Friends
Friends | |
---|---|
Teitlau yn dangos soffa caffi "Central Perk" | |
Genre | Comedi sefyllfa |
Crëwyd gan | David Crane Marta Kauffman |
Serennu | Jennifer Aniston Courteney Cox Arquette Lisa Kudrow Matt LeBlanc Matthew Perry David Schwimmer |
Cyfansoddwr y thema | The Rembrandts |
Thema'r dechrau | "I'll Be There for You" |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 10 |
Nifer penodau | 238 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 22 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | NBC |
Rhediad cyntaf yn | 22 Medi 1994 – 6 Mai 2004 |
Cronoleg | |
Olynydd | Joey (2004–2006) |
Dolenni allanol | |
Proffil IMDb |
Cyfres gomedi Americanaidd sy’n dilyn grŵp o ffrindiau yn ardal Manhattan o ddinas Efrog Newydd yw Friends. Darlledwyd y gyfres rhwng 1994 a 2004, a chyfanswm o 236 rhaglen unigol. Crëwyd y gyfres gan David Crane a Marta Kauffman, ac fe’i chynhyrchwyd gan Kevin S. Bright (Warner Bros.), Marta Kauffman a David Crane. Mae’r gyfres wedi’i darlledu mewn dros 100 gwlad ac yn parhau i ddenu niferoedd mawr o wylwyr. Cafodd y rhaglen olaf un ei gwylio gan ryw 51.1 miliwn o Americanwyr.[1] Trwy gydol y deng mlynedd, enillodd y gyfres 7 Gwobr Emmy, gan gynnwys un gyda’r teitl ’Outstanding Comedy Series’. Yn ogystal, fe enillodd Golden Globe, 2 wobr Cymdeithas yr Actorion Sgrin, a 56 o wobrau eraill gyda 152 enwebiad.
Cast
[golygu | golygu cod]- Gweler hefyd: Rhestr o westeion enwog ar Friends
- Jennifer Aniston sy’n portreadu Rachel Green, dynes sy’n dwli ar ffasiwn sydd yn dechrau’r gyfres yn gweithio mewn siop goffi, ond yn symud ymlaen i weithio gyda chwmni Bloomingdale's ac ar ôl hynny yn gweithio ar gyfer Ralph Lauren.Ymddangosodd Jennifer Aniston mewn nifer o sitcoms eraill cyn “Friends” nad oedd wedi llwyddo o gwbl.
- Courteney Cox Arquette sy’n portreadu Monica Geller (Monica Geller-Bing yn ddiweddarach yn y gyfres), cogyddes sy’n newid swydd yn aml trwy gydol y gyfres, ond yn gorffen y rhaglen fel prif gogyddes ym mwyty Javu. Roedd Courteney Cox eisoes yn actores deledu a ffilm lwyddiannus pan cafodd ei dewis i chwarae rhan Monica, wedi actio mewn ffilmiau megis Ace Ventura: Pet Detective ac mewn comedïau sefyllfa megis Seinfeld a Family Ties.
- Lisa Kudrow sy’n portreadu Phoebe Buffay (Phoebe Buffay-Hannigan yn ddiweddarach, a weithiau Princess Consuela Banana Hammock neu Regina Phalange), tylinwraig a cherddorwraig heb ei hail. Roedd Lisa Kudrow eisoes wedi chwarae rhan Ursula Buffay ar Mad About You a thrwy gydol y gyfres, byddai hi’n adfyw y rôl hwn yn “Friends” yn chwarae rhan efaill Phoebe Buffay. Yn wreiddiol, dewiswyd Kudrow i actio yn y gyfres deledu Frasier yn chwarae rhan Roz, ond fe ail-gastiwyd y rhan gyda Peri Gilpin yn portreadu Roz yn lle.[2]
- Matt LeBlanc sy’n portreadu Joey Tribbiani, (gan gynnwys arallenwau megis Josef Stalin, Holden McGroin a Ken Adams) actor sy’n ei chael hi’n anodd i ddod o hyd i swyddi, ond sydd yn ennill enwogrwydd am ei ran ar Days of our Lives yn portreadu Dr. Drake Ramoray. Ymddangosodd LeBlanc fel Vinnie Verducci ar Married... with Children yn y 90au cynnar, ac ef oedd seren y gyfres ddilynol Top of the Heap, yn ogystal â’r rhaglen Vinnie & Bobby, ond cyn hynny, roedd wedi bod yn canolbwyntio ar hysbysebion a gwaith modelu pan gafodd ei gastio fel Joey Tribbiani. Wedi i’r gyfres orffen, crëwyd spin-off, o’r enw Joey. Roedd y rhaglen newydd yn canolbwyntio ar gymeriad LeBlanc, ond nid oedd yn llwyddiannus, ac o ganlyniad fe’i chanslwyd ar ôl 2 dymor.
