Neidio i'r cynnwys

Cougar Town

Oddi ar Wicipedia
Cougar Town
Genre Comedi sefyllfa
Crëwyd gan Bill Lawrence
Kevin Biegel
Serennu Courteney Cox
Christa Miller
Busy Philipps
Dan Byrd
Josh Hopkins
Ian Gomez
Brian Van Holt
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 6
Nifer penodau 102
Darllediad
Sianel wreiddiol ABC (2009-12)
TBS (2013-2015)
Rhediad cyntaf yn 23 Medi, 2009 - 31 Mawrth, 2015
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Comedi sefyllfa deledu Americanaidd yw Cougar Town a redodd am 102 o benodau dros chwe chyfres, o 23 Medi 2009 tan 31 Mawrth 2015.[1] Darlledwyd y tair cyfres gyntaf ar ABC gyda'r rhaglen yn symud i TBS ar gyfer ei chyfresi olaf. Lleolwyd y gyfres mewn tref ffuglennol o'r enw Gulfhaven yn Fflorida, ond fe'i hadnabuwyd yn aml gan ei ffug enw "Cougar Town".[2] Rhannodd dimoedd chwaraeon ysgol uwchradd y dref yr enw hwn, ac fe'u hadnabuwyd hwythau fel "y Cougars". Canolbwynt y gyfres yw merch yn ei 40au sydd newydd ysgaru.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Andreeva, Nellie (10 Mai 2012). "It's Official: 'Cougar Town' Is Moving To TBS". Deadline Hollywood. Cyrchwyd 10 Mai 2012.
  2. Murray, Amanda Sloane (22 Medi 2009). "Cougar Town: Pilot Review". ign.com. Cyrchwyd February 20, 2011.