Tŷ Nant

Oddi ar Wicipedia
Tŷ Nant
Math
busnes
Sefydlwyd1989
PencadlysCeredigion
Cynnyrchpotel ddŵr
Gwefanhttp://www.Tynant.com Edit this on Wikidata

Cwmni dŵr mwynol tarddell naturiol o Geredigion yw Tŷ Nant, a sefydlwyd yn 1989. Mae'n enw adnabyddus oherwydd y cynhwysydd - potel las nodedig a oedd yn unigryw pan lawnswyd hi.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Darganfuwyd tarddiad y dŵr gan Geoff a Gwenllian Lockwood, a dyllodd y ffynnon gyntaf yn dilyn cyfarwyddiad gan ddowswr dŵr a gyflogwyd i adfer y cyflenwad dŵr i'w ffermdy cerrig ger Bethania, ym mryniau'r Mynydd Mawr ger arfordir Ceredigion. Lawnswyd y dŵr fel cynnyrch wedi ei botelu yn 1989.

Allforio[golygu | golygu cod]

Caiff Tŷ Nant ei hallforio i dros 30 o wledydd; Tŷ Nant yw prif werthwr dŵr mwynol Prydain. Dosbarthir y cynnyrch fel cynnyrch safon uchel, gyda phrisiau yn yr Unol Daeithiau tua £1.25 am botel 0.75 litr.

Adeiladwyd ffatri potelu newydd ar y safle a dechreuodd gynhyrchu ym mis Rhagfyr 1996. Mae'n ffatri sy'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, gydag arwynebedd llawr o 45,000 troedfedd sgwar gan gynnwys warws a swyddfa yn union uwchben y twll gwreiddiol lle tynnwyd y dŵr am y tro cyntaf yn 1976.

Dyluniad y botel[golygu | golygu cod]

Dyluniwyd y botel gan Robin Sheppard, ac mae rhai wedi sylwi i'r cynllun, efallai, gael ei ysbrydoli gan siap potel Perrier. Yn fuan ar ôl cael ei lawnsio, fe enillodd y botel las wobr "Gwydr Cyntaf" Gwydr Prydain ar gyfer "Dylunio Rhagorol".

Yn 1999 lawnswyd potel ychwanegol, un coch Tŷ Nant Too. Lawnswyd potel newydd clir ym mis Mawrth 2003, o dan frand TAU (hen Gymraeg am taw). Crëwyd y botel gan y dylunydd Cymreig, Ross Lovegrove.

Perchennog presennol[golygu | golygu cod]

Prynwyd cwmni Tŷ Nant yn 1992 gan eu dosbarthwyr Eidalaidd, Pietro Biscaldi Luigi Export-Import.

Cyfansoddiad mwyn[golygu | golygu cod]

Ymddangosiadau nodweddiadol[golygu | golygu cod]

Mae potel ddŵr Tŷ Nant wedi ymddangos yn y cyfryngau ac mewn digwyddiadau proffil uchel yn fyd-eang:

Teledu[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Ffasiwn[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]