Unol Daleithiau America
United States of America | |
![]() | |
Arwyddair |
In God We Trust ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gweriniaeth ddemocrataidd, talaith ffederal, Uwchbwer, gwlad, historical unrecognized state ![]() |
Enwyd ar ôl |
Yr Amerig ![]() |
| |
Prifddinas |
Washington ![]() |
Poblogaeth |
328,239,523 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
The Star-Spangled Banner ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Joe Biden ![]() |
Cylchfa amser |
UTC−06:00, UTC−07:00, UTC−08:00, UTC−09:00, UTC−12:00, UTC−11:00, UTC−04:00, UTC+10:00, UTC+12:00, UTC−05:00, Samoa Time Zone, Atlantic Time Zone, Cylchfa Amser Canolog, Alaska Time Zone, Cylchfa Amser y Mynyddoedd, Chamorro Time Zone ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Saesneg America ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Gogledd America ![]() |
Arwynebedd |
9,826,675 ±1 km² ![]() |
Gerllaw |
Cefnfor yr Arctig, Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Yn ffinio gyda |
Mecsico, Canada ![]() |
Cyfesurynnau |
39.828175°N 98.5795°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Cyngres yr Unol Daleithiau ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
Arlywydd Unol Daleithiau America ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Joe Biden ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Arlywydd Unol Daleithiau America ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Joe Biden ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
19,390,604 million US$ ![]() |
CMC y pen |
59,927 US$ ![]() |
Arian |
doler yr Unol Daleithiau ![]() |
Canran y diwaith |
6.7 ±0.001 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
1.8615 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.92 ![]() |
Gweriniaeth ffederal yng Ngogledd America yw Unol Daleithiau America (Saesneg: United States of America) neu'r Unol Daleithiau (hefyd, yn enwedig ar lafar, "America"). Mae hanner cant o daleithiau yn yr undeb. Lleolir y 48 talaith gyfagos rhwng Canada i'r gogledd a Mecsico i'r de. Lleolir Alaska yng ngogledd-orllewin y cyfandir i'r gorllewin o Ganada. Ynysfor yng nghanol y Cefnfor Tawel yw'r dalaith arall, sef Hawaii.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyn glaniad yr Ewropeiaid cyntaf roedd y diriogaeth gyfandirol yn gartref i sawl llwyth o Americanwyr brodorol, e.e y Sioux a'r Navajo.
Roedd y 13 talaith wreiddiol yn wladfeydd Prydeinig hyd yr 1700au cyn iddynt ennill eu hannibyniaeth yn sgil Gwrthryfel America (1776–1783).
Bryd hynny, roedd Florida a thiriogaethau eraill yn y de a'r de-orllewin (Texas, California, Arizona a. y. y. b.) yn perthyn i Sbaen; roedd rhan sylweddol o'r tir yng nghanol y cyfandir i'r gorllewin o Afon Mississippi hyd at ffin Canada yn perthyn i Ffrainc, ac roedd Alaska yn perthyn i Rwsia. Yn 1803 prynodd yr Unol Daleithiau y tir Ffrengig am 60 miliwn o ffranciau, neu tua 15 miliwn o ddoleri (Pryniant Louisiana) a dwblodd hynny faint y wlad. Yn 1836 cafodd Texas annibyniaeth oddi wrth Mecsico ac ar ôl naw mlynedd fel Gweriniaeth Texas ymunodd y dalaith â'r undeb. Ar ôl y rhyfel rhwng yr Unol Daleithiau a Mecsico, roddodd Cytundeb Guadeloupe-Hidalgo (1848) 200,000 milltir sgwar o dir, sydd heddiw yn cynnwys y rhan fwyaf o daleithiau New Mexico, Arizona, California, Colorado, Utah a Nevada, i'r Unol Daleithiau.
Ymladdwyd Rhyfel Cartref America (1861–1865) rhwng unarddeg talaith yn y de oedd yn dymuno gadael yr Unol Daleithiau a'r gweddill o'r wlad. Dechreuodd y rhyfel yn dilyn etholiad Abraham Lincoln yn Arlywydd yr Unol Daleithiau yn 1861. Prif asgwrn y gynnen oedd caethwasiaeth; yr oedd pob un o'r taleithiau oedd yn dymuno gadael yr Undeb yn rhai lle roedd caethwasiaeth yn elfen bwysig. Tra nad oedd Lincoln wedi bygwth dileu caethwasiaeth, ystyrid ef yn elyn i'r gyfundrefn. Dewisodd y gwrthryfelwyr Jefferson Davis fel Arlywydd.
Dechreuodd yr ymladd ar 12 Ebrill, 1861, pan ymosododd y gwrthryfelwyr ar Fort Sumter yn nhalaith De Carolina. Erbyn 1862 yr oedd brwydro ar raddfa eang wedi datblygu, gyda niferoedd mawr yn cael eu lladd. Ym mis Medi 1862, cyhoeddodd Lincoln ryddid y caethion. Erbyn hyn yr oedd y de wedi darganfod cadfridogion o athrylith yn Robert E. Lee a "Stonewall" Jackson, ac enillasant nifer o fuddugoliaethau dros yr Undebwyr. Lladdwyd Jackson mewn camgymeriad gan ei filwyr ei hun ym mrwydr Chancellorsville ym Mai 1863, a gorchfygwyd Lee ym Mrwydr Gettysburg yn nhalaith Pennsylvania ym mis Gorffennaf 1863. Yn y gorllewin, cipiodd byddin dan Ulysses S. Grant Vicksburg yn nhalaith Mississippi, a thrwy hynny enillodd yr Undebwyr reolaeth ar Afon Mississippi. Bu brwydro ffyrnig rhwng Grant a Lee yn nhalaith Virginia yn ystod haf 1864 a chipiodd William Tecumseh Sherman Atlanta, Georgia. Ar fore'r 9fed o Ebrill 1865, ildiodd Lee ei fyddin i Grant yn Appomattox a daeth y rhyfel i ben. Rhyddhawyd y caethion i gyd.
