Neidio i'r cynnwys

De'r Unol Daleithiau

Oddi ar Wicipedia
De'r Unol Daleithiau
Mathardal ddiwylliannol, United States census region, U.S. region Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Yn ffinio gydaGogledd yr Unol Daleithiau, Canolbarth yr Iwerydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.9°N 89.5°W Edit this on Wikidata
Map

Un o brif ranbarthau hanesyddol a diwylliannol Unol Daleithiau America yw De'r Unol Daleithiau sydd yn ffinio â Chefnfor yr Iwerydd i'r dwyrain, â rhanbarthau'r Gogledd-ddwyrain a'r Gorllewin Canol i'r gogledd, â'r De-orllewin i'r gorllewin, ac â Mecsico a Gwlff Mecsico i'r de.

Mae'r De yn cyfateb i ddeheubarthau yr Unol Daleithiau yn ystod cyfnod boreuol y wlad, cyn i'r ffin orllewinol ymledu hyd at y Cefnfor Tawel. Nid yw'r De yn gyfystyr felly â holl ardaloedd deheuol yr Unol Daleithiau gyffiniol heddiw—mae Ardal yr Haul yn enw cyffredinol ar diriogaeth ddeheuol y wlad, o'r Cefnfor Tawel hyd at yr Iwerydd. Yn hytrach, mae rhanbarth y De yn cyfateb i ardaloedd de-ddwyreiniol yr Unol Daleithiau. Yn hanesyddol, diffinir y De fel y rhan o'r wlad i dde Llinell Mason–Dixon, Afon Ohio, a pharalel lledred 36°30′.[1] Yn ôl llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau, mae'r De yn cynnwys taleithiau Alabama, Arkansas, De Carolina, Delaware, Fflorida, Georgia, Gogledd Carolina, Gorllewin Virginia, Kentucky, Louisiana, Maryland, Mississippi, Oklahoma, Tennessee, Texas, a Virginia, yn ogystal â'r brifddinas genedlaethol, Washington, D.C. Mae'r rhan helaethaf o'r rhanbarth yn cyfateb i diriogaeth Taleithiau Cydffederal America (1861–65).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) The South (region, United States). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Mehefin 2024.