Fforwm rhyngwladol ar gyfer llywodraethau'r Almaen, Canada, y Deyrnas Unedig, yr Eidal, Ffrainc, Japan, Rwsia, a'r Unol Daleithiau yw'r G8 (Grŵp 8). Gyda'i gilydd mae'r gwledydd hyn yn cynrychioli tua 65% o economi'r byd.[1] Mae gweithgareddau'r grŵp yn cynnwys cynadleddau trwy'r flwyddyn ac ymchwil polisi, sy'n diweddu gyda chynhadledd flynyddol rhwng penaethiaid llywodraethol yr aelodau-wladwriaethau. Cynrychiolir y Comisiwn Ewropeaidd yn y cynadleddau hefyd.
Pob blwyddyn, mae aelod-wladwriaethau'r G8 yn cymryd eu tro fel llywyddiaeth y grŵp. Mae deiliad y llywyddiaeth yn gosod agenda flynyddol y grŵp ac yn cynnal cyfarfod y flwyddyn honno.