Phoenix
| Phoenix | |
|---|---|
| Lleoliad o fewn Arizona | |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Ardal | Arizona |
| Llywodraeth | |
| Awdurdod Rhanbarthol | Rheolwr-Cynghorol |
| Maer | Greg Stanton (D) |
| Daearyddiaeth | |
| Arwynebedd | 1,334.1 km² |
| Uchder | 340 m |
| Demograffeg | |
| Poblogaeth Cyfrifiad | 1,567,924 (Cyfrifiad 2008) |
| Dwysedd Poblogaeth | 1,188.4 /km2 |
| Metro | 4,281,899 |
| Gwybodaeth Bellach | |
| Cylchfa Amser | MST (UTC-7) |
| Cod Post | 602, 480, 623, 520 |
| Gwefan | http://www.phoenix.gov/ |
Dinas yng ngorllewin yr Unol Daleithiau yw Phoenix. Hi yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Arizona. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,552,259; Phoenix yw'r unig brifddinas talaith yn yr Unol Daleithiau sydd a phoblogaeth dros filiwn, a saif yn bumed o ran dinasoedd yr Unol Daleithiau yn ôl poblogaeth. Roedd poblogaeth yn ardal ddinesig yn 2007 yn 4,179,427.
Trigolion gwreiddiol yr ardal oedd pobl frodorol yr Hohokam, oedd yn defnyddio camlesi i ddyfrhau'r tiroedd ar gyfer tyfu cnydau. Gostyngodd y boblogaeth yn raddol oherwydd prinder dŵr, a bychan oedd y boblogaeth erbyn dechrau'r 19eg ganrif. Sefydlwyd y ddinas tua 1867 gan Jack Swilling, mewn man lle roedd olion camlesi'r Hohokam. Yn ddiweddarach, enwyd y ddinas yn "Phoenix" ar ôl y Ffenics chwedlonol, oherwydd fod y ddinas wedi tyfu ar olion sefydliad cynharach.
Gefeilldrefi Phoenix[golygu | golygu cod y dudalen]
| Gwlad | Dinas |
|---|---|
| Taipei | |
| Calgary | |
| Catania, Sisili | |
| Chengdu | |
| Inis | |
| Grenoble | |
| Hermosillo | |
| Himeji | |
| Prag | |
| Ramat Gan |
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) www.phoenix.gov