Canran

Oddi ar Wicipedia
Canran
Enghraifft o'r canlynolrhannau fesul nodiant, uned fesur, uned sy'n deillio o UCUM Edit this on Wikidata
Mathcymhareb Edit this on Wikidata
Olynwyd ganper mille Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Siart cylch sy'n dangos canran porwr gwe sy'n ymweld â gwefannau Wicimedia (Ebrill 2009 i 2012).

Mewn mathemateg, canran yw'r nifer neu'r gymhareb a fynegir fel ffracsiwn o 100; mae'n air cyfansawdd: 'cant' a 'rhan' - y rhaniad allan o gant. Fe'i dynodir yn aml gan ddefnyddio'r arwydd canran, ; yn Saesneg, defnyddir y byrfoddau "pct.", "Pct" hefyd. Mae canran yn rhif di-ddimensiwn (rhif pur).

Defnyddir canrannau i fynegi rhan gymarebol o gyfanswm.

Enghreifftiau[golygu | golygu cod]

Mae 45% (ar lafar "pedwar deg pump y cant") yn hafal i 45100, 45:100, neu mewn ffurf degol: 0.45.

Yn yr un modd, gellir mynegi rhif fel ffracsiwn o 1,000 gan ddefnyddio'r term "per mille" (Lladin am 'y fil; weithiau "per mil") neu yn Gymraeg: 'milran'.

Enghraifft 1[golygu | golygu cod]

Os yw 50% o gyfanswm y myfyrwyr yn y dosbarth yn ddynion, mae hynny'n golygu bod 50 o bob 100 o fyfyrwyr yn ddynion. Os oes 500 o fyfyrwyr, yna mae 250 ohonynt yn ddynion. 50% / 500 = 250; neu, "pum deg y cant wedi'i rannu gyda 500 yw dau gant a hanner".

Enghraift 2[golygu | golygu cod]

Mae cynnydd o £0.15 ar bris torth o fara sy'n costio £2.50 yn gynnydd mewn ffracsiynol o 0.15/2.50 = 0.06. Fel canran, gellir nodi hyn fel cynnydd, neu godiad o 6%.

Mae'r rhan fwyaf o werthoedd canran, sy'n cael eu mynegi, rhwng 0 a 100, ond nid oes cyfyngiad! Pe bai'r dorth wedi dyblu yn ei phris gellir dweud fod y cynnydd £200.[1] Neu, yn enghraifft arall, mae'n arferol nodi 111% neu −35%, o ddydd i ddydd, er mwyn gwahaniaethu rhwng dau rif.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn Rhufain hynafol, cyn bodolaeth y system ddegol, cyfrifwyd yn aml mewn ffracsiynau a oedd yn lluosrifau o 1/100. Er enghraifft, cododd Augustus dreth o 1/100 ar nwyddau a werthwyd mewn ocsiwn a elwir yn centesima rerum venalium. Roedd cyfri gyda'r ffracsiynau hyn yn gyfwerth â chanrannau cyfrifiadurol. Wrth i'r mathau gwahanol o ddarnau arian (o bob gwerth) ddatblygu yn yr Oesoedd Canol, daeth cyfrifi gydag enwadur o 100 ('enwadur' yw'r rhif a ysgrifennir o dan y llinell mewn ffracsiwn) yn fwy safonol ac o ddiwedd y 15g hyd at ddechrau'r 16g daeth yn gyffredin i destunau rhifyddol gynnwys cyfrifiadau o'r fath. Roedd llawer o'r testunau hyn yn cymhwyso'r dulliau hyn at elw a cholled, cyfraddau llog, a'r 'Rheol Tri'. Erbyn y 17g roedd yn safonol i ddyfynnu cyfraddau llog mewn 'hyn a hyn allan o gant'.

Y symbol [golygu | golygu cod]

Y symbol

Tarddodd y symbol o'r Lladin per centum, sef "gan gant" neu "o gant".[2] Wrth i'r Lladin newid i'r Eidaleg, defnyddiwyd y term "per cento", sef "am gant". Talfyrrwyd y "per" yn "p" o dipyn i beth, nes diflannu'n llwyr. Talfyrrwyd y gair yma'n ddau gylch (yr "c" a'r "o", o bosib, a throdd y "t" yn flaenslaes (2/") gan roi .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Bennett, Jeffrey; Briggs, William (2005), Using and Understanding Mathematics / A Quantitative Reasoning Approach (3rd ed.), Pearson Addison Wesley, p. 134, ISBN 0-321-22773-5
  2. American Heritage Dictionary of the English Language, 3rd ed. (1992) Houghton Mifflin