Parks and Recreation

Oddi ar Wicipedia
Parks and Recreation
Enw amgenParks and Rec
Genre
Crëwyd ganGreg Daniels
Michael Schur
Yn serennu
Cyfansoddwr themaGaby Moreno
Vincent Jones
GwladUnited States
Iaith wreiddiolSaesneg
Nifer o dymhorau7
Nifer o benodau125
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredolGreg Daniels
Michael Schur
Howard Klein
David Miner
Morgan Sackett
Dean Holland
Dan Goor
Cynhyrchydd/wyrAmy Poehler
Gosodiad cameraSingle camera
Hyd y rhaglen22–42 munud
Cwmni cynhyrchu
DosbarthwrNBCUniversal Television Distribution
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolNBC
Fformat y sainDolby Digital
Darlledwyd yn wreiddiolEbrill 9, 2009 (2009-04-09) – Chwefror 24, 2015 (2015-02-24)
Dolennau allanol
Gwefan

Cyfres deledu sitcom dychan gwleidyddol Americanaidd yw Parks and Recreation sy'n ddychan ar wleidyddiaeth. Crëwyd gan Greg Daniels a Michael Schur. Darlledwyd y gyfres ar NBC rhwng 9 Ebrill 2009 a 24 Chwefror 2015, dros 125 o episodau a saith cyfres.[1][2][3][4] Seren y gyfres yw Amy Poehler fel Leslie Knope, biwrocrat lefel ganol bywiog yn Adran Parciau Pawnee, tref ffuglennol yn Indiana. Mae'r cast ensemble yn cynnwys Rashida Jones fel Ann Perkins, Paul Schneider fel Mark Brendanawicz, Aziz Ansari fel Tom Haverford, Nick Offerman fel Ron Swanson, Aubrey Plaza fel April Ludgate, Chris Pratt fel Andy Dwyer, Adam Scott fel Ben Wyatt, Rob Lowe fel Chris Traeger, Jim O'Heir fel Jerry Gergich, Retta fel Donna Meagle, a Billy Eichner fel Craig Middlebrooks.

Er mwyn ysgrifennu'r gyfres, ymchwiliodd yr ysgrifenwyr i wleidyddiaeth leol Califfornia, ac ymgynghoron nhw â chynllunwyr trefol a swyddogion etholedig.[5] Aeth Leslie Knope trwy newidiadau mawr ar ôl y tymor cyntaf, mewn ymateb i adborth y gynulleidfa bod y cymeriad yn ymddangos yn annealladwy ac yn "ditzy". Ychwanegodd y staff ysgrifennu ddigwyddiadau cyfredol yn yr episodau, er enghraifft roedd cau'r llywodraeth yn Pawnee wedi'i ysbrydoli gan argyfwng ariannol byd-eang bywyd go iawn 2007-2008. Mae gwleidyddion go iawn wedi cael cameos mewn rhai episodau, er enghraifft y Seneddwr John McCain, yr Is-lywydd Joe Biden, a’r Brif Foneddiges Michelle Obama.

Darlledwyd Parks and Recreation ar NBC yn ystod ei floc amser oriau brig ar nos Iau. Derbyniodd y rhaglen adolygiadau cymysg yn ystod ei chyfres gyntaf (adolygiadau yn debyg i The Office, sitcom arall a gynhyrchwyd gan Daniels a Schur), ond, ar ôl ail-ymdrin â’i naws a’i fformat, cafodd yr ail gyfres a’r cyfresi dilynol ganmoliaeth eang. Trwy gydol ei rediad, derbyniodd Parks and Recreation sawl gwobr ac enwebiad, gan gynnwys 14 enwebiad Gwobr Emmy, cwpl o enwebiadau a buddugoliaethau Golden Globe, a buddugoliaeth Gwobr y Television Critics Association. Enwyd Parks and Recreation fel cyfres teledu gorau'r flwyddyn yn rhestr TIME yn 2012.[6]

