Lisa Kudrow

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lisa Kudrow
Lisa Kudrow 2.jpg
Ganwyd (1963-07-30) 30 Gorffennaf 1963 (55 oed)
Los Angeles, Califfornia, Yr Unol Daleithiau
Enwau eraillLisa Valerie Kudrow
Yn enwog amFriends
GalwedigaethActores, actores lais, ysgrifenwraig, comediwraig, a chynhyrchwraig

Mae Lisa Valerie Kudrow (ganed 30 Gorffennaf 1963) yn actores, comediwraig, ysgrifenwraig a chynhyrchwraig Americanaidd. Daeth i amlygrwydd byd-eang am chwarae'r rhan Phoebe Buffay yn y comedi sefyllfa teledu Friends, a derbyniodd sawl gwobr am ei pherfformiad, gan gynnwys Gwobr Emmy a dwy Wobr Screen Actors Guild.

Aeth yn ei blaen i gynyrchu, ysgrifennu a serennu yng ngyfres The Comeback ar HBO yn 2005. Adfywiwyd y rhaglen naw mlynedd yn ddiweddarach a dechreuodd yr ail gyfres ddarlledu yn Nhachwedd 2014. Mae hi hefyd yn serennu yn Web Therapy sydd yn ei phedwaredd gyfres ar Showtime, ac enwebwyd Kudrow am Wobr Emmy ar gyfer ei rhan yn y gyfres yn 2012. Mae'n un o'r uwch gynhyrchwyr ar raglen realiti TLC, Who Do You Think You Are, ac enwebwyd hi am Wobr Emmy dros Rhaglen-Realiti Rhagorol ar gyfer y gyfres yn 2012.

Mae Kudrow hefyd wedi ymddangos mewn sawl ffilm, gan gynnwys Romy and Michele's High School Reunion (1997), The Opposite of Sex (1998), Analyze This (1999) a'i dilyniant Analyze That (2002), Dr. Dolittle 2 (2001), Wonderland (2003), Happy Endings (2005), P.S. I Love You (2007), Bandslam (2008), Hotel for Dogs (2009), Easy A (2010) a Bad Neighbours (2014).

Trwy gydol ei gyrfa mae wedi derbyn deg enwebiad Gwobr Emmy, un-deg-dau enwebiad Gwobr Screen Actors Guild ac enwebiad Gwobr Golden Globe.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]