Achos Dreyfus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Sgandal wleidyddol oedd Achos Dreyfus, a rannodd Ffrainc yn yr 1890au a'r 1900au cynnar. Roedd yn ymwneud ag euogfarnu'r Capten Alfred Dreyfus, swyddog magnelaeth Ffrengig ifanc o dras Alsasiaidd - Iddewig, am fradwriaeth ym mis Tachwedd 1894. Cafodd ei ddedfrydu i'r carchar am oes, wedi iddo gael ei gyhuddo o drosglwyddo cyfrinachau milwrol Ffrengig i'r Llysgenhadaeth Almaenig ym Mharis. Cafodd Dreyfus ei anfon i'r wladfa benydiol ar Île du Diable yn Guyane a cafodd ei gadw mewn caethiwed anghyfannedd.

Dyflwydd yn ddiweddarach, ym 1896, daeth tystiolaeth i'r amlwg a oedd yn pwytio at euogrwydd cadfridog yn y fyddin Ffrengig, sef Ferdinand Walsin Esterhazy. Ond atalwyd y dystionaeth hwn gan swyddogion uchel yn y fyddin, a chafodd Esterhazy ei ryddfarnu yn unfryd wedi ail ddiwrnod yr achos llys milwrol. Yn hytrach na chael ei ddifeio, cafodd Alfred Dreyfus ei gyhuddo'n bellach ar sail dogfennau ffug a grewyd gan y swyddogion gwrth-wybodaeth a oedd yn ceisio ail-gadarnau ei euogfarniaeth.

Dechreuodd y newyddion ynglŷn â fframio Alfred Dreyfus gan y llys milwrol ymledaenu, yn bennaf oherwydd y gwrthwynebiad cyhoeddus tanbaid mewn papur newydd ym Paris gan Emile Zola ym mis Ionawr 1898. Cafodd yr achos ei ail-agor a daethpwyd ag Alfred Dreyfus yn ôl o Guyana ym 1899 i gael ei roi ar brawf unwaith eto. Cafodd cymdeithas Ffrengig ei hollti gan yr helynt gwleidyddol dwys a oedd i ddilyn rhwng cefnogwyr Dreyfus (y Dreyfusards[nodyn 1]) a'r rhai a oedd yn ei gondemnio (a'r anti-Dreyfusards), megis Edouard Drumont (cyfarwyddwr a chyhoeddwr papur newydd gwrth-semitig La Libre Parole) a Hubert-Joseph Henry.

Yn y diwedd, profwyd fod yr holl gyhuddiadau yn erbyn Alfred Dreyfus yn ddi-sail. Cafodd Alfred Dreyfus ei ddifeio a chafodd ei adfer yn gadfridog yn y fyddin Ffrengig ym 1906. Yn ddiweddarach, gwasanaethodd drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ddod â'i yrfa yn y fyddin i ben tra'n Is-gapten-cyrnol.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gwrth-semitaeth yn Ffrainc tuag at ddiwedd yr 19eg ganrif yn cael ai arddangos mewn print ac mewn areithiau cyhoeddus gan wleidyddwyr a newyddiadurwyr y dde-pell. Wedi dyfodiad swyddogol Trydydd Gweriniaeth Ffrainc ym 1871, roedd gwleidyddion cenedlaetholgar yn 188au megis Georges Boulanger, Edouard Drumont (sefydlydd Cyngrhair Gwrthsemitig Ffrainc) a Paul Déroulède (sefydlydd Ligue des Patriotes) yn ceisio cymryd mantais o'r brwdfrydedd am Ffrainc Gatholig unedig. Ers 1892, roedd y cyhoeddiad gwrth-semitig "La Libre Parole" wedi argraffu cyfraniadau difenwol "Les Juifs dans l'Armée" ("Yr Iddewon yn y Fyddin"). Mewn ymateb i hyn, heriodd swyddogion Idddewig yn y fyddin, megis André Crémieu-Foa a Armand Mayer, yr awduron i ornest. Collodd Capten Mayer ei fywyd mewn gornest yn erbyn y Marquis de Mores ym Mehefin 1892, gan greu sgandal mawr a osododd drwgdeimlad a gosod y sefyllfa cyn Achos Dreyfus. Roedd y Gweinidog Rhyfel Freycinet wedi ymyrryd yn y Chambre des Députés gan ddweud: "Boneddigion, yn y Fyddin, nid ydym yn cydnabod Iddewon, Protestaniaid na Chatholigon, rydym ond yn cydnabod swyddogion Ffrengig." Ond yn ddiweddarach, cafodd Iddewon Ffrengig yn gyffredinol eu cyfeirio atynt fel petaent yn "genedl o fewn cenedl", gan yr hanesydd George L. Mosse.[1]

Nodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mae'r term yn ôl ddyddio dechrau'r achos.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. George L. Mosse, Toward the Final Solution: A History of European Racism, (Efrog Newydd: Harper and Row, 1978), 150.