Comedi sefyllfa

Oddi ar Wicipedia

Math o gomedi lle ceir yr un cymeriadau ymhob rhaglen mewn lleoliad penodol ydy comedi sefyllfa. Ymgorfforir jôcs fel rhan o'r deialog. Dechreuodd y math hwn o raglen ar y radio yn wreiddiol ond bellach fe'u gwelir ar y teledu bron yn gyfangwbl.

Weithiau recordir comedi sefyllfa gerbron cynulleidfa stiwdio. Nodwedd arall o'r math yma o raglen yw'r chwerthin sydd wedi'u recordio.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddigrifwch neu gomedi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.