Pont Trefechan
Gwedd
| Math | pont ffordd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Aberystwyth |
| Sir | Ceredigion |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 0.2 metr |
| Cyfesurynnau | 52.411433°N 4.085094°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Pont yn Aberystwyth, Ceredigion, yw Pont Trefechan (Cyfeirnod OS: SN 5827 8133). Llifa Afon Rheidol oddi tani ac mae hi'n dwyn y briffordd A487 dros yr afon honno.
Protest Cymdeithas yr Iaith
[golygu | golygu cod]Mae gan y bont le pwysig yn hanes yr ymgyrch i ennill statws i'r iaith Gymraeg yng Nghymru. Ar 2 Chwefror 1963 gwelwyd protestiadau torfol cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan gan fyfyrwyr o golegau Aberystwyth a Bangor yn bennaf.
