Matthew Perry

Oddi ar Wicipedia
Matthew Perry
GanwydMatthew Langford Perry Edit this on Wikidata
19 Awst 1969 Edit this on Wikidata
Williamstown, Massachusetts Edit this on Wikidata
Bu farw28 Hydref 2023 Edit this on Wikidata
o boddi, gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Canada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ashbury College
  • The Buckley School
  • Lisgar Collegiate Institute Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm, sgriptiwr, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFriends Edit this on Wikidata
Taldra1.83 metr Edit this on Wikidata
TadJohn Bennett Perry Edit this on Wikidata
MamSuzanne Langford Edit this on Wikidata
PerthnasauKeith Morrison, Luke Perry Edit this on Wikidata
Gwobr/auScreen Actors Guild Award for Outstanding Performance by an Ensemble in a Comedy Series, TV Guide Award, Huading Awards Edit this on Wikidata
Chwaraeon
llofnod

Roedd Matthew Langford Perry (19 Awst 196928 Hydref 2023)[1][2] yn actor ac ysgrifennwr o'r Unol Daleithiau ac o Ganada. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Chandler Bing yng nghomedi sefyllfa teledu NBC Friends, yn ogystal â chwarae Ron Clark yn y ffilm deledu 2006 The Ron Clark Story.[3] Ynghyd â serennu yn y gyfres Studio 60 on the Sunset Strip, ymddangosodd Perry mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys Fools Rush In (1997), The Whole Nine Yards (2000), a 17 Again (2009). Yn 2010, lleisiodd Benny yn y gêm fideo 'chwarae rhan' Fallout: New Vegas.

Perry oedd cyd-grëwr, cyd-ysgrifennwr, uwch gynhyrchydd a seren y comedi sefyllfa ABC Mr. Sunshine, a redodd o Chwefror i Ebrill 2011.[4] Yn Awst 2012, dechreuodd Perry serennu fel Ryan King, cyflwynydd chwaraeon ar gomedi sefyllfa NBC, Go On. Canslwyd y gyfres ar 10 Mai 2013. Perry oedd cyd-grëwr a seren comedi sefyllfa CBS The Odd Couple, yn chwarae rôl Oscar Madison. Adnewyddwyd y rhaglen am ail gyfres ar 11 Mai, 2015.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Perry yn Williamstown, Massachusetts. Roedd ei fam, Suzanne Marie Morrison (gynt Langford), yn newyddiadurwraig o Ganada ac yn gyn-ysgrifenyddes y wasg i Brif Weinidog Canada Pierre Trudeau. Mae ei dad, John Bennett Perry (ganed 1941), yn actor Americanaidd a chyn-fodel. Ysgarodd rhieni Perry cyn iddo droi'n un flwydd oed, ac aeth ei fam yn ei blaen i briodi Keith Morrison, newyddiadurwr darlledu. Magwyd Perry gan ei fam yn Ottawa, Ontario, a mynychodd Ysgol Gyhoeddus Rockcliffe Park a Choleg Ashbury. Fel plentyn, roedd yn chwaraewr tenis llwyddiannus.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl symud o Ottawa i Los Angeles i ddilyn gyrfa actio, mynychodd Perry The Buckley School yn Sherman Oaks. Pan yn Buckley, perfformiodd Perry fel George Gibbs yn Our Town, yn ogystal ag ymddangos yn The Miracle Worker a The Sound of Music, yn derbyn canmoliaeth am ei berfformiadau. Yn ei flwyddyn olaf, cynlluniwyd cynhyrchiad o The Elephant Man gan y cyfarwyddwr Tim Hillman gyda'r syniad o gastio Perry fel John Merrick ynghyd â Vanessa Smith a seren Les Miserables y dyfodol, Lisa Capps. Tynnodd Perry yn ôl o'r cynhyrchiad ar ôl iddo gael ei gastio yn A Night in the Life of Jimmy Reardon gyda River Pheonix, yn dod â'i yrfa actio ysgol uwchradd i ben. Hefyd yn ystod ei ddyddiau yn yr ysgol uwchradd, daeth Perry yn berfformiwr comedi improv yn yr LA Connection yn Sherman Oaks. Dechreuodd Perry actio'n broffesiynol yn 18 mlwydd oed.

Wedi ymddangosiadau gwadd mewn rhaglenni teledu yng nghanol yr 1980au, ei fwriad oedd ymrestru ym Mhrifysgol De Califfornia, ond cyn iddo wneud hyn, cynigiwyd y brif rôl o Chazz Russell yn Second Chance i Perry, yn ei gynorthwyo i ddod yn fwy gweladwy ar y sîn actio. Yn wreiddiol, serennodd Perry gyda Kiel Martin pan ddarlledwyd y gyfres am y tro cyntaf yn 1987, ond ar ôl 13 o benodau, newidiwyd y fformat, gyda Second Chance yn troi'n Boys Will Be Boys, a daeth cymeriad Perry yn fwy amlwg gyda'r plot yn symud i ganolbwyntio ar anturiaethau Chazz a'i ffrindiau yn eu harddegau. Er gwaethaf y newidiadau, fe'i pharodd am ddim ond un gyfres. Ar ôl iddi orffen, arhosodd Perry yn Los Angeles yn gwneud ymddangosiad gwadd ar y rhaglen deledu Growing Pains, yn chwarae cariad Carol sy'n marw yn yr ysbyty o anafiadau wedi damwain gar.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilmiau

