Shelley Morrison
Gwedd
Shelley Morrison | |
---|---|
Ganwyd | Rachel Mitrani 26 Hydref 1936 Dinas Efrog Newydd |
Bu farw | 1 Rhagfyr 2019 o methiant y galon Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm |
Gwefan | http://shelleymorrison.com/HOME.html |
Actores Americanaidd oedd Shelley Morrison (ganed Rachel Mitrani; 26 Hydref 1936 – 1 Rhagfyr 2019).[1] Ar ddechrau ei gyrfa, cawsai ei hadnabod hefyd fel Rachel Domínguez. Roedd Morrison wedi bod yn actores theatr a theledu ers dechrau'r 1960au, yn bennaf fel actores cymeriad mewn rôlau ethnig. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus fel y forwyn o San Salvador o'r enw Rosario Inez Consuelo Yolanda Salazar yng nghyfres gomedi NBC, Will & Grace. Chwaraeodd y cymeriad hwn o 1999 tan 2006. Cyn hyn, roedd hefyd yn ymddangos yn rheolaidd ar y sefyllfa gomedi The Flying Nun lle chwaraeodd ran y Chwaer Sixto, nes iddi gael rhan barhaol yn yr opera sebon General Hospital ym 1982.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Eryn Nyren (1 Rhagfyr 2019). "Shelley Morrison, 'Will & Grace' Actress, Dies at 83". Variety. Cyrchwyd 6 Rhagfyr 2022.