- Matthew Perry sy’n portreadu Chandler Bing (Ms. Chanandler Bong), gweithredwr ym maes dadansoddi ystadegau ac ailffurfweddu data ar gyfer corfforaeth fawr ryngwladol. Yn hwyrach yn y gyfres, fe brioda ei ffrind agos Monica Geller. Yn debyg i Aniston, fe ymddangosodd Perry mewn nifer o sitcoms aflwyddiannus cyn cael ei gastio yn “Friends”.
- David Schwimmer sy’n portreadu Ross Geller, brawd hŷn Monica, paleontolegwr sy’n gweithio mewn amgueddfa Hanes Cynhanes, ac yn hwyrach yn y gyfres athro Paleontoleg ym Mhrifysgol Efrog Newydd. Ysgrifennwyd cymeriad Ross gyda David Schwimmer mewn golwg. Roedd ef eisoes wedi bod i glyweliad ar gyfer Crane a Kauffman. Roedd gan Schwimmer yn ôl pob sôn lais cofiadwy ac roedd yn enwog am ei waith ar Broadway. Yn ogystal, fe ymddangosodd yn The Wonder Years fel cariad a darpar-ŵr Karen, chwaer y prif gymeriad Kevin Arnold.
Yn ystod blynyddoedd dangos y gyfres, roedd yr holl gast wedi dod yn hynod o enwog yn yr Unol Daleithiau.[3] Roeddynt i gyd wedi ceisio dechrau neu ehangu eu gyrfeydd ym myd y sinema, a phob un gyda gwahanol lefel o lwyddiant. Ar y cyfan, mae ffilmiau Aniston yn rhai ysgafn megis RomComs gan gynnwys The Good Girl, Bruce Almighty, Along Came Polly, Rumor Has It a The Break Up.
Ymddangosodd Cox hefyd mewn nifer o ffilmiau ysgafn, ond daeth ei llwyddiant mwyaf gyda’r trilogi Scream. Yn y gyfres hon, roedd Cox yn serennu gyferbyn â’i gŵr David Arquette, a ymddangosodd fel gwestai ar “Friends” yn chwarae rhan rhygyngwr Ursula. Ar ôl ei llwyddiant yn “Friends”, parhaodd Cox i action mewn cyfres deledu arall o’r enwDirt,oedd yn ei phortreadi fel golygwraig cylchgrawn tabloid a wnâi unrhyw beth i gael stori.
Kudrow oedd mwyaf llwyddiannus gyda ffilmiau ‘indie’ cyllideb-isel, yn arbennig The Opposite of Sex a Happy Ending, a hefyd mewn ffilmiau fel y comedi llwyddiannus Romy and Michelle's High School Reunion ac Analyze This. Roedd ganddi hi ei chyfres ei hun yn HBO o’r enw "The Comeback" lle chwaraeodd hi rhan Valerie Cherish. Yn ddiweddarach, chwaraeodd Kudrow brif gymeriad wrth ochr Hilary Swank yn P.S. I Love You(2007).
Cyd-serennodd Perry mewn comedi maffia Canadaidd The Whole Nine Yards a’r ffilm a ddilynodd o’r enw The Whole Ten Yards gyda Bruce Willis, a oedd hefyd yn un o westeion enwog “Friends”. Fe serennodd hefyd yn y RomCom Fools Rush In, ac fel cymeriad-deitl y rhaglen The Ron Clark Story. Ers hyn, mae wedi cyd-serennu yn y ddrama deledu Studio 60 on the Sunset Strip ac mewn rhaglen unigol o Scrubs. Mae Perry wedi chwarae’r brif ran yn y ffilm Numb a aeth yn syth i DVD, ac sydd wedi ennill clod mawr gan nifer o feirniaid.
Cafodd Matt LeBlanc rhan arweiniol yn Lost in Space ac fe serennodd fel cariad Alex (Lucy Liu) yn Charlie's Angels. Fe ail-gydiodd yn ei rôl fel Joey Tribbiani yn y gyfres deledu a ddilynodd, Joey.
Yn 2001, cafodd Schwimmer rhan fel Capt. Herbert Sobel yn y gyfres deledu mini Band of Brothers.[4] Yn yr un flwyddyn, fe arweiniodd e ac un o westeion enwog Friends, Hank Azaria y Warsaw Ghetto Uprising (1943) yn erbyn y Natsïaid yn Uprising. Yn 2005, castiwyd Schwimmer fel llais y jiraff Melman yn y ffilm Madagascar. Fe fydd yn ail-gydio yn y rôl hwn yn 2008 ar gyfer Madagascar 2. Cyfarwyddodd David Schwimmer deg rhaglen Friends a dau rhaglen Joey. Ei début mawr yn cyfarwyddo serch hynny oedd Run Fatboy Run a ddaeth i’r sgrîn fawr ar yr 28ain o Fawrth, 2008.
