Pulp Fiction (ffilm)
![]() | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Quentin Tarantino |
Cynhyrchydd | Lawrence Bender |
Ysgrifennwr | Quentin Tarantino Roger Avary |
Serennu | John Travolta Samuel L. Jackson Uma Thurman Bruce Willis Harvey Keitel Tim Roth Amanda Plummer Maria de Medeiros Ving Rhames Eric Stoltz Rosanna Arquette Christopher Walken |
Golygydd | Sally Menke |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Miramax Films |
Dyddiad rhyddhau | 14 Hydref 1994 |
Amser rhedeg | 154 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Pulp Fiction (1994) yn ffilm drosedd Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Quentin Tarantino, a ysgrifennodd y ffilm ar y cyd gyda Roger Avary. Mae'r ffilm yn enwog am ei deialog gyfoethog a'i chymysgedd eironig o drais a hiwmor a chyfeiriadau at ddiwylliant pop. Enwebwyd y ffilm am saith Oscar, gan gynnwys y Ffilm Orau; enillodd Tarantino ac Avary Wobr yr Academi am y Sgript Wreiddiol Orau. Derbyniodd y Palme d'Or yn Ngŵyl Ffilmiau Cannes hefyd. Roedd y ffilm yn llwyddiant masnachol ac ail-gychwynnodd yrfa John Travolta, a gafodd ei enwebu am Wobr yr Academi, fel y gwnaeth ei gyd-actorion Samuel L. Jackson ac Uma Thurman hefyd.