Eglwys San Silyn, Wrecsam
Math | eglwys blwyf |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam, Offa |
Sir | Wrecsam, Offa |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 83 metr |
Cyfesurynnau | 53.0442°N 2.9927°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Esgobaeth | Esgobaeth Llanelwy |
Eglwys blwyf a leolir yn Wrecsam yw Eglwys San Silyn (Saesneg: St Giles' Church)[1] Mae addoldy wedi sefyll ar y safle ers y 13g o leiaf, ond codwyd y mwyafrif o'r adeilad presennol yn y 15g. Mae'n debyg mai'r arglwyddes Margaret Beaufort, mam Harri Tudur a gwraig i Thomas Stanley, Iarll Derby, a noddodd yr adeilad newydd. Os felly, mae'r eglwys yn un o nifer yng ngogledd-ddwyrain Cymru a noddwyd gan y teulu Stanley, sy'n cynnwys eglwysi plwyf Gresffordd a'r Wyddgrug a Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon.[2]
Caiff Eglwys San Silyn ei hystyried yn reolaidd fel un o gampweithiau pensaernïol Cymru,[3][4] ac yn ôl yn y rhigwm Saesneg o'r 18g, mae ei thŵr yn un o Saith Rhyfeddod Cymru. Mae'r eglwys yn enwog yn ryngwladol am fod Elihu Yale, a roes ei enw i Brifysgol Yale yn yr Unol Daleithiau, wedi'i gladdu yn y fynwent.
Hanes
[golygu | golygu cod]Daw'r cyfeiriad cynharaf at eglwys yn Wrecsam o 1220, pan rhoddwyd haner incwm degymau'r eglwys honno i Abaty Glyn y Groes gan Reyner, Esgob Llanelwy. Ceir cyfeiriad arall ati ym 1247 pan rhoddwyd rhagor o ddegymau'r eglwys i'r abaty gan Madog ap Gruffydd, tywysog Powys. Ar 15 Tachwedd 1330 chwythodd y clochdy i lawr ac ail-adeiladwyd yr eglwys yn gyfangwbl. Y gred boblogaidd oedd bod Duw wedi cosbi'r dref am gynnal marchnad ar y Sul, a symudwyd diwrnod marchnad Wrecsam i ddydd Iau o ganlyniad i hyn.[5]
Llosgodd yr eglwys o'r 14g gan mlynedd wedi iddi gael ei hadeiladu, ac fe'i hail-godwyd yn yr arddull Gothig hwyr a elwir yn "Berpendiciwlar", efallai dan nawdd yr arglwyddes Margaret Stanley. Dyma un o'r eglwysi mawr olaf a'u hadeiladwyd yn y deyrnas cyn y Diwygiad Protestannaidd.[6]
Adeiladwyd y clochdy, a elwir yn "Dŵr Iâl", yn negawdau cynnar yr 16g.[7] Fe'i priodolir i'r saer William Hort neu Hart o Fryste.[8] Mae'n seiliedig ar dŵr canolog Eglwys Gadeiriol Caerloyw, ac mae'n bosib bod y saer naill ai wedi gweithio ar adeiladu'r gadeirlan honno neu wedi teithio i Gaerloyw i'w hastudio.[2] Mae nifer o gerfluniau wedi goroesi ar y tŵr, ond nid yw'n glir faint ohonynt sy'n rhai gwreiddiol.[8]
Uwchben bwa'r gangell y mae'r unig beintiad canoloesol o Ddydd y Farn sydd wedi goroesi yng Nghymru.[9] Mae'n bosib fod hyn gan yr un arlunydd a beintiodd y murlun o Sant Cristoffer yn Eglwys Sant Saeran, Llanynys, am fod yr arddull yn debyg.[10] Mae'r cerfluniau pren o angylion yn canu offerynnau yn dyddio'n ôl i'r 15g,[11] a'r ddarllenfa bres ar ffurf eryr i tua 1524.[12]
Cyfrannodd Elihu Yale yn hael at addurno'r eglwys yn y 18g cynnar; talodd am galeri (nad sydd wedi goroesi) ym 1707, ac mae'n debyg bod sgrîn haearn y gangell gan aeod o'r teulu Davies, sy'n enwog am eu gwith haearn, yn rhodd ganddo hefyd.[13] (Un gwaith sydd yn sicr gan Robert Davies yw'r giatiau haearn i'r fynwent, a grewyd gan yr enwog Davies ym 1720.)[14] Mae beddrod Elihu Yale yn y fynwent, yng nghysgod y tŵr. Ym mhlith y cofadeiladau eraill o'r 18g mae dau gan y cerflunydd Ffrengig nodedig Louis-François Roubiliac.[15] Yn y ganrif olynol, cynlluniwyd cofadail Anne Fryer ym 1817 gan y cerflunydd neo-glasurol Syr Richard Westmacott.[16]