Plot[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres gyntaf yn canolbwyntio ar Leslie Knope, dirprwy gyfarwyddwr yr Adran Parciau a Hamdden yn nhref ffuglennol Pawnee, Indiana. Mae nyrs leol Ann Perkins yn mynnu bod y twll adeiladu wrth ochr ei thŷ, a grëwyd gan hen ddatblygiad condo, yn cael ei lenwi ar ôl i'w chariad, Andy Dwyer, syrthio i mewn a thorri ei goesau. Mae Leslie yn addo troi'r twll yn barc, er gwaethaf gwrthwynebiad gan gyfarwyddwr y parciau Ron Swanson, rhyddfrydwr gwrth-lywodraeth.[7] Mae cynllunydd y ddinas Mark Brendanawicz - y mae gan Leslie teimladau rhamantus - yn mynnu bod y prosiect yn afrealistig oherwydd biwrocratiaeth y llywodraeth,[8] serch hynny mae e'n perswadio Ron i gymeradwyo'r prosiect. Mae Leslie a'i staff, gan gynnwys ei chynorthwyydd Tom Haverford a'i intern April Ludgate, yn ceisio annog diddordeb cymunedol yn y prosiect pwll, ond maent yn cwrdd â gwrthwynebiad.

Yn yr ail gyfres, mae'r twll yn cael ei lenwi oherwydd bod Andy yn bygwth siwio Pawnee oni bai bod y pwll cyn cael ei lenwi.[9] Mae Mark yn gadael ei yrfa yn neuadd y ddinas am swydd yn y sector preifat. Yn y cyfamser, mae diffyg cyllideb yn arwain archwilwyr Chris Traeger a Ben Wyatt i gau llywodraeth Pawnee dros dro.

Mae'r trydedd gyfres yn agor gyda Llywodraeth Pawnee yn ailagor. Mae Leslie yn penderfynu dod â gŵyl gynhaeaf Pawnee yn ôl, y bydd ei llwyddiant neu ei methiant yn pennu dyfodol ariannol yr adran.[10] Ar ôl wythnosau o gynllunio, daw’r ŵyl yn llwyddiant enfawr oherwydd ymdrechion Leslie.[11] Mae Chris wedyn yn dychwelyd o Indianapolis i ddod yn rheolwr dinas dros dro i Pawnee,[12] tra bod Ben hefyd yn cymryd swydd yn Pawnee.[13] Mae April ac Andy yn dechrau perthynas, ac, ond ychydig wythnosau'n ddiweddarach, yn priodi mewn seremoni annisgwyl.[14] Mae Tom yn rhoi'r gorau i'w swydd yn neuadd y ddinas i ffurfio cwmni adloniant gyda'i ffrind, Jean-Ralphio.

Mae'r pedwaredd gyfres yn delio ag ymgyrch Leslie i redeg am gyngor y ddinas. Mae cwmni Tom a Jean-Ralphio, Entertainment 720, yn mynd allan o fusnes yn gyflym ac mae Tom yn dychwelyd i'w hen swydd. Mae Ben a Leslie yn cychwyn perthynas, ac mae Ben yn aberthu ei swydd i arbed Leslie rhag colli ei un hi, diolch i bolisi Chris yn gwrthwynebu perthnasoedd rhamantus yn y gweithle. Mae'r Adran Parciau'n gwirfoddoli i weithio dros ei hymgyrch, gyda Ben yn ymddwyn fel rheolwr ymgyrch Leslie. Mae ymgyrch Leslie yn wynebu llu o rwystrau yn erbyn ei phrif wrthwynebydd, Bobby Newport, a'i reolwr ymgyrch enwog Jennifer Barkley.