Tu ôl i’r llen, roedd y gyfres yn enwog am ei chast cydlynus ac unol. Ers y cychwyn cyntaf, fe benderfynodd y chwe phrif actor barchu fformat ‘ensemble’ y rhaglen trwy beidio â chaniatáu i un aelod o’r tîm oruchafu. Pwysig yw nodi bod pob un o’r chwech wedi ymddangos ym mhob un rhaglen unigol.[5] Roedd yr actorion mor agos fel teulu bod un o westeion enwog y rhaglen, Tom Selleck, wedi dweud iddo deimlo’n unig tra’n ffilmio.[6] Wedi i’r rhaglen bennu, arhosodd y cast yn ffrindiau da. Esiampl enwog yw Cox ac Aniston- mae Aniston bellach yn fam fedydd i ferch Counrtney Cox, Coco. Mewn ffilm sy’n talu teyrnged i’r gyfres, Friends 'Til The End, mae’r actorion i gyd yn sôn yn unigol am y ffaith bod y gweddill wedi dod yn deulu iddynt.
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Jennifer Aniston (Rachel Green)
-
David Schwimmer (Ross Geller)
-
Courteney Cox (Monica Geller-Bing)
-
Matt LeBlanc (Joey Tribbiani)
-
Matthew Perry (Chandler Bing)
-
Lisa Kudrow (Pheobe Buffay)
Y Stori
[golygu | golygu cod]Mae'r tymor cyntaf yn cyflwyno chwe phrif gymeriad: Rachel Karen Green, Monica Geller, Phoebe Buffay, Joey Francis Tribbiani, Chandler Muriel Bing a Ross Geller. Mae Rachel (sydd newydd gadael ei dyweddi ‘wrth yr allor’) wedi dod i Efrog Newydd, ac yn diweddu fyny yn byw gyda Monica. O gychwyn y gyfres, cawn wybod bod Ross wedi bod mewn cariad gyda Rachel ers i’r ddau gymeriad fod yn yr ysgol uwchradd. Yn wir, mae nifer fawr o raglenni yn y gyfres gyntaf yn dilyn ei gais i ddweud wrthi hi ei wir deimladau. Ar yr un pryd, dysgwn fod gwraig lesbiaidd Ross, Carol, yn feichiog gyda’i fabi. Mae hyn yn achosi cymhlethdod yn ei berthynas gyda phartner Carol, Susan (a chwaraewyd gan Jessica Hecht). Ar ddiwedd y tymor cyntaf, caiff y babi ei eni, a phenderfyna Ross, Carol a Susan rhoi’r enw Ben iddo fe: diolch i’r tag enw ar wisg gofalwr adeilad a wisgai Phoebe. Achos bod y gyfres yn cael ei darlledu mewn rhaglenni unigol, gall nifer o ddigwyddiadau di-gyswllt ddigwydd, ac yn wir mae’r sgriptwyr yn cymryd mantais o hyn, ac yn aml yn ysgrifennu golygfeydd sy’n cynnwys ‘dates’- nifer ohonynt yn mynd tu chwith (mae Monica yn canlyn plentyn dan oed mewn un rhaglen). Cyflwynir y cymeriad Janice (chwaraewyd gan Maggie Wheeler) fel cariad y mae Chandler yn cael gwared arni hi mewn rhaglen gynnar, ond mae hi'n ail-ymddangos trwy gydol y deg tymor. Ar ddiwedd y tymor cyntaf, gollynga Chandler y gath o’r gwd bod Ross yn caru Rachel. Dydy Rachel ddim yn disgwyl clywed hyn, ond yn darganfod ei bod hi’n teimlo’r un fath.
