George Herbert Mead
George Herbert Mead | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Chwefror 1863 ![]() South Hadley, Massachusetts ![]() |
Bu farw | 30 Ebrill 1931 ![]() Chicago ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | athronydd, cymdeithasegydd, seicolegydd, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Mind, Self and Society ![]() |
Athronydd a chymdeithasegydd Americanaidd oedd George Herbert Mead (27 Chwefror 1863 – 26 Ebrill 1931) sydd yn nodedig fel un o arloeswyr Pragmatiaeth a seicoleg gymdeithasol ac am ddatblygu damcaniaeth rhyngweithredaeth symbolaidd.
Ganed yn South Hadley, Massachusetts. Astudiodd yng Ngholeg Oberlin, Ohio, ac ym Mhrifysgol Harvard. Addysgodd athroniaeth a seicoleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Michigan o 1891 i 1894, ac ym Mhrifysgol Chicago o 1894 hyd at ei farwolaeth. Bu farw yn Chicago yn 68 oed. Ni ysgrifennodd Mead yr un llyfr yn ystod ei oes, er iddo gyhoeddi sawl erthygl. Wedi ei farwolaeth, golygwyd pedair cyfrol o'i waith, yn seiliedig ar nodiadau ei ddarlithoedd a'i bapurau personol, gan ei fyfyrwyr, a chyhoeddwyd ar ffurf The Philosophy of the Present (1932), Mind, Self, and Society (1934), Movements of Thought in the Nineteenth Century (1936), a The Philosophy of the Act (1938).[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) George Herbert Mead. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2020.
- Academyddion Americanaidd
- Academyddion Prifysgol Chicago
- Academyddion Prifysgol Michigan
- Athronwyr Americanaidd y 19eg ganrif
- Athronwyr Americanaidd yr 20fed ganrif
- Cymdeithasegwyr Americanaidd
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Harvard
- Genedigaethau 1863
- Marwolaethau 1931
- Pobl o Massachusetts
- Seicolegwyr Americanaidd
- Ysgolheigion Americanaidd yn yr iaith Saesneg