Neidio i'r cynnwys

Alfred Schutz

Oddi ar Wicipedia
Alfred Schutz
Ganwyd13 Ebrill 1899 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 1959 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Hans Kelsen Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, cymdeithasegydd, academydd, cerddolegydd, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol The New School, Manhattan Edit this on Wikidata
PriodIlse Schutz Edit this on Wikidata

Cymdeithasegydd ac athronydd o Awstria oedd Alfred Schutz (13 Ebrill 189920 Mai 1959) a ddatblygodd syniadaeth gymdeithasol yn seiliedig ar ffenomenoleg.

Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i Alfred a Johann (Fialla) Schütz. Gwasanaethodd yn y fyddin Awstriaidd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac astudiodd y gyfraith ac economeg ym Mhrifysgol Fienna. Cafodd swydd ysgrifennydd-weithredwr yng Nghymdeithas Bancwyr Awstria, ac yn 1929 dechreuodd weithio i'r banc Reitler. Priododd ag Ilse Heim yn 1926, a chawsant ddau blentyn.[1]

Yn sgil yr Anschluss yn 1938, ffoes Schultz a'i deulu i Baris, ac oddi yno ymfudasant i Unol Daleithiau America yn 1939. Yn Ninas Efrog Newydd, llwyddodd Schutz i ddal gafael ar ei swydd ym manc Reitler. Er na gweithiodd yn academydd llawn-amser, sefydlodd y cyfnodolyn Philosophy and Phenomenological Research yn 1940. Bu'n ddarlithydd ôl-raddedig yn yr Ysgol Newydd ar gyfer Ymchwil Cymdeithasol o 1943 hyd ddiwedd ei oes.[1] Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 60 oed.[2] Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar ddatblygiad ethnomethodoleg.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Schutz, Alfred 1899-1959" yn Contemporary Authors. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Chwefror 2020.
  2. (Saesneg) Alfred Schutz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2020.

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Michael D. Barber, The Participating Citizen: A Biography of Alfred Schutz (Albany, Efrog Newydd: State University of New York Press, 2004).