Mae’r ail dymor yn cynnwys mwy o storïau serialaidd, hynny yw, maent yn dibynnu fwyfwy ar blot cydlynus, parhaol. Cychwyna pan ddarganfydda Rachel bod Ross yn canlyn Julie (chwaraewyd gan Lauren Tom), rhywun yr oedd yn ei hadnabod o’r brifysgol. Fe ddaw Julie i ymweld â Ross mewn ambell rhaglen yn gynnar yn y tymor. Rachel's attempts to tell Ross she likes him mirror his own failed attempts in the first season, though the characters eventually begin a relationship that lasts into the following season. Caiff Joey ran mewn fersiwn ffuglynus o’r opera sebon Days of our Lives ond yn fuan, fe golla’r rhan achos iddo ddweud mewn cyfweliad ei fod e’n ysgrifennu nifer fawr o’r linellau. Cychwyna Tom Selleck ran cylchol fel Dr. Richard Burke. Mae Richard, sydd yn ffrind i rieni Monica a Ross ac wedi ysgaru’n ddiweddar, yn 21 blwyddyn yn hŷn na Monica, ond er hyn maent yn cychwyn canlyn yn ystod ail-rhan yr ail dymor. Yn rhaglen ola’r tymor, maent yn dod â’u perthynas i ben pan ddarganfyddan nhw nad yw Richard eisiau mwy o blant, ond bod Monica eisiau plant ei hun mwy na dim. Mae’r ail dymor yn bwysig iawn hefyd i ddyfnháu cyfeillgarwch Chandler a Joey. Daw hyn i’r amlwg pan symuda Joey i fflat ei hun, a symuda dyn rhyfedd i fyw gyda Chandler o’r enw Eddie (Adam Goldberg).
Daw fformat serialaidd yn bwysicach byth yn y trydydd tymor[7] Dechreua Rachel weithio yn Bloomingdales, ac fe deimla Ross genfigen tuag at ei chyd-weithiwr, Mark. Daw perthynas Ross a Rachel i ben pan gysga Ross gyda’r ferch rywiol o’r siop copi, Chloe. Mae Ross yn dweud nad oedd e’n anghywir i gysgu gyda Chloe achos roedd e a Rachel yn cymryd hoe (yr enwog “on a break” a ddaeth yn jôc gylchol trwy gydol y gyfres). Ar ôl i berthynas Ross a Rachel orffen, yn ddiddorol ni chanolbwyntir yn gyntaf ar Ross a Rachel a’u teimladau nhw, ond ar Chandler sy’n ffeindio’r holl beth yn anodd delio gyda hi. Mae’r ‘break-up’ wedi achosi iddo feddwl am ysgariad ei rieni. Fe ddysgwn nad oes gan Phoebe deulu, ar wahân i efaill unfath. Serch hynny, mae Phoebe yn cwrdd â’i hanner-brawd (chwaraewyd gan Giovani Ribisi)yn ystod tymor tri, ac ar ddiwedd y tymor darganfydda e imam-enedigol nad oedd hi’n gwybod oedd yn bodoli (chwaraewyd gan Teri Garr). Cwymp Joey mewn cariad â Kate, ei bartner actio mewn drama newydd (chwaraewyd gan Dina Meyer). I ddechrau, dydy hi ddim yn dangos yr un teimladau tuga ato, hyd yn oed ar ôl iddynt gysgu gyda’i gilydd. Serch hynny, ar ôl i’w chariad (sydd hefyd yn cyfarwyddo’r drama) orffen gyda hi achos adolygiad trybeilig, tro at Joey am gymorth a chefnogaeth. Dydy’r berthynas ddim yn para yn hir iawn o gwbl, achos fe ddaw cyfle iddi hi ar opera sebon yn Los Angeles. Cychwyna Monica berthynas gyda Pete Becker, miliynydd sydd yn cwympo mewn cariad gyda hi. Ar y dechrau, dim ond fel ffrind y ystyria Monica Pete, ond yn y pen draw, cychwynan nhw ganlyn. Caiff Monica fraw pan ddyweda Pete ei fod e eisiau dod yn “Ultimate Fighting Champion” a hithau’n disgwyl iddo ofyn iddi ei briodi ! Wedi iddi hi fynd i’w gefnogi e ddwy-waith a’i weld bob tro yn cael ei frifo’n wael iawn, dyweda Monica ei fod hi am iddo fe rhoi’r gorau i’r Ymladd Eithaf. Gan nad yw e’n fodlon gwneud, mae Monica yn gorffen y berthynas.
