Donald Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Donald Evans
Ganwyd 1940 Edit this on Wikidata
Alma mater Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan Edit this on Wikidata
Gwaith Bardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg yw Donald Evans (ganed 1940 mewn fferm ar lan Banc Siôn Cwilt, Ceredigion). Mae’n awdur 12 o gyfrolau barddoniaeth a chyfrol o atgofion.

Enillodd y gadair a'r goron yn yr un Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r cylch 1977 ac eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Lliw 1980. Bu’n olygydd barddoniaeth y cylchgrawn Barn o 1989 hyd 1991. Yn 2006 enillodd ddoethuriaeth am ei draethawd Egwyddorion Beirniadol Awdl yr Eisteddfod Genedlaethol 1955-1999.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Egin (1976)
  • Parsel persain: cyfrol o englynion (1976, golygydd)
  • Haidd (1977)
  • Grawn (1979)
  • Y flodeugerdd o gywyddau (1981, golygydd)
  • Eden (1981)
  • Gwenoliaid (1982)
  • Machlud canrif (1983)
  • Eisiau byw (1984)
  • Cread Crist (1986)
  • O'r Bannau Duon (1987)
  • Iasau (1988)
  • Rhydwen Williams (1991)
  • Wrth reddf (1994)
  • Asgwrn cefen (1997)
  • Y cyntefig cyfoes (2000)
  • Awdlau'r Brifwyl 1950-1999 (2008)
  • Cartre'n y Cread (2010)