Heol y Bont, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Heol y Bont, gwynebu'r de am Drefechan Heol y Bont neu, yn aml ar lafar, Stryd y Bont yw un o brif strydoedd a strydoedd hynaf Aberystwyth. Mae'n arwain i ganol y dref o'r De. Dyma ran o'r hen brif-ffordd i Aberaeron a Caerfyrddin ac mae dal yn swyddogol yn rhan o briffordd (Trunk Road) yr A487

Ar waelod ddeheuol y stryd ceir Pont Trefechan lle bu protest lwyddiannus gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 1963. Ar ben uchaf y dre ceir Cloc Aberystwyth a chyffordd i'r Stryd Fawr. Ceir strydoedd llai yn arwain oddi ar Stryd y Bont; o'r de i'r gogledd ar yr ochr chwith - Tan y Cae (South Rd) a Lôn Rhosmari (Princess St.), ac ar yr ochr dde, y Dan Dre (Mill St), Stryd Powell a'r Lôn Gefn.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Motiff Banc y Ddafad Ddu
Westminster House, Heol y Bont, Aberystwyth

Yn y Siarter Frenhinol a roddwyd i Abberystwyth gan Edward I, brenin Lloegr yn 1277 nodwyd yr angen i adeiladu mur ar gyfer amddiffyn y dref. Dechreuwyd adeiladu'r mur a ffos yn 1278. Erbyn 1280 roedd y mur yn amgylchynu ardal o 20 hectar (50 acer). Gellir gweld hen llinell mur y dref wrth edrych ar fap a dilyn strydoedd; Ffordd y Brenin, Stryd y Popty, Heol y Ffynnon Haearn, y Ro Fawr a Dan y Dre. roedd porth ar waelod y Stryd Fawr - tarddiad yr enw Saesneg, Great Darkgate St, ar gyffordd Stryd y Popty a Heol y Ffynnon Haearn ac un arall ar waelod Heol y Bont, ger afon Rheidol. roedd porth arall ar ddiwedd stryd y Stryd y Porth Bach ond doedd dim ynediad i'r traeth o ochr y môr o Heol y Wig, nes yn hwyrach.

Y Stryd Fawr gyda Heol y Wig tua'r gogledd iddi a Heol y Bont, tua'r de, oedd echel tref Ganol Oesol Aberystwyth. Arferid cynnal marchnad yma lle nawr ceir tai a siopau ond hefyd yr Hen Farchnad.[2]

Ar hyd y stryd ceid tai a gerddi ond yna tir agored oedd yno gan fwyaf hyd at ddiwedd 18g. Wrth i'r dref ehangu i'r dwyrain a'r gogledd, collodd Heol y Bont peth o'i phwysigrwydd masnachol gan gadw ei hadeiladau ar gyfer preswylwyr yn hytrach na masnach (fel Heol y Wig a'r Stryd Fawr). Bu fawr o newid yn y dref na nifer ei strydoedd am ganrifoedd ac er, yn 1726 nodwyd bod y boblogaeth wedi tyfu roedd y dref, yn a very black and smoaky place[2] yn ôl Daniel Defoe yn 'A Tour through the Whole Island of Great Britain (cyhoeddwyd gyntaf 1723-26, adargraffwyd 1971).

Tŵf[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r stryd yn nodweddiadol am ei thai phreswyl mawr sy'n dyddio i ddechrau'r 19g, er, mae hen dafarn y Nag's Head sydd yn nodweddiadol am fod yn adeilad deulawr a tho serth yn awgrymu iddi gael ei hadeiladu yn 18g.

Yn ystod dechrau'r 19g daeth y dref yn fwy ffasiynol a llewyrchus fe adeiladwyd tai tref (town houses). Disgrifiwyd T.L.J. Pritchard yn ei New Aberystwyth Guide (Aberystwyth, 1824); The great influx of strangers ... continually increasing jas caused a considerable number of houses to be built and some in a style of superior elegance.[2] ar hyd y stryd gan gynnwys Westminster House gan Pughiaid Abermad a Loveden House (25 Heol y Bont) a adeiladwyd gan Pryses Gogerddan.

Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Gyda'i thai tref mawr Sioraidd tri neu bedwar llawr a seler, mae Heol y Bont yn stryd sy'n llawn fflatiau a phreswyliau myfyrwyr a phobl sengl neu gyplau. Prin yw'r teuluoedd bellach. Ceir rhai amrywiaeth fechan o fusnesau ar y stryd gan gynnwys:

  • Siop Inc - siop lyfrau a nwyddau Cymraeg ac y cyffordd gyda Lôn Rhosmari
  • Oriel y Bont - oriel fechan a siop fframio lluniau
  • Caffe Angheli - caffe Eidalaidd
  • Siop Bwci; siopau trin gwallt
  • Mae siop jips a thafarn y Nag's Head (un o dafarndai hynaf Aberystwyth) bellach wedi cau.

Banc y Ddafad Ddu a Banc y Llong[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolwyd Banc y Llong ar Heol y Bont yn 1762 a hefyd Banc y Ddafad Ddu ar Stryd y Bont. Dau fanc gynhenid Gymreig o'r 18g.

Tafarn yr Hen Lew Du[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Hen Lew Du, 2014

Lleolir un o dafarnhau hynaf a mwyaf enwog Aberystwyth ar dop Heol y Bont, Tafarn yr Hen Lew Du, Aberystwyth. Roedd yn fan cyfarfod y Cambrian Society a sefydlwyd yn 1822 a hefyd yn fan cyfarfod yr Union Club Society a sefydlwyd yn 1834.[3] Roedd gan y dafarn stablau ar Heol y Wig. Defnyddiwyd yr enw 'Hen' o flaen 'Llew Du' i'w wahaniaethu rhag tafarn y Gogerddan Arms gerllaw a oedd hefyd yn cael ei alw'r 'Llew Du' ar adegau (llew du yw prif ddelwedd arfbais teulu Gogerddan a'r rheswm fod gymaint o dafarnhau Ceredigion gyda thafarndai o'r enw 'Llew Du').

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiraidau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.aber.ac.uk/en/media/2012-Campus-Plans(E)web2.pdf
  2. 2.0 2.1 2.2 https://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/130812aberystwyth-understandingurbancharacteren.pdf
  3. http://pint-of-history.wales/explore.php?func=showpub&id=10