Yn ystod y pedwerydd tymor, fe ddaeth yr actores Lisa Kudrow yn feichiog. Addaswyd y sefyllfa hon i’r sgript trwy wneud Phoebe yn fam dros-dro (cariwr plentyn tan ei enedigaeth) ar gyfer ei brawd a’i wraig (Debra Jo Rupp sy’n chwarae’r rhan hwn).[8] Cymoda Ross a Rachel am ennyd fer yn y rhaglen gyntaf, ond yn fuan iawn maent yn rhoi’r gorau i’w perthynas. Yn ystod canol y tymor, caiff Monica a Rachel eu gorfodi i newid fflatiau gyda Joey a Chandler ar ôl colli bet pwy oedd yn nabod ei gilydd orau. Er mwyn cael eu fflat yn ôl, maent yn llwgrwobrwyo Joey a Chandler gyda thocynau tymor i weld y Knicks yn chwarae a hefyd maent yn cynnig cusanu ei gilydd am un funud. Yng nghanol y pedwerydd tymor, cychwyna Ross ganlyn Saesnes o’r enw Emily (Helen Baxendale sy’n chwarae’r rhan) ac fe ffilmiwyd y finale (a oedd yn cynnwys golygfa’r briodas) yn Llundain. Cysga Chandler a Monica gyda’i gilydd wedi i un o westeion y briodas camgymryd Monica i fod yn fam Ross. Roedd Monica yn chwilio am gysur gan ffrind, ond cyn i’r ddau wybod, roedden nhw yn y gwely gyda’i gilydd. Yn isel ei hysbryd ynghylch y briodas, aiff Rachel i Lundain gyda’r bwriad o ddweud wrth Ross ei gwir teimladau tuag ato, ond yn y pendraw penderfyna beidio â dweud dim byd. Cwymp anhrefn mawr iawn ar y briodas pan gyfnewidia Ross enwau Emily gydag enwau Rachel tra’n dweud addunedau’r briodas.
Dilyna’r bumed tymor gais Monica a Chandler i gadw eu perthynas yn gyfrinach o’u ffrindiau. Dysgwn fod priodas Ross ac Emily wedi gorffen cyn hyd yn oed dechrau. (Baxendale's pregnancy prevented her from appearing on-screen in all but two episodes[9]). Daw Phoebe o hyd i gariad arall: dyn heddlu o’r enw Gary (Michael Rapaport) mae hi’n cwrdd ag ef ar ôl dod o hyd i’w fathodyn. Er yn betrusgar i ddechrau ynglŷn â’r syniad o symud i mewn gyda Gary, mae hi’n ildio yn y pen draw. Daw’r berthynas i ben pan saetha Gary aderyn y tu allan i’w fflat. Yn ogystal, daw perthynas Monica a Chandler i’r amlwg ac ar drip i Las Vegas, penderfynant briodi. Hynny yw, tan iddynt weld Ross a Rachel yn baglu yn feddw allan o un o gapeli priodi enwog Las Vegas.
Yn y chweched tymor, cychwyna’r rhaglen drwy cadarnhau yr oedd y briodas rhwng Ross a Rachel yn gamgymeriad meddwol, ac er yn gyndyn i wneud, cytuna Ross gael ysgariad (ei drydydd) ar ôl methu â chael diddymiad (Annulment). Penderfyna Monica a Chandler y byddai Chandler yn symud i fyw yn fflat Monica, a symuda Rachel i fyw gyda Phoebe. Caiff Joey letywraig a hefyd rhan ar gyfres deledu o’r enw "Mac and C.H.E.E.S.E", ble chwaraea’r brif ran, gyda robot fel cyd-actor. Derbynia Ross swydd yn darlithio ym mhrifysgol Efrog Newydd a chychwyna ganlyn un o’i fyfyrwyr, Elizabeth (Alexandra Holden). Caiff Bruce Willis gameo tair-rhaglen yn chwarae rhan tad Elizabeth. Aiff fflat Phoebe a Rachel ar dân sy’n golygu bod rhaid i Rachel symud i fyw gyda Joey dros-dro, a Phoebe gyda Chandler a Monica. Yn ystod rhaglenni olaf y tymor penderfyna Chandler ei fod e am ofyn i Monica i’w briodi. Er mwyn sicrhau y bydd hyn y sypreis iddi hi, fe sonia Chandler am ei wrthwynebiad i briodias, sydd yn achosi i Monica feddwl o ddifrif am Richard sydd yn cyfaddef ei fod e dal yn ei charu hi. Serch hynny, clyw Monica am gynllyn Chandler a cheisia hi ofyn iddo fe ei phriodi hi. Mae hi mewn dagrau yn gwneud ac yn methu gorffen ei brawddegau. Gofyn Chandler iddi hi ei briodi e, ac fe benna’r rhaglen gyda dathliadau mawr â nifer o’r ffrindiau eraill oedd yn gwrando ochr arall y drws.
Priodas Monica a Chandler a’r paratoadau tuag ati sy’ amlyca’ yn y seithfed tymor. Caiff gyfres deledu Joey ei chanslo, ond yn ffodus caiff gynnig i ail-gipio yn ei ran ar Days of our Lives. Ar ôl peth amser, caiff fflat Phoebe ei drwsio, ond achos y ffordd y’i ail-adeiladwyd, rhaid iddi hi fyw yno ar ei phen ei hun, tra bod Rachel yn aros gyda Joey. Gorffenna’r tymor gyda phriodas Monica a Chandler. Cawn weld tad Chandler sy’n draws-wisgwr (transvestite). Daw’r llenni i lawr ar y tymor gyda’r newydd bod Rachel yn feichiog.
