Theatr Broadway

Oddi ar Wicipedia

Mae'r term theatr Broadway, neu'n syml Broadway yn cyfeirio at berfformiadau theatraidd a gyflwynir yn un o'r 40 theatr proffesiynol sydd â 500 o seddi yr un ac sydd wedi'u lleoli yn Ardal Theatr Manhattan, Efrog Newydd yn ogystal ag un theatr yn Lincoln Center.

Ystyrir theatr Broadway a theatr y 'West End' Llundain yn aradloedd theatr o safon uchaf yn y byd Saesneg ei iaith.

Mae Broadway'n styniad twristaidd pwysig iawn yn Efrog Newydd, ac yn ôl The Broadway League yn 2014, er enghraifft, gwerthwyd record o werth US$1.36 biliwn o docynnau. Roedd hyn yn gynnydd o 14% ar y flwyddyn cynt.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Broadway's box offices say goodbye to record-setting 2014". Crain Communications. Cyrchwyd January 5, 2015.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas Efrog Newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.