Bruce Willis
Bruce Willis | |
---|---|
Ganwyd | Walter Bruce Willis 19 Mawrth 1955 Idar-Oberstein |
Man preswyl | Los Angeles, yr Almaen, New Jersey |
Label recordio | Motown Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, canwr, actor, actor llais, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Die Hard, Pulp Fiction, The Fifth Element, Armageddon, The Sixth Sense, Moonlighting |
Priod | Demi Moore, Emma Heming Willis |
Plant | Rumer Willis, Scout Willis, Tallulah Willis |
Gwobr/au | Commandeur des Arts et des Lettres, Gwobr y Golden Globe am yr Actor Gorau - mewn Cyfres Deledu Cerdd neu Gomedi, Golden Raspberry Award for Worst Screenplay, Gwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Officier des Arts et des Lettres |
llofnod | |
Actor a chynhyrchydd ffilm Americanaidd yw Walter Bruce Willis (ganed 19 Mawrth 1955). Dechreuodd ei yrfa ar ddramau teledu yn ystod yr 1980au cyn dod yn seren ffilm. Daeth i enwogrwydd ar deledu yn chwarae rhan David Addison ar y drama-gomedi Moonlighting gyferbyn a Cybill Shepherd.
Yn 1988 ymddangosodd yn un o'i rannau ffilm mwyaf poblogaidd yn chwarae John McClane yn y gyfres ffilmiau Die Hard, a fu'n llwyddiant masnachol a beirniadol. Mae Willis wedi rhyddhau sawl albwm ac mae wedi ymddangos mewn nifer o raglenni teledu. Ymddangosodd hefyd mewn dros trigain o ffilmiau, gan gynnwys Pulp Fiction, Sin City, 12 Monkeys, Armageddon, a The Sixth Sense.
Bu'n briod â'r actores Demi Moore o 1987 tan 2000 ac mae bellach yn briod â'r actores a'r model Seisnig, Emma Heming.
Cyhoeddodd ei ymddeoliad yn 2022 pan gafodd ddiagnosis o aphasia, nam ymennydd sy'n achosi problemau lleferydd. Ar 16 Chwefror 2023, cyhoeddodd ei deulu fod Willis yn dioddef o dementia blaenarleisiol.[1]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- BruceWillis.com (Way Back Machine) Gwefan swyddogol - caewyd ers Thanksgiving 2005. Cyfeiria'r ddolen at dudalennau cartref cached ar archif Archive.org.
- Coeden deuluol
- Cyfweliad â Bruce Willis Archifwyd 2010-07-29 yn y Peiriant Wayback ar The Tavis Smiley Show
- Bruce Willis Married to Emma Heming
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bruce Willis Diagnosed With Dementia After Retiring Due to Aphasia (en) , Variety, 16 Chwefror 2023.