Dysgwn yn yr wythfed tymor mai Ross yw tad plentyn Rachel. Yn ogystal, dysgwn hefyd fod Joey wedi ennyn teimladau tuag at Rachel, sydd yn achosi peth lletchwithrwydd rhyngddynt. Ymhen hir a hwyr, daw eu cyfeillgarwch yn ôl i’w status quo ond yn rhaglen ola’r tymor, ar ôl rhoi genedigaeth i ferch fach (o’r enw Emma), crêd Rachel fod Joey yn gofyn iddi hi ei briodi e...ac mae hi’n derbyn. Y gwir yw, wedi i fodrwy ddisgyn o boced cot Ross, aeth Joey i’w phigo oddi ar y llawr, a dyma Rachel yn meddwl mai modrwy Joey yw hi. Cododd niferoedd y gwilwyr yn fawr iawn yn ystod y tymor hwn, a gellid rhoi’r diolch yn rhannol i ymosodiadau terfysgol yr 11eg o Fedi.
Dilyna’r nawfed tymor Ross a Rachel, erbyn hyn yn byw gyda’i gilydd yn magu’u babi Emma. Er hyn, fe symuda Rachel i fyw gyda Joey eto ar ôl cael dadl gyda Ross. Wedi’u hysbrydoli gan Ross a Rachel, penderfyna Monica a Chandler geisio am blentyn eu hun. Ânt at y doctor wedi i Monica methu a beichiogi, er iddyn nhw geisio nifer weithiau. Darganfyddan nhw bod ‘na resymau biolegol pam na all naill na’r llall gael plentyn. Ymddangosa Paul Rudd mewn rhan cylchol y tymor hwn, yn chwarae Mike Hannigan, cariad newydd Phoebe. Daw Hank Azaria yn ei ôl i ail-gydio yn y cymeriad David "the scientist guy", cymeriad yn wreiddiol o’r tymor cyntaf, a rhaid i Phoebe ddewis rhwng y ddau mewn finalé emosiynol. Gosodir y finalé yn Barbados, ble aiff y criw i wrando ar Ross yn rhoi araith mewn cynhadledd baleontoleg. Cydia Aisha Tyler yn y rhan cylchol cyntaf ar gyfer cymeriad du.[10] [Ychwanegwyd cymeriad du achos bod y rhaglen wedi’i beirniadu am ddiffyg amrywiaeth cymdeithasol.] Portreada Tyler Charlie, cariad academaidd Joey. Er bod Joey yn hoff iawn ohoni hi, yn ara deg, daw Charlie i ffafrio Ross, sydd â mwy o ddiddordebau yn gyffredin gyda hi. Wed i Charlie ddod â’r berthynas gyda Joey i ben, ailgoda teimladau Joey a Rachel tuag at ei gilydd. Cytunan nhw i tsecio gyda Ross cyn cychwyn unrhyw beth, tan i Joey ddal Ross yn cusanu Charlie. Gorffena’r finalé gyda Joey a Rachel yn cusanu.
Clo’r degfed tymor nifer o’r storïau anorffenedig; ceisia Joey a Rachel ymgodymu gyda theimladau Ross tuag atyn nhw fel cwpl. Serch hynny, daw pethau’n drychinebus tu hwnt yn y stafell wely, a penderfyna Joey a Rachel fod yn ffrindiau,a gadael pethau fel ‘na. Penderfyna Charlie ddychwelyd at Benjamin Hobart (Greg Kinnear), ei hen fflâm. Yn ogystal, dewisa Monica a Chandler fabwysiadu, a maent yn cwrdd ag Erica(Anna Faris), darpar-fam o Ohio. Esgora Erica yn y finale, gan ddarparu efeilliaid i Monica a Chandler. Prioda Phoebe a Mike tua diwedd y tymor a derbynia Rachel swydd ym Mharis. Datgan Ross ei gariad wrth Rachel, ond er hyn fe â hi ar yr awyren, ond yn hwyrach yn y rhaglen fe ymddangosa hi wrth ddrws ei fflat yn cydnabod ei bod hi hefyd yn ei garu. Symuda Monica a Chandler o’i fflast yn y ddinas, i dŷ yn y faestref. Mae hyn yn achosi i Joey dristáu, sy’n gweld popeth o’i gwmpas yn newid. Yn finalé’r gyfres, ar y diwedd, dywed Rachel mewn dagrau 'Shall we go get some coffee?'. Ateb Chandler yw, Sure. Where? (y geiriau olaf a siaradwyd ar y rhaglen).
