Harold Bloom
Harold Bloom | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
11 Gorffennaf 1930 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Bu farw |
14 Hydref 2019 ![]() New Haven ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Addysg |
Doethuriaeth ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
hanesydd llenyddiaeth, ysgrifennwr, athro prifysgol, beirniad llenyddol, newyddiadurwr ![]() |
Cyflogwr |
|
Prif ddylanwad |
Ralph Waldo Emerson, Samuel Johnson ![]() |
Mudiad |
Esthetiaeth, Rhamantiaeth ![]() |
Gwobr/au |
Cymdeithas Goffa John Simon Guggenheim, Cymrodoriaeth MacArthur, Gwobr Ryngwladol Catalwnia, Gwobr John Addison Porter, Sterling Professor ![]() |
Gwefan |
https://english.yale.edu/people/tenured-and-tenure-track-faculty-professors/harold-bloom ![]() |
Beirniad llenyddol ac academydd o Americanwr oedd Harold Bloom (11 Gorffennaf 1930 – 14 Hydref 2019).
Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed Harold Bloom ar 11 Gorffennaf 1930 yn Nwyrain y Bronx i deulu o Iddewon Uniongred, ac Iddew-Almaeneg oedd iaith yr aelwyd. Mewnfudwyr o Ddwyrain Ewrop oedd ei rieni, William Bloom a Paula Lev, ac a Harold oedd eu pumed plentyn. Cafodd ei fagu mewn cymdogaeth Iddewig, yn gyfagos i ardal Wyddelig, a bu cwffio ar y strydoedd rhwng llanciau'r ddwy gymuned.[1]
Dysgodd Harold i ddarllen Iddew-Almaeneg yn 3 oed, ac Hebraeg yn 4 oed, cyn iddo fedru'r Saesneg. Yn ei fachgendod daeth yn gyfarwydd â beirdd megis Hart Crane, William Blake, W. H. Auden, a T. S. Eliot yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd yn y Bronx. Mynychodd Uwchysgol Wyddoniaeth y Bronx.
Enillodd ysgoloriaeth o Brifysgol Cornell, a derbyniodd ei radd baglor yno yn 1951. Aeth i Brifysgol Yale am ei astudiaethau ôl-raddedig. Enillodd ei ddoethuriaeth ar bwnc Rhamantiaeth, ac addasodd y traethawd hwnnw yn llyfr, Shelley's Mythmaking (1959).
Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod y dudalen]
Gweithiodd Bloom yn athro yn adran Saesneg Yale hyd at 1977. Fe'i penodwyd yn athro De Vane dros y dyniaethau, ac yn ddiweddarach yn athro Sterling y dyniaethau, sef y rheng academaidd uchaf ym Mhrifysgol Yale. Yn 1988 dechreuodd Bloom addysgu Saesneg yn Mhrifysgol Efrog Newydd hefyd yn swydd athro Berg.[2]
Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]
Priododd â Jeanne Gould yn 1958 a chawsant ddau fab, Daniel a David. Bu farw Harold Bloom yn yr ysbyty yn New Haven, Connecticut, ar 14 Hydref 2019, yn 89 oed.[2]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Shelley's Mythmaking (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 1959).
- The Visionary Company: A Reading of English Romantic Poetry (Garden City, Efrog Newydd: Doubleday, 1961).
- Blake’s Apocalypse: A Study in Poetic Argument (1963).
- Yeats (1970).
- The Ringers in the Tower: Studies in Romantic Tradition (1971).
- The Anxiety of Influence (1973).
- A Map of Misreading (1975).
- Kabbalah and Criticism (1976).
- The Flight to Lucifer: A Gnostic Fantasy (1979).
- Agon: Towards a Theory of Revisionism (1982).
- The Book of J (1990).
- The American Religion: The Emergence of the Post-Christian Nation (1992).
- The Western Canon (1994).
- Omens of Millennium: The Gnosis of Angels, Dreams and Resurrection (1996).
- Shakespeare: The Invention of the Human (1998).
- How to Read and Why (2000).
- The Anatomy of Influence: Literature As a Way of Life (2011).
- The Shadow of a Great Rock: A Literary Appreciation of the King James Bible (2011).
- The Daemon Knows: Literary Greatness and the American Sublime (2015).
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Antonio Weiss, "Harold Bloom, The Art of Criticism No. 1", The Paris Review (1991). Adalwyd ar 16 Hydref 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Dinitia Smith, "Harold Bloom, Critic Who Championed Western Canon, Dies at 89", The New York Times (14 Hydref 2019). Adalwyd ar 15 Hydref 2019.
- Academyddion Americanaidd
- Academyddion Prifysgol Efrog Newydd
- Academyddion Prifysgol Yale
- Americanwyr Iddewig
- Beirniaid llenyddol Americanaidd yn yr iaith Saesneg
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cornell
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Yale
- Genedigaethau 1930
- Llenorion Americanaidd yr 20fed ganrif
- Llenorion Americanaidd yr 21ain ganrif
- Marwolaethau 2019
- Pobl o'r Bronx