Yn y pumed gyfres, mae Leslie yn dechrau gweithio fel Cynghorydd Dinas, ond yn wynebu gwrthwynebiad gan bobl leol ddig a'i chyd-gynghorwyr. Mae Ben yn dechrau swydd newydd ar ymgyrch gyngresol yn Washington DC, gydag April wrth ei ochr fel intern. Mae Ron yn cychwyn perthynas ramantus gyda dynes o'r enw Diane. Mae Ben yn dychwelyd i Pawnee, ac yn gofyn Leslie i'w briodi. Mae Tom yn cychwyn busnes llwyddiannus yn rhentu dillad drud i bobl ifanc yn eu harddegau. Mae Leslie a Ben yn cynllunio digwyddiad codi arian ar gyfer y parc, a elwir bellach yn Pawnee Commons, ac yn penderfynu cael priodas fyrfyfyr y noson honno yn Neuadd y Ddinas. Yn y pen draw mae newidiadau Leslie i Pawnee yn arwain at sawl person lleol yn deisebu iddi ymddiswyddo.

Mae'r chweched gyfres yn dechrau trwy amsugno Eagleton i mewn i Pawnee ar ôl i'r cyn-dref ddatgan methdaliad. Wrth i'r llywodraethau uno, mae Leslie yn colli'r bleidlais ac yn dychwelyd i'r Adran Barciau yn llawn amser, tra bod Ben yn cael ei phleidleisio fel rheolwr nesaf y ddinas. Mae Tom yn gwerthu Rhent-A-Swag i dad Jean-Ralphio, Dr. Saperstein mewn setliad arian parod ac yn agor bwyty o'r enw "Tom's Bistro". Mae Ann a Chris, sydd bellach mewn perthynas ac yn disgwyl babi, yn gadael Pawnee am Michigan. Fel ffordd i ennyn cefnogaeth y cyhoedd am yr uniad amhoblogaidd, mae'r Adran Parciau yn cynnal Cyngerdd Undod. Mae Leslie yn datgelu ei bod yn feichiog gyda thripledi, ac yn cymryd y swydd fel Cyfarwyddwr Rhanbarthol y Gwasanaeth Parc Cenedlaethol yn Chicago, ar unwaith yn cyflwyno cynnig i symud ei swydd i Pawnee.

Mae stori'r seithfed gyfres, er iddo ddarlledu yn 2015, yn digwydd yn 2017. Dangosir bod Ron a Leslie yn elynion oherwydd bod cwmni Ron wedi dinistrio hen dŷ Ann er mwyn codi adeilad fflatiau. Mae Ben yn perswadio cwmni technoleg, Gryzzl, i ddod â Wi-Fi am ddim i ddinas Pawnee. Mae Gryzzl cloddio data, sy'n cymell i Ron - y mae ei gwmni adeiladu newydd wedi bod yn trin anghenion adeiladu Gryzzl - i ailgysylltu â Leslie i gywiro'r mater.

Cast a chymeriadau[golygu | golygu cod]

Mike Schur, Aubrey Plaza, Nick Offerman, Amy Poehler, Retta, Adam Scott, Aziz Ansari and Jim O'Heir -- Rhai aelodau cast y Parks and Recreation a'i cynhyrchydd yn cynnwys (o'r chwith i'r dde), Mike Schur, Aubrey Plaza, Nick Offerman, Retta, Amy Poehler, Adam Scott, Aziz Ansari a Jim O'Heir.
Mae Amy Poehler yn chwarae'r prif gymeriad Leslie Knope.
Mae Nick Offerman a'i wraig Megan Mullally yn chwarae Ron Swanson a'i gyn-wraig Tammy.
Mae Chris Pratt yn chwarae Andy Dwyer.