Cynhyrchiad
[golygu | golygu cod]Crëwyd Friends ym 1993 gan David Crane a Marta Kauffman fel parhad o’u cyfres deledu Dream On. Cynulleidfa-darged Friends oedd oedolion ifainc y 90au cynnar a oedd yn mwynhau’r ddiwylliant café, ac yn rhan o’r sîn canlyn ac yn gefnogol o annibyniaeth fodern.[11]
Rhai o’r enwau posibl ar gyfer y gyfres oedd Across the Hall, Six of One, Once Upon a Time in the West Village, Legion of Damned Souls, Insomnia Café, or Friends Like Us,[12] Cynhyrchwyd Friends gan Bright/Kauffman/Crane Productions, mewn cydberthynas â Warner Bros. Television, ar gyfer NBC yn yr Unol Daleithiau. Darlledwyd rhaglen gyntaf Friends ar yr 22ain o Fedi, 1994. Cafodd lwyddiant anferth trwy gydol y deng mlynedd y’i darlledwyd, ac roedd yn aml iawn yn ymddangos ar restr bwysig sianel NBC, “The NBC Thursday night line-up”. Darlledwyd y rhaglen olaf ar y 6ed o Fai, 2004.
Ar ôl finalé’r gyfres yn 2004, crëwyd y rhaglen ‘spin-off’ Joey. Beirniadodd nifer o gefnogwyr Friends benderfyniad NBC o roi rhaglen bersonol i un cymeriad, a disgynodd nifer y gwilwyr yn fawr iawn rhwng y tymor cyntaf a’r ail dymor.[13] Diddymwyd y sioe ar y 15fed o Fai, 2006. Roedd tua 18.6 miliwn o wilwyr ar gyfer y rhaglen gyntaf o gymharu â 4 miliwn a wyliodd y rhaglen olaf.
Effeithiau Diwylliannol
[golygu | golygu cod]Mae Friends wedi dylanwadu’n fawr iawn ar nifer o feysydd diwylliant poblogaidd- yn arbennig ffasiwn. Mae nifer wedi nodi dylanwad y gyfres ar ffasiwn bob-dydd, ac ar steiliau gwallt. Galwyd steil gwallt Aniston "The Rachel", ac fe’i efelychwyd o gwmpas y byd.[14]
Mae ymadrodd bachog Joey Tribbiani, yr enwog "How you doin'?" wedi dod yn rhan boblogaidd iawn o fratiaith Saesneg Orllewinol.[15]
Ymddangosodd y geiriad "Ross and Rachel" fel jôc yn Scrubs: Disgifia’r gofalwr berthynas J.D. gydag Elliot fel "not exactly Ross and Rachel." Cafwyd mwy o gyfeiriadau at Friends eto yn Scrubs yn y rhaglen ‘My Cold Showe’, pan ddyweda Carla fod perthynas J.D. ac Elliot "On and off more than Ross and Rachel, from Friends." Ar 100fed rhaglen y gyfres One Tree Hill (priodas Lucas a Lindsay), gwnaiff gymeriad gyfeiriad at Ross yn dweud yr enw anghywir wrth yr allor pan roedd yn priodi Emily. Mewn un rhaglen o’r gyfres Brydeinig Skins, mae ‘na ferch o Rwsia sydd wedi dysgu Saesneg o’r rhaglen Friends, ac yn defnyddio nifer o ymadroddion bachog y gyfres (megis "How you doin'" a "We were on a break") fel jôc gylchol. Yn The Nanny protestia Margaret Sheffield gan ddweud "but I'll never know if Ross and Rachel will be together again!"
Mae tŷ coffi Central Perk, un o brif leoliadau’r gyfres, wedi ysbrydoli nifer o efelychiadau dros y byd i gyd. Yn 2006, roedd dyn busnes Iranaidd, Mojtaba Asadian, wedi dechrau trwydded "Central Perk", yn cofrestri’r enw mewn 32 o wledydd. Ysbrydolir y décor o fewn y tai coffi gan ddécor y Central Perk gwreiddiol. James Michael Tyler, y gŵr a bortreada Gunther, yw genau a thafod y cwmni, ac fe fynychodd agoriad mawr y brif café yn Dubai.[16]
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Enillodd y gyfres Emmys yn fwy na dim (e.e. Golden Globes a Gwobrau SAG). Enillodd 7 Emmy allan o 63 enwebiad. Jennifer Aniston a Lisa Kudrow yw unig aelodau’r cast a enillodd Emmy bersonol.