Yn 1868 gwerthodd Rwsia Alaska i'r Unol Daleithiau am 7,200,000 o ddoleri; roedd llawer o bobol yn y Senedd yn meddwl bod hynny'n ormod i'w dalu am "greigiau ac iâ", ond mae llawer o aur ac olew wedi dod o Alaska ers hynny.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir sawl cadwyn o fynyddoedd yng ngorllewin y wlad megis y Rockies a'r Sierra Nevada. Lleolir mynyddoedd yr Appalachians ger yr arfordir dwyreiniol. Rhwng y Rockies a'r Appalachians, ceir basn afonydd Mississippi a Missouri, y Llynnoedd Mawr a'r Gwastadeddau Mawr.
Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]
Undeb ffederal o 50 talaith yw'r Unol Daleithiau. Lleolir y brifddinas, Washington D.C., mewn ardal ffederal sydd ddim yn perthyn i unrhyw dalaith.
Alabama
Alaska
Arizona
Arkansas
Califfornia
Colorado
Connecticut
De Carolina
De Dakota
Delaware
Efrog Newydd
Florida
Georgia
Gogledd Carolina
Gogledd Dakota
Gorllewin Virginia
Hawaii
Idaho
Illinois
Indiana
Iowa
Kansas
Kentucky
Louisiana
Maine
Maryland
Massachusetts
Mecsico Newydd
Michigan
Minnesota
Mississippi
Missouri
Montana
Nebraska
Nevada
New Hampshire
New Jersey
Ohio
Oklahoma
Oregon
Pennsylvania
Rhode Island
Tennessee
Texas
Utah
Vermont
Virginia
Washington
Wisconsin
Wyoming
Dinasoedd[golygu | golygu cod y dudalen]
Dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau | ||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhif | Prif ddinas | Talaith | Pobl. | Rhif yr ardal ddinesig | Pobl, ardal ddinesig.[1] | Rhanbarth[2] | ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() Los Angeles | |||
1 | Dinas Efrog Newydd | Efrog Newydd | 8,250,567 | 1 | 18,818,536 | Gogledd-ddwyrain | ||||
2 | Los Angeles | Califfornia | 3,849,378 | 2 | 12,950,129 | Gorllewin | ||||
3 | Chicago | Illinois | 2,833,321 | 3 | 9,505,748 | Canol-orllewin | ||||
4 | Houston | Texas | 2,169,248 | 6 | 5,539,949 | De | ||||
5 | Phoenix | Arizona | 1,512,986 | 13 | 4,039,182 | Gorllewin | ||||
6 | Philadelphia | Pennsylvania | 1,448,394 | 5 | 5,826,742 | Gogledd-ddwyrain | ||||
7 | San Antonio | Texas | 1,296,682 | 29 | 1,942,217 | De | ||||
8 | San Diego | Califfornia | 1,256,951 | 17 | 2,941,454 | Gorllewin | ||||
9 | Dallas | Texas | 1,232,940 | 4 | 6,003,967 | De | ||||
10 | San Jose | Califfornia | 929,936 | 30 | 1,787,123 | Gorllewin | ||||
Amcangyfrifon o'r Ganolfan Cyfrifiad, 2006 |
Cosb[golygu | golygu cod y dudalen]
Cynnydd o: 800% mewn 40 mlynedd
Mae gan Unol Daleithiau America fwy o garcharorion nag unrhyw wlad arall yn y byd. Yn ogystal â hyn, mae'r niferoedd y pen yn uwch nag unrhyw wlad – ar wahân i Seychelles.[3][4] Yn 2012 roedd y nifer yn 707 oedolyn am bob 100,000 o'r boblogaeth.[5]
Roedd y trobwynt oddeutu 1971, y flwyddyn y laniswyd eu hymgyrch yn erbyn cyffuriau.
Ar 3 Chwefror 2014 cafwyd anerchiad yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau gan Shelia Jackson Lee a ddywedodd: "5% yn unig o boblogaeth y byd sydd yn byw yn yr Unol Daleithiau, ond eto, er hyn, rydym wedi carcharu oddeutu chwarter holl garcharorion y byd".[6][7]
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Table 2. Population Estimates for the 100 Most Populous Metropolitan Statistical Areas Based on July 1, 2006, Population Estimates (PDF). 2005 Population Estimates. U.S. Census Bureau (5 Ebrill, 2007). Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
- ↑ Figure A–3. Census Regions, Census Divisions, and Their Constituent States (PDF). U.S. Census Bureau. Adalwyd ar 17 Mehefin, 2007.
- ↑ United States National Research Council. The Growth of Incarceration in the United States: Exploring Causes and Consequences. Washington, DC: The National Academies Press, 2014. Adalwyd 6 Ionawr 2015:
- "The U.S. penal population of 2.2 million adults is by far the largest in the world. Just under one-quarter of the world's prisoners are held in American prisons."
- ↑ Highest to Lowest - Prison Population Total. International Centre for Prison Studies. Adalwyd 6 Ionawr 2015.
- ↑ Mahapatra, Lisa (19 Mawrth 2014). "Incarcerated In America: Why Are So Many People In US Prisons?". International Business Times. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2014.
- ↑ Cyfieithiad o: the United States is comprised of only 5 percent of the world’s population, but we incarcerate almost a quarter of the world’s prisoners.
- ↑ groundreport.com; adalwyd 6 Ionawr 2015
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Porth swyddogol yr Unol Daleithiau
|
|
|