaeth Marx, Plutarch, a Jules Michelet. Cydsefydlodd y papur newydd L'Humanité yn 1904, a fe gyhoeddodd sawl erthygl yn arddel egwyddorion sosialaeth ddemocrataidd. Cyhoeddodd sawl llyfr ysgolheigaidd arall, gan gynnwys La Guerre franco-allemande 1870–1871 (1908) a L’Armée nouvelle (1910).

Yn 1904, condemniwyd llywodraethau'r bwrdais gan yr Ail Gyngres Gydwladol, ac ufuddhau a wnaeth Jaurès i'r gwaharddiad ar sosialwyr i gynnal llywodraethau an-sosialaidd. Cyfunodd y ddwy blaid sosialaidd Ffrengig yn 1905 gan ffurfio'r Section Française de l’Internationale Ouvrière (SFIO) yn wrthblaid i'r llywodraeth. O ganlyniad, ni ddaeth diwygiadau Waldeck-Rousseau i rym. O ran polisi tramor, dadleuodd Jaurès yn erbyn rhyfeloedd trefedigaethol ac o blaid gwrthfilitariaeth a nesâd rhwng Ffrainc a'r Almaen.[1]

Llofruddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 31 Gorffennaf 1914, ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, fe'i saethwyd yn farw gan Raoul Villain, cenedlaetholwr a oedd yn gwrthwynebu heddychaeth Jaurès. Carcharwyd Villain trwy gydol y rhyfel, a fe'i cafwyd yn ddieuog o llofruddiaeth Jaurès gan reithgor yn 1919.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Jean Jaurès. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2019.