Cymrodoriaeth Guggenheim

Oddi ar Wicipedia
Cymrodoriaeth Guggenheim
Enghraifft o'r canlynolysgoloriaeth, digwyddiad blynyddol Edit this on Wikidata
Mathgwobr academaidd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1925 Edit this on Wikidata
Enw brodorolGuggenheim Fellowship Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.gf.org/applicants/, https://www.gf.org/about/fellowship/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Un o'r grantiau ariannol a wobrwyir yn flynyddol gan Sefydliad Coffa John Simon Guggenheim yn Unol Daleithiau America yw Cymrodoriaeth Guggenheim (Saesneg: Guggenheim Fellowship) a roddir am waith creadigol yn y celfyddydau neu ymchwil mewn unrhyw faes academaidd. Mae'r gwobrau yn rhoi arian i'r enillwyr deithio, i wneud gwaith ymchwil, neu fel arall i gyflawni eu prosiectau ysolheigaidd a chreadigol.[1] Rhennir y cymrodoriaethau yn ddwy raglen, un ar gyfer trigolion yr Unol Daleithiau a Chanada, a'r llall ar gyfer dinasyddion o wledydd America Ladin a'r Caribî.

Ffurfiwyd Sefydliad Coffa John Simon Guggenheim yn Chwefror 1925, gyda'i bencadlys yn Efrog Newydd, gan y dyn busnes Simon Guggenheim (1867–1941), cyn-Seneddwr o'r Blaid Weriniaethol, a'i wraig Olga Hirsh Guggenheim (1877–1970) er cof am eu mab John Simon a fu farw yn 17 oed. O'r cychwyn, pwrpas y sefydliad oedd i wobrwyo ysgoloriaethau "i hyrwyddo datblygiad a ac ymlediad gwybodaeth a dealltwriaeth, a gwerthfawrogiad harddwch drwy gynorthwyo—heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, na chred—ysgolheigion, gwyddonwyr, ac artistiaid o'r ddwy ryw wrth ganlyn eu hymdrechion".[2] Rhoesant waddoliad o $3 miliwn i sefydlu'r cymrodoriaeth, a oedd ar y cychwyn yn agored i drigolion yr Unol Daleithiau yn unig. Ym 1940, daeth Canadiaid hefyd yn gymwys ar gyfer y wobr honno. Ym 1929, sefydlwyd yr ail raglen, yn agored i "ddinasyddion gwledydd eraill Hemisffer y Gorllewin" (hynnyw yw, yr Amerig), gydag $1 miliwn yn ychwanegol oddi ar y Guggenheims. Bu dinasyddion o'r Philipinau hefyd yn gymwys ar gyfer cymrodoriaethau o 1925 i 1988.[3] Yn sgil marwolaeth Simon Guggenheim, etifeddodd y sefydliad ei ystâd weddilliol, a fe'i olynwyd yn llywydd gan ei weddw. Byddai Olga Guggenheim hefyd yn cymynroddi'r rhan fwyaf o'i hystâd—$40 miliwn—i'r sefydliad.[2]

Ymhlith yr enwogion sydd wedi ennill Cymrodoriaeth Guggenheim mae'r cyfansoddwr Aaron Copland (1925, 1926), y cemegydd Linus Pauling (1926), y bardd Hart Crane (1931), y seicolegydd B. F. Skinner (1942), y ffotograffydd Ansel Adams (1946), yr awdur John Cheever (1951, 1960), y cerddor jazz Charles Mingus (1971), yr athronydd Richard Rorty (1973), y gwyddonydd gwleidyddol Kenneth Waltz (1976), y nofelydd Margaret Atwood (1981), a'r hanesydd John Lewis Gaddis (1986),

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. James D. Hart a Phillip W. Leininger, The Oxford Companion to American Literature, 6ed argraffiad (Rhydychen: Oxford University Press, 1995), t. 262.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Guggenheim, Olga H. (1877–1970)", Women in World History: A Biographical Encyclopedia. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 11 Tachwedd 2023.
  3. (Saesneg) "History", John Simon Guggenheim Memorial Foundation. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2023.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]