Alfred Dreyfus

Oddi ar Wicipedia
Alfred Dreyfus
Ganwyd9 Hydref 1859 Edit this on Wikidata
Mulhouse Edit this on Wikidata
Bu farw12 Gorffennaf 1935 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethperson milwrol, swyddog y fyddin Edit this on Wikidata
PriodLucie Dreyfus Edit this on Wikidata
PlantPierre Dreyfus, Jeanne Lévy Edit this on Wikidata
PerthnasauJérôme Salomon, Henri Jacques Dreyfus Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroix de guerre 1914–1918, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Médaille commémorative de la guerre 1914–1918 Edit this on Wikidata
llofnod

Swyddog milwrol Ffrengig o dras Iddewig a gyhuddwyd ar gam o fod yn ysbïwr i'r Almaen oedd Alfred Dreyfus (9 Hydref 185912 Gorffennaf 1935).

Ganed Drefus yn Mulhouse yn Alsace. Ar 5 Ionawr 1895, cafwyd ef yn euog o drosglwyddo dogfennau cyfrinachol i'r Almaen, ac wedi ei ddiswyddo fel swyddog, condemniwyd ef i garchar am oes ar Ynys y Diafol.

Dechreuodd ymgyrch i'w ryddhau, gan fod y dystiolaeth yn ei erbyn yn wan a bod gwrth-semitiaeth yn elfen yn yr achos. Yn 1898, cyhoeddodd Émile Zola ei bamffled enwog J'accuse...! am achos Dreyfus. Yn y pamffled yma, rhoddodd enw'r gwir ysbïwr, yr Hwngariad Ferdinand Walsin-Esterhazy. Rhyddhawyd Dreyfus o garchar ar 19 Medi 1899, ond dim ond ar 12 Gorffennaf 1906 y dyfarnwyd ef yn ddieuog yn derfynol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Lettres d'un innocent (1898)
  • Les lettres du capitaine Dreyfus à sa femme (1899), ysgrifennwyd ar Ynys y Diafol
  • Cinq ans de ma vie (1901)
  • Souvenirs et correspondance, (cyhoeddwyd yn 1936, wedi ei farwolaeth)