Roedd y brif gast a ddechreuodd yn nhymor un yn cynnwys:[15]

  • Amy Poehler fel Leslie Knope, biwrocrat lefel ganol sydd â chariad cryf at ei thref enedigol, Pawnee, ac nad yw wedi gadael i wleidyddiaeth lleihau ei optimistiaeth; ei nod yn y pen draw yw dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.[16] Gadawodd Poehler y gyfres gomedi sgets NBC Saturday Night Live, lle bu’n aelod o’r cast am bron i saith mlynedd, i serennu yn Parks and Recreation.[17][18] Ond ar ôl iddi gael ei gastio y sefydlodd Daniels a Schur gysyniad cyffredinol y gyfres ac ysgrifennwyd y sgript ar gyfer y peilot.[19]
  • Rashida Jones fel Ann Perkins, nyrs a rhywun o'r tu allan i wleidyddiaeth sy'n raddol chwarae mwy o ran yn llywodraeth Pawnee trwy ei chyfeillgarwch â Leslie.[14] Roedd Jones ymhlith y cyntaf i gael ei gastio gan Daniels a Schur yn 2008, pan oedd y rhaglen yn dal i gael ei hystyried fel spin-off i The Office, lle'r oedd Jones wedi chwarae cymeriad.[20] Gadawodd hi a Lowe ganol cyfres 6, a dychwelodd am ymddangosiad gwestai yn ddiweddarach yn y tymor.[21] Dychwelodd y ddau yn yr episod terfynol y rhaglen.
  • Paul Schneider fel Mark Brendanawicz, cynllunydd dinas a aeth i mewn i'r maes gydag ymdeimlad o optimistiaeth, ond ers hynny mae wedi cael ei ddadrithio. Dywedodd Schneider yn gynnar yn y gyfres ei fod yn ansicr yn y rôl oherwydd ei fod yn dal i geisio darganfod cymhellion y cymeriad. Gadawodd Schneider y cast ar ôl yr ail dymor ac ni chyfeirir at y cymeriad ar unrhyw adeg yn ystod weddill rhediad y rhaglen.[22][23]
  • Aziz Ansari fel Tom Haverford, is-swyddog coeglyd a thangyflawnol Leslie,[24] sydd yn y pen draw yn ystyried gadael ei swydd yn neuadd y ddinas i ddilyn ei ddiddordebau entrepreneuraidd ei hun.[25] Yn yr un modd â Jones, roedd Daniels a Schur wedi bwriadu castio Ansari yn gynnar yn ddatblygiad y rhaglen.
  • Nick Offerman fel Ron Swanson, cyfarwyddwr parciau a hamdden sydd, fel rhyddfrydwr, yn credu mewn llywodraeth mor fach â phosib. Felly mae Ron yn ymdrechu i wneud ei adran mor aneffeithiol â phosibl, ac mae'n ffafrio cyflogi gweithwyr nad ydynt yn poeni am eu swyddi neu nad yw'n dda ynddynt. Serch hynny, mae Ron yn dangos yn gyson ei fod yn poeni'n gyfrinachol am ei gyd-weithwyr.[26]
  • Aubrey Plaza fel April Ludgate, intern adran parciau sinigaidd, heb ddiddordeb mewn unrhywbeth, ac sy'n siarad mewn llais undonog. Mae hi'n dod yn gynorthwyydd perffaith i Ron.[27] Ysgrifennwyd y rôl yn benodol ar gyfer Plaza; ar ôl cwrdd â hi, dywedodd y cyfarwyddwr castio Allison Jones wrth Schur, "Fe wnes i gwrdd â'r ferch ryfeddaf i mi ei chyfarfod erioed yn fy mywyd. Mae'n rhaid i chi gwrdd â hi a'i rhoi ar eich sioe."[28]
  • Chris Pratt fel Andy Dwyer, diogyn hurt a twp, ond hoffus, a chyn-gariad Ann. Yn wreiddiol bwriadwyd i Pratt fod yn seren westai ac roedd y cymeriad Andy i fod i ymddangos yn y gyfres gyntaf yn unig, ond roedd y cynhyrchwyr yn hoffi Pratt cymaint benderfynon nhw ei wneud yn aelod cast rheolaidd o gyfres dau ymlaen.[29]

Cyflwynwyd a ddatblygwyd sawl aelod o'r cast, a'u hychwanegu at y credydau agoriadol, dros fywyd y rhaglen:

