Dŵr mwynol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Stilles Mineralwasser.jpg
Data cyffredinol
Mathdŵr, diod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Defnyddir y term "dŵr mwynol" neu "dŵr mwyn" ar lafar yn aml gan olygu dŵr carbonedig (sydd fel arfer yn ddŵr mwynol carbonedig, yn hytrach na dŵr tap).

Dŵr sy'n cynnwys mwyn a sylweddau eraill wedi eu hydoddi yw dŵr mwynol[1] (weithiau dŵr mwyn), dyma rhoddir iddo ei flas neu ei werth therapiwtig. Gall y dŵr gynnyws halen, cyfansoddion sylffwr, a nwyon ymysg nifer o gyfansoddion eraill. Gall dŵr mwynol yn aml fod yn eferw, gall ddigwydd yn naturiol neu ei greu.

Yn draddodiadol, yfwyd dŵr mwynol wrth y darddell, cyfeirwyd at rhain yn aml fel sba, baddon neu ffynnon. Defnyddwyd y gari sba pan ddefnyddwyd y dŵr i ymolchi ynddo a'i yfed, a baddon pan na yfwyd y dŵr yn gyffredinol, a ffynnon pan na ymolchwyd yn y dŵr yn gyffredinol. Tyfodd canolfan twristiaeth oamgylch y tarddiad yn aml, megis Caerfaddon.

Yn ddiweddar, mae'n gyffredin i nifer o darddellau gael eu defnyddio er mwyn potelu dŵr mwynol wrth y darddell a'i dosbarthu. Mae'n anghyfredin i bobl deithio i'r darddell er mwyn yfed dŵr mwynol heddiw, ac yn aml mae'n amhosibl gan fod y ffynhonnell weid ei lleoli ar dir preifat. Mae drost tri mil o frandiau dŵr mwynol ar gael yn fasnachol yn fyd eang.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am dŵr mwynol
yn Wiciadur.