Harold Garfinkel

Oddi ar Wicipedia
Harold Garfinkel
Ganwyd29 Hydref 1917 Edit this on Wikidata
Newark, New Jersey Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 2011 Edit this on Wikidata
o methiant y galon Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
Galwedigaethcymdeithasegydd, addysgwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Cymdeithasegwr Americanaidd oedd Harold Garfinkel (29 Hydref 191721 Ebrill 2011) sydd yn nodedig am arloesi ethnomethodoleg.

Ganed yn Newark, New Jersey, yn fab i ddyn busnes. Astudiodd gyfrifeg yng Ngholeg Newark a throdd ei sylw at gymdeithaseg. Derbyniodd ei radd meistr mewn cymdeithaseg o Brifysgol Gogledd Carolina yn 1942. Pwnc ei draethawd ymchwil oedd cysylltiadau hiliol yn ne'r Unol Daleithiau.[1] Gwasanaethodd yn swydd hyfforddwr yng Nghorfflu Awyr y Fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Astudiodd Garfinkel am ei ddoethuriaeth dan diwtoriaeth Talcott Parsons ym Mhrifysgol Harvard. Ymunodd â chyfadran Prifysgol Califfornia, Los Angeles, yn 1954, a bu yno nes iddo ymddeol yn 1987 pryd gafodd ei benodi yn athro emeritws cymdeithaseg.[1] Cafodd ddylanwad pwysig ar y maes yn sgil cyhoeddi ei gyfrol Studies in Ethnomethodology yn 1967.

Priododd Garfinkel ag Arlene Steinbach yn 1945 a chawsant ferch, Leah, a mab, Mark. Bu farw yn 93 oed o fethiant y galon yn ei gartref yn Pacific Palisades, Califfornia.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Michael Lynch, "Harold Garfinkel obituary", The Guardian (13 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 27 Ionawr 2020.
  2. (Saesneg) Bruce Weber, "Harold Garfinkel, a Common-Sense Sociologist, Dies at 93", The New York Times (3 Mai 2011). Adalwyd ar 27 Ionawr 2020.