  • Adam Scott fel Ben Wyatt, swyddog llywodraeth wych ond yn gymdeithaso; lletchwith, sy'n ceisio ad-dalu ei orffennol fel maer a fethodd yn ei ieuenctid.[30] Gadawodd Scott ei rôl yn serennu yn y rhaglen gomedi Party Down i ymuno â'r gyfres, yn ddechrau yn episod olaf ond un yr ail gyfres.[31]
  • Rob Lowe fel Chris Traeger, swyddog llywodraeth hynod bositif ac ymwybodol iawn o'i iechyd.[32] Cyflwynwyd Lowe gyda Scott ac yn wreiddiol roedd disgwyl iddo adael ar ôl un gyfres fel gwestai,[33][34] ond yna lofnododd gontract aml-flwyddyn i ddod yn aelod rheolaidd o'r cast.[35][36] Gadawodd ef a Rashida Jones y rhaglen yng nghanol y chweched gyfres,[21] yn dychwelyd yn yr episod derfynol.
  • Roedd Jim O'Heir a Retta yn ymddangos yn rheolaidd fel Jerry Gergich a Donna Meagle yn y drefn honno ers y gyfres gyntaf, ond ni ddatblygwyd eu personoliaethau tan yr ail gyfres. Dywedodd Schur fod y staff Parks and Recreation yn hoffi'r actorion felly penderfynon nhw eu cynnwys yn y sioe. Roedd jôc fach ar draul Jerry yn un episod wedi arwain iddo gael ei sefydlu fel y cydweithiwr anfedrus y mae gweddill yr adran yn gwneud hwyl ar ei ben.[28] Datblygwyd Donna fel hedonydd sassi, a chyfeiriwyd at ei fywyd dirgel o bryd i'w gilydd. Nid tan y trydydd tymor y cawsant eu hystyried yn aelodau cast rheolaidd,[37] ac fe'u hychwanegwyd at y credydau yn ystod y chweched tymor.[38]
  • Billy Eichner fel Craig Middlebrooks, gweithiwr dros-angerddol yn llywodraeth leol Pawnee, y dechreuodd gweithio i'r adran pan unodd Eagleton â Pawnee. Roedd yn aelod cast achlysurol yn ystod y chweched gyfres, ac roedd yn aelod rheolaidd y cast o bedwaredd episod y seithfed gyfres.

Mae nifer o actorion wedi ymddangos yn westai achlysurol trwy gydol y gyfres, gan gynnwys:

  • Pamela Reed fel mam Leslie a'i gyd-wleidydd Marlene Griggs-Knope,
  • Ben Schwartz fel ffrind Tom, Jean-Ralphio a Jenny Slate fel ei efaill Mona-Lisa,[39]
  • Jama Williamson fel cyn-wraig Tom, Wendy,[40]
  • Mo Collins fel cyflwynydd sioe sgwrs y bore Joan Callamezzo,
  • Jay Jackson fel y darlledwr teledu Perd Hapley,[41]
  • Alison Becker fel gohebydd papur newydd Shauna Malwae-Tweep,
  • Darlene Hunt fel actifydd ceidwadol Marcia Langman,[42]
  • Andy Forrest fel cwsmer esgidiau rheolaidd Andy, Kyle.[43]
  • Megan Mullally, gwraig bywyd go iawn Nick Offerman, gyn-wraig Ron, Tammy.[44][45]
  • Lucy Lawless fel cariad Ron yn y pumed a chweched gyfres,
  • Jon Glaser fel arch-elyn Leslie ar gyngor y ddinas, Jeremy Jamm,
  • Louis C.K. fel heddwas a chariad Leslie, David Sanderson,[46]
  • Kristen Bell fel cynghorydd Eagleton, Ingrid de Forest,[47]
  • Paul Rudd fel gwrthwynebydd Leslie yn ei ymgyrch am sedd ar Gyngor y Ddinas, Bobby Newport.[48]

