Neidio i'r cynnwys

Rhaglen ffug-ddogfen

Oddi ar Wicipedia

Math o raglen sy'n defnyddio technegau traddodiadol rhaglen ddogfen er mwyn cyfleu digwyddiadau ffuglennol yw rhaglen ffug-ddogfen neu ffilm ffug ddogfen.

Enghraifft dda o hwn yw addasiad radio Orson Welles o waith H. G. Wells War of the Worlds. Fe'i ddarlledwyd yn 1938 mewn arddull adrodd newyddion, gan dwyllo gwrandawyr Americanaidd, a gredai fod estroniaid o blaned Mawrth wedi glanio yn New Jersey. Mae This Is Spınal Tap (1984) a The Blair Witch Project (1999) yn enghreifftiau eraill o hyn. Gwelir y cysyniad sydd y tu ôl i ffilmiau ffug-ddogfen yn llawer cynt mewn cyfryngau eraill.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-31.