Neuadd y Brenin, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Hen Neuadd y Brenin ar fwydlen bwyty Baravin sydd ar safle'r hen neuadd

Roedd Neuadd y Brenin (Saesneg: The King's Hall) yn ganolfan adloniant a chyngherddau sylweddol yng nghanol tref Aberystwyth a adeiladwyd yn 1934 a'i dymchwel yn 1989. Roedd yn sefyll rhwng Ffordd y Môr (Promenâd Aberystwyth) a Stryd y Baddon.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Lleoliad Llys-y-Brenin, 2001

Adeiladwyd Neuadd y Brenin yn 1934 a'i dymchwel yn 1989.[2] Fe'i hagprwyd yn swyddogol ar 27 Mehefin 1934.[3]

Cynlluniawyd y neuadd mewn arddull Art Deco trawiadol a'i phaentio'n lliwiau pastel a gwyn.

Enw gwreiddiol y neuadd oedd y Municipal Hall neu Municipal Pavilion. Newidiwyd yr enw yn swyddogol i'r King's Hall ym mis Ionawr 1937. Mae'r enw'n cyfeirio at Siôr VI, brenin Lloegr a oedd newydd ei wneud yn frenin yn Rhagfyr 1936, ychydig wythnosau ynghynt. Fe reolwyd yr adeilad a threfnwyd yr adloniant gan reolwr a 'phwyllgor hyrwyddo ac hdloniant' hen gyngor Bwrdeistref Aberystwyth.[4]

Defnydd[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei oes, cynhaliwyd digwyddiadau o bob math yno gan gynnwys eisteddfodau, ceir clatsio a ffair hap (amusements), gornestau reslo[5] a chyngherddau pop. Canodd sawl band roc poblogaidd, Saesneg yno, gan gynnwys; Led Zeppelin, Slade, Free [6] a'r The Rolling Stones [7] Roedd yno hefyd gaffi o fewn yr adeilad.[5]

Atgof[golygu | golygu cod]

Mae'r hen King's Hall yn dal yn atgof bwysig ymysg trigolion Aberystwyth. Wedi dymchwel yr hen adeilad enwyd y man ymgasglu a'r fflatiau a adeiladwyd yn ei le yn "Llys-y-Brenin" er cof am y neuadd. Cynhelir digwyddiadau torfol cyhoeddus yn Llys-y-Brenin o bryd i'w gilydd gan gynnwys seremoni Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth.

Ceir llun mawr o'r hen Neuadd y Brenin y tu fewn i fwyty 'Baravin' sy'n sefyll ar gornel ogledd-orllewinnol lle safai'r hen neuadd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.coflein.gov.uk/cy/site/23283/details/kings-hall-marine-terrace-aberystwyth
  2. "Archives Network Wales - King's Hall, Aberystwyth, Records". anws.llgc.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-03-25. Cyrchwyd 28 Mawrth 2018.
  3. archiveswales.llgc.org.uk; adalwyd 8 Hydref 2018.
  4. https://archiveswales.llgc.org.uk/anw/get_collection.php?inst_id=31&coll_id=1998&expand=
  5. 5.0 5.1 http://downloads.bbc.co.uk/wales/archive/bbc-mid-wales-aberystwyth-kings-hall-memories-photos.pdf
  6. "The Old Kings Hall". everythingaberystwyth.co.uk. Cyrchwyd 28 Mawrth 2018.
  7. "The Rolling Stones in Wales: were you there?". Wales. 12 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 28 Mawrth 2018.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]