Mae'r gyfres wedi cael cameos gan sawl ffigwr gwleidyddol go iawn, gan gynnwys yr Is-lywydd Joe Biden,[49] Seneddwr Barbara Boxer,[50] cyn-lefarydd y tŷ Newt Gingrich,[51] Seneddwr John McCain, Prif Foneddiges Michelle Obama,[52] cyn-ysgrifennydd gwladol Madeleine Albright,[53] a'r seneddwyr Olympia Snowe, Cory Booker ac Orrin Hatch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eng, Joyce (19 Ionawr 2014). "Parks and Recreation (essentially) renewed, Community looking 'strong'". Today's News: Our Take. TV Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2014. Cyrchwyd 28 Ebrill 2014.
  2. Fienberg, Daniel (19 Ionawr 2014). "Press Tour: NBC execs say 'Parks and Recreation' will get Season 7". The Fien Print. HitFix. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Ebrill 2014. Cyrchwyd 28 Ebrill 2014.
  3. Bibel, Sara (19 Mawrth 2014). "'Chicago Fire', 'Chicago P.D.' & 'Grimm' Renewed; NBC Confirms Renewals of 'Parks & Recreation' & 'Celebrity Apprentice'". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2014. Cyrchwyd 20 Mawrth 2014.
  4. Kondolojy, Amanda (1 Rhagfyr 2014). "'Parks and Recreation' Final Season to Premiere Tuesday, January 13th". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2014.
  5. "The City Planner Behind Parks and Rec". Engaging Local Government Leaders (yn Saesneg). 6 Hydref 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2017. Cyrchwyd 25 Hydref 2017.
  6. Poniewozik, James (4 Rhagfyr 2012). "Top 10 TV Series – 1. Parks and Recreation". Time. http://entertainment.time.com/2012/12/04/top-10-arts-lists/slide/parks-and-recreation/. Adalwyd 8 Rhagfyr 2012.
  7. Brown, Brigid (10 Ebrill 2009). "TV Recap: Parks and Recreation – Pilot". Cinema Blend. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Rhagfyr 2010. Cyrchwyd 23 Chwefror 2010.
  8. Sepinwall, Alan (9 Ebrill 2009). ""Parks and Recreation" review – Sepinwall on TV". The Star-Ledger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 11 Ebrill 2009.
  9. Fog, Henning (23 Hydref 2009). ""Parks and Recreation" recap: Kaboom!". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2011. Cyrchwyd 1 Ionawr 2010.
  10. Martin, Denise (9 Rhagfyr 2010). "On the Set: Parks and Recreation Plans to "Go Big or Go Home" in Season 3". TV Guide. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2011. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2010.
  11. Goldman, Eric (16 Mawrth 2011). "Parks and Recreation: The Harvest Festival and Beyond". IGN. NewsCorp. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mehefin 2011. Cyrchwyd 7 Mehefin 2011.
  12. Keller, Joel (25 Mawrth 2011). "'Parks and Recreation' Season 3, Episode 8 Recap". TV Squad. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mehefin 2011. Cyrchwyd 28 Mawrth 2011.
  13. Busis, Hillary (15 Ebrill 2011). "'Parks and Recreation': I now pronounce you man and ... wait, seriously?". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2011. Cyrchwyd April 17, 2011.
  14. 14.0 14.1 Sepinwall, Alan (19 Mai 2011). "Interview: 'Parks and Recreation co-creator Mike Schur post-mortems season 3". HitFix. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2011. Cyrchwyd 28 Mai 2011.
  15. Stanley, Alessandra (9 Ebrill 2009). "Misguided, She Yearns to Guide". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2011. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2009.
  16. Dawidziak, Mark (7 Ebrill 2009). "'Parks and Recreation': New NBC comedy is uneven but promising". The Plain Dealer. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2011. Cyrchwyd 17 Mehefin 2011.
  17. Stasi, Linda (9 Ebrill 2009). "Raiders of the Lost 'Park': Amy Poehler quit "SNL" for "Parks and Recreation"". New York Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 11 Ebrill 2009.