Atgyweiriwyd Eglwys San Silyn yn fewnol gan Benjamin Ferrey o 1866 i 1867 ac ar y tu allan o 1901 i 1903 gan H. A. Prothero.[17] Yn ystod atgyweiriad Ferrey, codwyd cofadail i Mary Ellen Peel a gerfiwyd gan Thomas Woolner, un o aelodau gwreiddiol Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid.[16] Mae model plastr Woolner ar gyfer y gofeb yng nghasgliad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.[18] Ym 1914 adnewyddwyd y gangell yn rannol gan Syr Thomas Graham Jackson;[8] mae gwrthgefn marmor yr allor i'w gynlluniau ef. Ym 1918–19 cynlluniodd Jackson gapel yn coffa'r Rhyfel Byd Cyntaf yn yr eil ogleddol.[8]
Ar gampws Prifysgol Yale yn New Haven, Connecticut, mae'r "Wrexham Tower" a godwyd yn y 1920au yn gopi o glochdy Wrecsam. Rhoddwyd un maen o Eglwys San Silyn i'r adeilad newydd ac mae maen o New Haven wedi cymryd ei le.[19]
Ym 1951, penodwyd Eglwys San Silyn yn adeilad rhestredig Gradd I.[20]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y tu mewn i'r eglwys
-
Y murlun canoloesol o Ddydd y Farn
-
Beddrod Elihu Yale yn y fynwent
-
"Wrexham Tower" ar gampws Prifysgol Yale
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ceir "Eglwys Sant Giles" fel ffurf Gymraeg yn Gwyddoniadur Cymru (t. 707).
- ↑ 2.0 2.1 Coldstream 2008, t. 9
- ↑ Jenkins 2008, t. 90
- ↑ Wooding 2011, t. 74
- ↑ (Saesneg) History of St Giles [1]. Plwyf Wrecsam. Adalwyd ar 10 Ebrill 2015.
- ↑ (Saesneg) History of St Giles [2]. Plwyf Wrecsam. Adalwyd ar 10 Ebrill 2015.
- ↑ Lord 2003, t. 210
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 Hubbard 1986, t. 300
- ↑ Lord 2003, t. 192
- ↑ Coldstream 2008, t. 55
- ↑ Lord 2003, t. 197
- ↑ Lord 2003, t. 229
- ↑ Hubbard 1986, tt. 300–1
- ↑ Hubbard 1986, t. 302
- ↑ Hubbard 1986, t. 301–2
- ↑ 16.0 16.1 Hubbard 1986, t. 301
- ↑ Hubbard 1986, t. 298
- ↑ (Saesneg) Heavenly Welcome: A Model for a Memorial to Mary Ellen Peel and her son Archibald by Thomas Woolner. Y Gronfa Gelf. Adalwyd ar 4 Chwefror 2016.
- ↑ Hughes 2007, t. 127
- ↑ (Saesneg) Parish Church of St. Giles, Offa. British Listed Buildings. Adalwyd ar 2 Mai 2015.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Coldstream, Nicola (2008). Builders & Decorators: Medieval Craftsmen in Wales. Caerdydd: Cadw.
- Hubbard, Edward (1986). Clwyd: Denbighshire and Flintshire. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.
- Hughes, T. J. (2007). Wales's Best 100 Churches. Pen-y-bont ar Ogwr: Seren.
- Jenkins, Simon (2008). Wales: Churches, Houses, Castles. Llundain: Penguin.
- Lord, Peter (2003). Gweledigaeth yr Oesoedd Canol. Diwydiant Gweledol Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
- Wooding, Jonathan M. a Nigel Yates (gol.) (2011). A Guide to the Churches and Chapels of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.