Aydoilles

Oddi ar Wicipedia
Aydoilles
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth995 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd10 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLongchamp, Le Roulier, Sercœur, Vaudéville, La Baffe, Charmois-devant-Bruyères, Deyvillers, Dompierre, Épinal, Fontenay Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau48.2114°N 6.5719°E Edit this on Wikidata
Cod post88600 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Aydoilles Edit this on Wikidata
Map

Mae Aydoilles yn gymuned yn Département Vosges yn Rhanbarth Dwyrain Mawr, Ffrainc[1]

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Er bod cymuned Aydoilles wedi ei gysylltu yn weinyddol â Bruyeres, mae’r pentref yn troi at Épinal fel ei gymuned fawr leol gan nad yw ond 11 km o’r ddinas ar ffordd y D420.

Poblogaeth[golygu | golygu cod]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r pentref yn sefyll ar safle gwersyll milwrol Rhufeinig hynafol a alwyd yn Aidolium gan y Rhufeiniaid. Arferai’r gwersyll sefyll ar y ffordd Rufeinig rhwng Luxeuil, Arches a Rambervillers. Daeth y ffydd Gristionogol i’r ardal yn y 4g.

Dioddefodd y pentref yn arw yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, gan gael ei losgi gan fyddin Sweden ym 1639.

Arferai bod ffatrïoedd teils a ffatri creu starts yn y pentref

Safleoedd a Henebion[golygu | golygu cod]

  • Eglwys Sant Siôr â adeiladwyd yn wreiddiol yn y 15g, ac a ailadeiladwyd ym 1836.

Pobl enwog o Aydoilles[golygu | golygu cod]

  • Roger Bontems; Llofrudd. Cafodd ei eni ar 20 Medi, 1936 yn Aydoilles a’i ddienyddio gan y guillotine 28 Tachwedd, 1972. Cafodd ei ddedfrydu i 22 mlynedd o garchar am ladrad arfog ym 1965. Ym 1971 cymerodd Bontems a’i gyd garcharor, Claude Buffet, ceidwad carchar a nyrs yn wystlon yn ysbyty eu carchar. Ar ddiwedd y gwarchae canfuwyd y gwystlon wedi eu llofruddio. Er mae Buffet oedd yn gyfrifol am lofruddio’r ddau cafwyd Bontems yn euog o fod yn gyd-droseddwr iddo[2]. Dedfrydwyd y ddau i’r gosb eithaf.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cymunedau Vosges

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.