  18. Grossberg, Josh (16 Medi 2008). "Amy Poehler Moves Up SNL Exit". E! Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2011. Cyrchwyd 15 Mehefin 2011.
  19. Itzkoff, Dave (26 Mawrth 2009). "It's Not 'The Office.' The Boss Is a Woman". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mehefin 2011. Cyrchwyd 11 Ebrill 2009.
  20. Sepinwall, Alan (21 Gorffennaf 2008). "Sepinwall on TV: Leno undercover, 'Office' non-spin-off". The Star-Ledger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2011. Cyrchwyd 17 Mehefin 2011.
  21. 21.0 21.1 "'Parks and Recreation' Cast Bids Farewell to Rashida Jones and Rob Lowe and We Cry With Them". E! Online. 31 Ionawr 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2014. Cyrchwyd 8 Mawrth 2014.
  22. Martin, Denise (12 Mawrth 2010). "'Parks and Recreation': Mike Schur tells us why Paul Schneider is leaving the show, plus more details on Adam Scott and Rob Lowe". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2011. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
  23. Burger, Mark (11 Ebrill 2012). "Talking shop with the stars and luminaries of the 2012 RiverRun Film Festival". Yes! Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ebrill 2014. Cyrchwyd 22 Ebrill 2014.
  24. Tobias, Scott (23 Ebrill 2009). "Parks and Recreation: Season 1: Episode 3: "The Reporter"". The A.V. Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 26 Ebrill 2009.
  25. Snierson, Dan (19 Mai 2011). "'Parks and Recreation' co-creator Mike Schur gives 10 hints about tonight's season finale". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2011. Cyrchwyd 17 Mehefin 2011.
  26. Snierson, Dan (27 Ionawr 2011). "'Parks and Recreation' scoop: Amy Poehler and co-creator Mike Schur dish on Leslie's big gamble, romantic possibilities, and tonight's episode 'The Flu'". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2011. Cyrchwyd 29 Ionawr 2011.
  27. Sepinwall, Alan (15 Ionawr 2010). "Parks and Recreation, "The Set Up": Will Arnett dates Leslie". The Star-Ledger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Chwefror, 2011. Cyrchwyd 17 Ionawr 2010. Check date values in: |archive-date= (help)
  28. 28.0 28.1 Heisler, Steve (24 Mawrth 2011). "Interview: Michael Schur". The A.V. Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Mai 2011. Cyrchwyd 22 Mai 2011.
  29. Sepinwall, Alan (17 Medi 2009). "Parks and Recreation: Interviewing co-creator Mike Schur". The Star-Ledger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 1 Ionawr 2010.
  30. Meslow, Scott (18 Chwefror 2011). "'Parks and Recreation': (Awkward) Love Is in the Air". The Atlantic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2011. Cyrchwyd 18 Mehefin 2011.
  31. Martin, Denise (4 Mawrth 2010). "'Party Down' star Adam Scott joins the cast of NBC's 'Parks and Recreation'; plus, more details on Rob Lowe". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ionawr 2011. Cyrchwyd 15 Mawrth 2010.
  32. Kandell, Steve (21 Ionawr 2011). "Parks and Recreation Recap: Maintenance Mode". New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Mehefin 2011. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
  33. Dos Santos, Kristin (3 Mawrth 2010). "Rob Lowe is Coming to Parks and Recreation, the Big Boss Confirms". E! Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2011. Cyrchwyd 15 Mawrth 2010.
  34. Sepinwall, Alan (3 Chwefror 2011). "Review: 'Parks and Recreation' – 'Time Capsule': Twilight time". HitFix. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2011. Cyrchwyd 4 Chwefror 2011.
  35. Rice, Lynette (30 Gorffennaf 2011). "Rob Lowe joins 'Parks and Recreation' as a series regular". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mawrth 2011. Cyrchwyd 7 Mawrth 2011.
