Courteney Cox
Gwedd
| Courteney Cox | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | Courteney Bass Cox 15 Mehefin 1964 Birmingham |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor teledu, actor ffilm, actor llais, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd teledu, model |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Friends, Family Ties, Scream |
| Priod | David Arquette |
| Partner | Michael Keaton, Johnny McDaid |
| Plant | Coco Arquette |
| Gwobr/au | Gwobr Lucy, Gwobr People's Choice, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by an Ensemble in a Comedy Series, Teen Choice Award for Choice Movie: Chemistry, Gold Derby Awards, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, TV Guide Award, Gwobr MTV Movie am Ffeit Orau |
| llofnod | |
Mae Courteney Bass Cox (ganed 15 Mehefin 1964) yn actores, cynhyrchwraig a chyfarwyddwraig o'r Unol Daleithiau. Fe'i hadnabyddir yn bennaf am ei rolau fel Monica Geller yng nghomedi sefyllfa NBC, Friends, Gale Weathers yn y ffilmiau arswyd Scream, a fel Jules Cobb yn y comedi sefyllfa ABC/TBS Cougar Town. Enillodd ei henwebiad Golden Globe cyntaf am ei pherfformiad yn y gyfres hon. Serennodd Cox hefyd yng nghyfres Dirt ar FX. Mae'n berchen ar gwmni cynhyrchu o'r enw Coquette Productions a grëwyd ganddi a'i chyn-ŵr David Arquette. Gweithiodd fel cyfarwyddwraig ar Cougar Town a'r ffilm deledu Talhotblond.
