Rhyfel y Sais Bach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Protest a gwrthddrawiad yn erbyn hawl y dosbarth uwch, ac yn benodol Augustus Brackenbury, i brynnu tiroedd yng Nghymru oedd Rhyfel y Sais Bach. Roedd yn ddigwyddiad unigryw, ond eto'n rhan o ymgais y Cymry i atal y 'cau tiroedd'.

Y cefndir: cau tiroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

O ddechrau'r 16g am gyfnod o ddwy ganrif neu ragor, gwelwyd tirfeddiannwyr a landlordiaid yn amgau tir comin agored gan ei gymryd yn eiddo iddynt eu hunain. Roedd yr anogaeth iddynt wneud hyn yn dod o Loegr; canodd y bardd John Dwyer: Inclose! Inclose! Ye swains!... in fields / Promisuous held, all culture languishes.; pasiwyd mesur amgau tir Cymru yn 1733 a rhwng 1793 a 1818 pasiwyd bron i gant o fesurau a oedd yn trosgwyddo 80,000ha o fod yn dir pawb i fod yn dir caeedig, dan berchnogaeth. Yn dilyn hyn, gwelwyd milltiroedd o waliau cerrig yn cael eu codi ar ucheldiroedd Cymru.

Trawsfeddiannwyd tiroedd anferth gan landlordiaid cyfoethog a gwelwyd sgwatwyr tlawd hefyd yn cymryd tiroedd yn nhraddodiad y tai unnos.

Codi tŷ, heb ganiatad[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o'r gwrthdrawiadau enwocaf oedd 'Rhyfel y Sais Bach' a barodd rhwng 1820-6, pan brynodd Augustus Brackenbury gŵr cyfoethog o Swydd Lincoln 345ha o dir yn ardal Llangwyryfon, Sir Aberteifi. Ceisiwyd ei atal rhag codi plasty iddo'i hun gan werinwyr tlawd, a hynny liw nos. Fel Merched Beca, gwisgent ddillad eu gwragedd a duent eu hwynebau, rhag i neb eu hadnabod. Bob tro y ceisiai Brackenbury godi ei dŷ byddent yn ei rwystro drwy ddarnio'r waliau gyda cheibiau. Ar un 14 Mai 1826 daeth dros 600 o werinwyr yno gan ddinistrio ei dŷ. Ffodd am ei fywyd yn ôl i Loegr.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; gol: John Davies; tud 818.