Will & Grace

Oddi ar Wicipedia
Will & Grace
Genre Comedi
Serennu Eric McCormack
Debra Messing
Sean Hayes
Megan Mullally
Shelley Morrison
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 8
Nifer penodau 184
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.23 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol NBC
Darllediad gwreiddiol 21 Medi 199818 Mai 2006
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Rhaglen gomedi boblogaidd o'r Unol Daleithiau ydy Will & Grace. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar NBC o 1998 tan 2006. Enillodd y sioe Wobr Emmy. Lleolir y rhaglen yn Ninas Efrog Newydd ac mae'r sioe'n ymdrin â Will Truman, cyfreithiwr hoyw a'i ffrind gorau Grace Adler, menyw heterorywiol Iddewig sy'n berchen ar ei chwmni dylunio cartrefi ei hun. Mae ffrindiau'r ddau hefyd yn chwarae rhan flaenllaw sef Karen Walker, cymdeithaswraig hynod gyfoethog, a Jack McFarland, actor hoyw sy'n ei chael yn anodd ffeindio gwaith.

Will & Grace yw'r gyfres deledu rhwydweithiol gyntaf i arddangos un neu fwy o gymeriadau hoyw fel y prif gymeriadau fel rhan o gysyniad y sioe. Dyma'r gyfres fwyaf llwyddiannus i wneud hyn hefyd, er gwaethaf y feirniadaeth gychwynnol o'r modd y darluniwyd pobl hoyw. Yn ystod yr wyth mlynedd y cafodd y sioe ei chreu, enillodd Will & Grace wyth Gwobr Emmy, allan o 83 enwebiad yn gyfangwbl.

Ffilmiwyd Will & Grace o flaen cynulleidfa stiwdio fyw (y rhan fwyaf o benodau a golygfeydd) ar nosweithiau Mawrth ar Lwyfan 17 yng Nghanolfan Stiwdios CBS.

Ar hyn o bryd, mae'r ystafell lle trigai Will a Grace mewn arddangosfa yn Llyfrgell Coleg Emmerson. Rhoddwyd y set iddynt gan grëwr y gyfres, Max Mutchnik.

Y Cast a'r Criw[golygu | golygu cod]

Prif Gymeriadau[golygu | golygu cod]

Will Truman (Eric McCormack) Cyfreithiwr hoyw a ffrind gorau hir dymor i Grace. Mae ganddo agwedd hynod niwrotig i'w bersonoliaeth, yn enwedig pan mae'n dod i lanhau. Mae sawl cymeriad wedi dweud fod ei berthynas ef a Grace yn fwy fel perthynas cwpl na pherthynas rhwng dau ffrind.

Grace Adler (Debra Messing) Dylunydd cartref ac ymddengys fod ganddi obsesiwn â bwyd. Mae Grace wedi bod yn ffrindiau gorau gyda Will ers dyddiau coleg. Roeddent yn canlyn yn y 1980au nes i Will sylweddoli ei fod yn hoyw ar ôl iddo gwrdd a'i ffrind Jack.

Jack McFarland (Sean Hayes (actor)) Un o ffrindiau gorau Will, mae Jack yn arwynebol a thros ben llestri. Symuda Jack o'r naill gariad i'r nesaf, o swydd i swydd gan gynnwys actor di-waith, gweithio mewn siop ac fel myfyriwr i fod yn nyrs. Yn nechreuadau'r sioe, datblyga Jack berthynas glos â Karen.

Karen Walker (Megan Mullally) Alcoholig a gwraig i wr cyfoethog Stan Walker (er nad yw'r gynulleidfa byth yn ei weld.) Mae Karen hefyd yn ddibynnol ar gyffuriau presgripsiwn, poen-laddwyr ac amffeteminau yn benodol. Mae'n "gweithio" fel cynorthwyydd i Grace gan wneud "Grace Adler Designs" yn fwy poblogaidd ymysg ei chylchoedd cymdeithasol hi. Gall Karen fod yn eithaf disensitif, ond mae'n glos at Grace a Jack, ac ar adegau i Will hefyd.

Cymeriadau eraill sy'n ymddangos yn rheolaidd[golygu | golygu cod]

  • Bobbi Adler (Debbie Reynolds) - Mam Grace
  • Rosario Salazar (Shelley Morrison) - Morwyn Karen
  • George Truman (Sydney Pollack) - Tad Will
  • Marilyn Truman (Blythe Danner) - Mam Will
  • Tina (Lesley Ann Warren) - Cariad Tad Will
  • Elliott (Michael Angarano) - Mab biolegol Jack o'i gyfraniad i fanc sberm
  • Rob (Tom Gallop) a Ellen (Leigh-Allyn Baker) - dau o ffrindiau coleg agosaf Grace a Will. Maent yn chwarae stumiau gyda hwy'n rheolaidd. Cwpwl priod ydynt gyda thri o blant.
  • Joe (Jerry Levine) a Larry (Tim Bagley) - dau o ffrinidau agosaf Will a Grace, cwpwl hoyw ydynt gyda merch fabwysiedig o'r enw Hannah.
  • Lorraine Finster (Minnie Driver) - y cariad cegog Prydeinig a ddygodd Stan wrth Karen gan achosi eu hysgariad. Daeth Karen a Lorraine yn elynion pennaf.
  • Beverley Leslie (Leslie Jordan) - cymdeithaswr hynod gyfoethog a hynod o fyr sy'n Weriniaethwr i'r carn. Nid yw'n agored am ei rywiodeb. Mae ei berthynas gyda Karen yn amrywio o gyfeillgarwch i gasineb ac yn ôl.
  • Dr. Marvin "Leo" Markus (Harry Connick Jr.) - Cariad Grace (gan ddechrau yng nghyfres 5) ac yna'i gwr; daeth eu priodas i ben (yng nghyfres 7) pan fu Markus yn anffyddlon i Grace. Ef hefyd yw tad ei phlentyn (yng nghyfres 8) ac yn rhaglen olaf y gyfres maent yn magu'u plentyn, Laila.
  • Val Bassett (Molly Shannon) - gwraig ysgaredig, alcoholig, braidd yn wallgof sy'n byw yn yr un bloc a Will, Grace a Jack; tuedda Val o ddechrau cweryla gyda Grace ac yn y gorffennol bu'n obsesiynnu am Jack.
  • Vince D'Angelo (Bobby Cannavale) - Cariad hir-dymor cyntaf Will yn hanes y sioe. O gyfresi chwech tan wyth, mae Will a Vince yn magu mab Vince, Ben.

Y Criw[golygu | golygu cod]

  • Max Mutchnick - Crëwr, Prif Awdur
  • David Kohan - Crëwr, Prif Awdur
  • James Burrows - Uwch Gynhyrchydd a Chyfarwyddwr—Cyfarwyddodd Burrows bob un o'r 194 rhaglen yn y gyfres sydd bellach wedi dod yn record o ran cynhyrchu.
  • David Kohan - Uwch Gynhyrchydd
  • Jhoni Marchinko - Uwch Gynhyrchydd
  • Max Mutchnick - Uwch Gynhyrchydd
  • Jeff Greenstein - Uwch Gynhyrchydd
  • Jon Kinnally - Uwch Gynhyrchydd
  • Tracy Poust - Uwch Gynhyrchydd
  • David Flebotte - Uwch Gynhyrchydd (Cyfres 7)
  • Alex Herschlag - Uwch Gynhyrchydd
  • Adam Barr
  • Gail Lerner
  • Kari Lizer
  • Bill Wrubel