Otto Neurath
Otto Neurath | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
10 Rhagfyr 1882 ![]() Fienna ![]() |
Bu farw |
22 Rhagfyr 1945 ![]() Rhydychen ![]() |
Man preswyl |
Fienna ![]() |
Dinasyddiaeth |
Awstria ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth |
economegydd, athronydd, cymdeithasegydd, statistical graphics ![]() |
Swydd |
cyfarwyddwr amgueddfa ![]() |
Prif ddylanwad |
Ernst Mach ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Sosialaidd, Democrataidd yr Almaen, Plaid Ddemocrataidd, Sosialaidd Awstria ![]() |
Tad |
Wilhelm Neurath ![]() |
Priod |
Olga Hahn-Neurath, Marie Neurath ![]() |
Athronydd a chymdeithasegydd o Awstria oedd Otto Neurath (10 Rhagfyr 1882 – 22 Rhagfyr 1945).[1] Dadleuodd dros "Undod y Gwyddorau" a chymwyso athroniaeth er budd gwyddoniaeth. Defnyddiodd positifiaeth resymegol i lunio sail i ddamcaniaeth economaidd ymddygiadol.
Cafodd ei addysg yn Fienna a Berlin. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf bu'n rhan o weriniaeth gomiwnyddol Bafaria, a chafodd ei garcharu am hynny. Dychwelodd i Fienna i ymgyrchu dros ddiwygiadau Marcsaidd, ac yno bu'n rhan o Gylch Fienna. Fe drefnodd cynadleddau rhyngwladol mewn ymdrech i hybu'r cyfathrebu rhwng disgyblaethau'r gwyddorau, a golygodd y gwyddoniadur International Encyclopedia of Unified Science (1937). Symudodd i'r Iseldiroedd ym 1934, ac i Loegr ym 1941 i ffoi o'r Natsïaid.
Ysgrifennodd Neurath ar amryw bynciau, gan gynnwys systemau dosbarthu, cymdeithaseg gymharol, ac economeg.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganwyd yn Fienna yn fab i'r economegydd Iddewig Wilhelm Neurath a'i wraig Gertrud Kaempffert. Cafodd Otto ei fagu'n Gatholig.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Otto Neurath. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Hydref 2017.
- ↑ (Saesneg) Otto Neurath, Stanford Enyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 11 Hydref 2017.