- Gwobrau Emmy
- 2008 – Moment Mwya Cofiadwy Teledu- Comedi (ar gyfer "The One Where Ross Finds Out")
- 2003 – Actores Wadd Ddiarhebol mewn Cyfres Gomedi - Christina Applegate
- 2002 – Cyfres Gomedi Ddiarhebol
- 2002 – Actores Arweiniol Ddiarhebol mewn Cyfres Gomedi - Jennifer Aniston
- 2000 – Actor Gwadd Diarhebol mewn Cyfres Gomedi - Bruce Willis
- 1998 – Actores Gefnogol Ddiarhebol mewn Cyfres Gomedi - Lisa Kudrow
- 1996 – Cyfarwydd Diarhebol mewn Cyfres Gomedi - Michael Lembeck (ar gyfer "The One After the Superbowl")
- Gwobrau Golden Globe
- 2003 – Perfformiad Gorau gan Actores mewn Cyfres Deledu, Sioe Gerdd neu Gomedi - Jennifer Aniston
- Gwobrau Screen Actors Guild
- 2000 – Perfformiad Diarhebol gan Actores mewn Cyfres Gomedi - Lisa Kudrow
- 1996 – Perfformiad Diarhebol gan Ensemble mewn Cyfres Gomedi
Nifer y Gwylwyr
[golygu | golygu cod]Gwylwyr Prydeinig a Gwyddelig
[golygu | golygu cod]Darlledwyd Friends yn wreiddiol ar y sianel ddaearol “Channel 4” o 1994 ymlaen. Dangoswyd rhaglenni newydd yna ar Sky1 ar ddiwedd y 1990au, er i’r gyfres gael mwy o wylwyr diolch i’r ail-ddarllediadau ar Channel 4. Ailddarlledwyd y rhaglen yn ddyddiol ar Channel 4 ac S4C yng Nghymru tan yn ddiweddar. Fe’i hailddarlledir hyd heddiw, serch hynny, ar E4.
Sianel Wyddelig “RTÉ Two” oedd y cyntaf yn Ewrop i ddangos rhaglen gyntaf un y gyfres, a rhaglen olaf un y gyfres Friends.[17] Derbyniodd y rhaglen niferoedd mawr iawn yn Iwerddon gyda'r darllediad gwreiddiol. Hyd heddiw, parha’r sianel i ddangos y gyfres. Dangosa Sianel 6 Iwerddon y rhaglen hefyd.
Ffilm
[golygu | golygu cod]Er bod nifer o adroddiadau yn honni bod y brif gast yn awyddus iawn i ail-gymryd yn eu rhanau ar gyfer ffilm [18], mae Warner Brothers wedi gwadu unrhyw gynlluniau ar gyfer ffilm.[19] Yn ychwanegol, mae siaradwyr ar rannau Courteney Cox Arquette a Matthew Perry hefyd wedi gwadu sibrydion bod ffilm ar y gweill.[20]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Estimated 51.1M Tune in for 'Friends' Finale. Fox News (2004-05-07).
- ↑ Biography for Lisa Kudrow o wefan IMDb
- ↑ Gorman, Steve (2004-05-04). NBC's "Friends" heads for much-hyped farewell. Forbes.
- ↑ 'Band of Brothers' IMDB Cast List.
- ↑ "Friends" (1994).
- ↑ Gwall wrth ddefnyddio Nodyn:Dyf gwe: mae'r paramedrau url a teitl yn angenrheidiol.. Irish Independent (2004-05-06).
- ↑ Jim Sangster; David Bailey (2000). Friends Like Us: The Unofficial Guide to Friends. Virgin Publishing Ltd. ISBN 0-7535-0439-1
- ↑ E!-online.
- ↑ Daily Mail.
- ↑ Greg Braxton. "Hollywood loves BBFs 4-Ever", Los Angeles Times, 2007-08-29.
- ↑ Nodyn:Cite new
- ↑ Lauer, Matt (2005-05-04). 'Friends' creators share show's beginnings. MSNBC.
- ↑ Joey cancelled. World Entertainment News Network (2006-05-16).
- ↑ 'The Rachel' remains a cut above the rest Archifwyd 2007-11-18 yn y Peiriant Wayback by Jae-Ha Kim, Chicago Sun-Times, April 29, 2004. Retrieved June 15, 2006
- ↑ Nodyn:Cite new
- ↑ Nodyn:Cite new
- ↑ RTÉ Entertainment, May 11, 2004 - European debut of Friends finale on RTÉ.
- ↑ Digital Spy http://www.digitalspy.co.uk/movies/a106492/friends-movie-within-next-18-months.html Archifwyd 2009-08-25 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Nodyn:Cite new
- ↑ Friends movie 'not happening'. Guardian (2008-07-04).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Archifwyd 2021-01-14 yn y Peiriant Wayback
- E4.com - Friends Archifwyd 2011-09-03 yn y Peiriant Wayback