Épinal

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Épinal

Tref a chymuned yn nwyrain Ffrainc a phrifddinas département Vosges yn rhanbarth Lorraine yw Épinal. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 35,794.

Saif y dref ar lan afon Moselle, a cheir castell yma, sydd bellach yn adefeilion. Mae'n adnabyddus am y printiau lliw Images d'Épinal, a gynhyrchwyd yma gan Jean-Charles Pellerin yn 1796. Daeth y rhain yn boblogaidd iawn yn Ffrainc yn y 19eg ganrif.


Epinal o adfelion y castell