  36. "'Parks And Rec' Prepares To Say Goodbye To Rashida Jones & Rob Lowe". Huffpost TV. 13 Tachwedd 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2014. Cyrchwyd 8 Mawrth 2014.
  37. "Parks and Recreation Season 3 Cast Photo". Daemon's TV. 8 Tachwedd 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Mehefin 2011. Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2010.
  38. Sepinwall, Alan (27 Chwefror 2014). "Review: 'Parks and Recreation' – 'Anniversaries': You win or you die". Hitfix. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2014. Cyrchwyd 4 Mawrth 2014.
  39. Gonzalez, Sandra (5 Mawrth 2010). "'Parks and Recreation' recap: In time for the Oscars, wise thoughts from a mustachioed man". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2011. Cyrchwyd 6 Mawrth 2010.
  40. Meslow, Scott (11 Chwefror 2011). "'Parks and Recreation': Return of the Sex-Crazed Librarian Ex-Wife". The Atlantic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mehefin 2011. Cyrchwyd 12 Chwefror 2011.
  41. Ryan, Maureen (23 Chwefror 2011). "'Parks and Recreation' Co-Creator Talks Leslie, Ron, Tammy's Return and All Things Pawnee". TV Squad. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mawrth 2011. Cyrchwyd 23 Mawrth 2011.
  42. Porter, Rick (28 Ebrill 2011). "'Parks and Recreation': Leslie Knope, warrior princess". Zap2it. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mehefin 2011. Cyrchwyd 6 Mehefin 2011.
  43. Busis, Hillary (13 Mai 2011). "'Parks and Recreation': Double your episodes, double your fun". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Mehefin 2011. Cyrchwyd 7 Mehefin 2011.
  44. Sepinwall, Alan (5 Tachwedd 2009). "Parks and Recreation, "Ron and Tammy": Megan Mullally guests". The Star-Ledger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2011. Cyrchwyd 1 Ionawr 2010.
  45. Still, Jennifer (19 Mai 2011). "Nick Offerman: 'Mullally made my life amazing'". Digital Spy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2011. Cyrchwyd 18 Mehefin 2011.
  46. Sepinwall, Alan (24 Medi 2009). "Parks and Recreation, "Stakeout": Burger me!". The Star-Ledger. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ionawr 2011. Cyrchwyd 1 Ionawr 2010.
  47. Snierson, Dan (11 Gorffennaf 2013). "Kristen Bell to guest on 'Parks and Recreation' – EXCLUSIVE". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Awst 2013. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2013.
  48. Escobedo Shepherd, Julianne (30 Rhagfyr 2014). "Parks & Rec Is Ending ... But Paul Rudd's Bobby Newport Is Back!". Jezebel. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ionawr 2015. Cyrchwyd 6 Ionawr 2015.
  49. Derschowitz, Jessica (16 Tachwedd 2012). "Joe Biden guest stars on "Parks and Recreation"". CBS News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Awst 2013. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2013.
  50. Day, Patrick Kevin (21 Medi 2012). "John McCain, Barbara Boxer, Olympia Snowe cameo on 'Parks and Rec'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Hydref 2013. Cyrchwyd 29 Gorffennaf 2013.
  51. Harnick, Chris (4 Rhagfyr 2012). "Newt Gingrich On 'Parks And Rec': NBC Comedy Writes In Politician". The Huffington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mawrth 2014. Cyrchwyd 2 Mawrth 2014.
  52. Ng, Philiana (27 Ionawr 2014). "Michelle Obama to Appear on 'Parks and Recreation'". The Hollywood Reporter. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Chwefror 2014. Cyrchwyd 27 Chwefror 2014.
  53. Shepherd, Julianne Escobedo. "Madeleine Albright Loved Her Waffle Date With Leslie Knope". The Muse (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2017. Cyrchwyd 8 Ionawr 2017.