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1988 A Night in the Life of Jimmy Reardon Fred Roberts
Dance 'til Dawn Roger Ffilm deledu
1989 She's Out of Control Timothy
1990 Call me Anna Desi Arnaz, Jr. Ffilm deledu
1993 Deadly Relations George Westerfield Ffilm deledu
1994 Getting In Randall Burns
Parallell Lives Willie Morrison Ffilm deledu
1997 Fools Rush In Alex Whitman
1998 Almost Heroes Leslie Edwards
1999 Three to Tango Oscar Novak
2000 The Whole Nine Yards Nicholas "Oz" Oseransky
Disney's The Kid Mr. Vivian Heb gydnabyddiaeth
2002 Serving Sara Joe Tyler
2004 The Whole Ten Yards Nicholas "Oz" Oseranksy
2005 Hoosiers II: Senior Year Coach Norman Dale Jr. Ffilm fer
2006 The Ron Clark Story Ron Clark Ffilm deledu
2007 Numb Hudson Hefyd yn uwch gynhyrchydd
2008 Birds of America Morrie Tanager
2009 17 Again Mike O'Donnell (37 mlwydd oed)

Teledu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1979 240-Robert Arthur Pennod: "Bank Job"
1983 Not Necessarily News Bob Pennod: "Audrie in Love"
1985 Charles in Charge Ed Stanley Pennod: "The Wrong Guy"
1986 Silver Spoons Davey Pennod: "Rick Moves Out"
1987-1988 Second Chance Chazz Russell Prif gast; 21 pennod
1988 Just the Ten of Us Ed Pennod: "The Dinner Test"
Highway to Heaven David Hastings 2 bennod
1989 Growing Pains Sandy 3 pennod
Empty Nest Bill (18 mlwydd oed) Pennod: "A Life in the Day"
1990 Sydney Billy Kells Prif gast; 13 o benodau
Who's the Boss? Benjamin Dawson Pennod: "Roomies"
1991 Beverly Hills, 90210 Roger Azarian Pennod: "April is the Cruelest Month"
1992 Sibs Pennod: "What Makes Lily Run?"
Dream On Alex Farmer Pennod: "To the Moon, Alex!"
1993 Home Free Matt Bailey Prif gast; 13 o benodau
1994-2004 Friends Chandler Bing Prif gast; 236 o benodau
1995 The John Larroquette Show Steven Pennod: "Rachel Redux"
Caroline in the City Chandler Bing Pennod: "Caroline and the Folks"
1997 Saturday Night Live Ei hunan Cyflwynydd; pennod: "Matthew Perry/Oasis"
2001 The Simpsons Llais Matthew Perry Ultrahouse 3000 Pennod: "Treehouse of Horror XII"
2002 Ally McBeal Todd Merrick 2 bennod
2003 The West Wing Joe Quincy 3 pennod
2004 Scrubs Murray Marks Pennod: "My Unicorn"; hefyd yn gyfarwyddwr
2006-2007 Studio 60 on the Sunset Strip Matt Albie Prif gast; 22 o benodau
2011 Mr. Sunshine Ben Donovan Prif gast a chyd-grewr; 13 o benodau
Childrens Hospital Ei hunan Pennod: "The Black Doctor"
2012-2013 The Good Wife Mike Kresteva 4 pennod (1 heb gydnabyddiaeth)
Go On Ryan King Prif gast; 22 o benodau
2013 Hollywood Game Night Ei hunan Pennod: "The One with the Friends"
2014 Cougar Town Sam Pennod: "Like a Diamond"
The Dog Thrower Y dyn carismataidd 1 bennod
2015 Web Therapy Tyler Bishop (neu Tyler Levin) Pennod: "Lies and Alibis"
2015-2017 The Odd Couple Oscar Madison Prif gast; hefyd yn ysgrifennwr ac uwch gynhyrchydd; 12 o benodau
2017 The Good Fight Mike Kresteva Rhan achlysurol; 3 pennod
2017 The Kennedys: After Camelot Ted Kennedy Cyfres deledu fer; 4 pennod; hefyd yn uwch gynhyrchydd
2021 Friends: The Reunion Ei hun Rhaglen arbennig HBO Max; hefyd yn uwch gynhyrchydd

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Matthew Perry". TVGuide.com. Cyrchwyd 11 Awst 2015.
  2. France, Lisa (2023-10-29). "Matthew Perry, 'Friends' star, dead at 54". CNN (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-10-29.
  3. "Matthew Perry - Awards & Nominations - MSN Movies". Movies.msn.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-11-14. Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2011.
  4. Gorman, Bill (December 6, 2010). "ABC's 'Mr. Sunshine' Will Bump 'Cougar Town'; Plus Dates For 'Happy Endings' & 'Off The Map'". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-08. Cyrchwyd 4 Mawrth 2011.